Cymunedau a GDF
Gweithio mewn partneriaeth er mwyn siapio cynlluniau a buddion yn y dyfodol
Mae eich llais yn bwysig
Rydym ni nawr wedi dechrau proses i ddod o hyd i safle Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) ar gyfer gwastraff ymbelydrol yn y DU.
Bydd cymunedau yn ganolog i’r broses lleoli CGD a bydd cyfleuster yn cael ei adeiladu lle bydd safle A chymuned fodlon yn cael eu dewis.
Mae’r broses hon wedi’i seilio ar ganiatâd; bydd cymunedau’n gallu gweithio mewn partneriaeth â ni, fel bod pobl yn cael cyfle i greu dyfodol sy’n gweithio iddyn nhw.
Sut mae CGD yn gallu bod o fudd I gymuned
Bydd y broses o ddod o hyd i safle yn cymryd rhwng 15 a 20 mlynedd. Yna, dim ond ar ôl cael Prawf Cefnogaeth y Cyhoedd cadarnhaol ac ar ôl cael y caniatâd perthnasol gan y rheoleiddwyr annibynnol, y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gymunedau sydd â diddordeb, byddwn yn:
- helpu i dalu costau’r cymunedau sy’n ymgysylltu â’r broses
- buddsoddi hyd at £1 miliwn y flwyddyn mewn cymunedau unwaith y ffurfir Partneriaeth Gymunedol
- a hefyd, yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn mewn cymunedau lle bydd ymchwiliadau tyllau turio dwfn yn digwydd.
Ar ben hynny:
- bydd cannoedd o swyddi sy’n talu’n dda bob blwyddyn am dros ganrif ynghyd â chyfleoedd pellach ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol
- bydd prosiectau lleol yn elwa o gyllid buddsoddi cymunedol, a bydd modd gwella seilwaith a chyfleusterau cyhoeddus yn y tymor hir.
Ymunwch â’r sgwrs
Rydym ni wedi cynhyrchu Cyflwyniad ar Waredu Daearegol, sy’n rhoi trosolwg o’n gwaith i ddelio â gwastraff ymbelydrol, a sut y byddai’n gallu cefnogi twf mewn cymuned.
Er mwyn ymuno â’n trafodaethau cychwynnol, darllenwch ein Canllaw i Gymunedau i gael gwybodaeth fanwl ynglŷn â sut mae cymryd rhan.
Does dim angen i chi fod yn berchen ar dir na ffurfio grŵp i ddechrau trafodaeth â ni. Diben y trafodaethau hyn yw galluogi unrhyw un sydd â diddordeb yn y Broses Leoli i gael rhagor o wybodaeth ac i benderfynu a ydyn nhw’n dymuno bwrw ymlaen â’u diddordeb.
Rydym ni hefyd wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus Gwerthuso Safleoedd ar y modd y byddwn yn gwerthuso safleoedd yng Nghymru fel rhan o’r broses hon.
Mae ein dogfennau proses lleoli ar gyfer Cymru hefyd ar gael yn Saesneg
Rôl y llywodraeth
Yn y DU, mae rheoli gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig. Mae hyn yn golygu y gall gwahanol bolisïau Llywodraeth fod yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei pholisi ‘Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol:’Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad’. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn debyg i bolisi’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr, ond nid yn union yr un fath, a bydd yn adlewyrchu anghenion a buddiannau cymunedau yng Nghymru.
Polisi Llywodraeth y DU sy’n berthnasol yn Lloegr. Mae’n rhaid i ni ddod o hyd i safleoedd ar gyfer CGD sy’n addas yn dechnegol a chanddynt gymuned leol sy’n rhoi caniatâd pendant i ni fwrw ymlaen â datblygu.
Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am sicrhau na fydd unrhyw Gyfleuster Gwaredu Daearegol (CGD) arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd, ar iechyd nac ar ddiogelwch yng Ngogledd Iwerddon. Er bod Gogledd Iwerddon yn cydnabod ei bod er ei budd pennaf i gefnogi unrhyw fecanweithiau sy’n sicrhau bod y gwastraff hwn yn cael ei reoli yn y modd mwyaf diogel, byddai unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ynglŷn â gwaredu daearegol yng Ngogledd Iwerddon yn fater i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, sydd wedi’i hatal ar hyn o bryd.
Nid yw polisi’r Alban yn cynnwys gwaredu daearegol. Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei Strategaeth Weithredu ar gyfer polisi’r Alban ar wastraff ymbelydrol uwch ei actifedd ar ôl cynnal ymgynghoriad yn 2016.
Ein rôl
Mae Radioactive Waste Management Ltd (RWM) yn is-gwmni’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). Yn RWM, mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad o gynnal gwaith ymchwil a datblygu gwyddonol ym maes gwaredu daearegol.
Un o’n swyddogaethau yw dod o hyd i ddull diogel a pharhaol o reoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn y DU. Ein cyfrifoldeb ni yw rhoi gwaredu daearegol ar waith a darparu dulliau tymor hir o reoli gwastraff ymbelydrol. Mae cymunedau yn ganolog i’r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y CGD a rôl cymunedau yn y broses leoli, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost i gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn dod yn ôl atoch.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 September 2024 + show all updates
-
Added 'Six Siting Factors for a GDF' video
-
Updated page to reflect new government policy and added latest Journey to GDF video.
-
Page updated to include: Site Evaluation documents summary and the final Site Evaluation document.
-
Added translation
-
Broken links are fixed
-
Following publication of the policy by the Department for Business, Energy and Industrial Strategy, Radioactive Waste Management (RWM) now begins the search for a willing host community and a suitable site to construct a Geological Disposal Facility (GDF). The edit includes new information for the general public.
-
Added translation