Canllawiau

Ynglŷn â Sgrinio Daearegol Cenedlaethol (NGS) - Y Cefndir

Dull gweithredu ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd ar draws y DU

Dull gweithredu ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd ar draws y DU

Mae’r fframwaith ar gyfer rhoi’r broses o leoli cyfleuster gwaredu daearegol ar waith yn Lloegr wedi’i nodi ym Mhapur Gwyn 2018 Implementing Geological Disposal – Working with communities. Mae’r polisi’n disgrifio dull gweithredu’n seiliedig ar gydsyniad ar gyfer dod o hyd i safle addas mewn cymuned sy’n fodlon bod yn gartref i’r cyfleuster.

Mae gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig. Mae polisi Llywodraeth Cymru wedi’i nodi mewn dwy ddogfen: Rheoli a Gwaredu Gwastraff Ymbelydrol Uwch ei Actifedd a Gwaredu Gwastraff Ymbelydrol Uwch ei Actifedd yn Ddaearegol: Ymgysylltu â’r Gymuned a Phrosesau Lleoli. Mae’r dogfennau hyn yn disgrifio proses leoli’n seiliedig ar gydsyniad gyda’r un ymrwymiadau polisi cyffredinol ag sy’n cael eu gwneud yn Lloegr.

Mae’r canlyniadau sgrinio daearegol yn cynnwys Gogledd Iwerddon gan fod hwn yn ymrwymiad ym Mhapur Gwyn 2014 ‘Implementing Geological Disposal’ a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Byddai penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch polisi mewn cysylltiad â gwaredu daearegol yng Ngogledd Iwerddon yn fater i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, sydd wedi’i hatal ar hyn o bryd. Felly, yn absenoldeb parhaus y Weithrediaeth, nid oes modd gwneud rhagor o ymrwymiadau polisi ar hyn o bryd.

Mae gan Lywodraeth yr Alban bolisi ar wahân ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd, sef y dylai’r gwaith tymor hir o reoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd gael ei wneud mewn cyfleusterau agos i’r wyneb sydd wedi’u lleoli mor agos â phosibl i’r safleoedd lle mae’r gwastraff yn cael ei gynhyrchu.

Mae Sgrinio Daearegol Cenedlaethol yn darparu crynodeb lefel uchel o’r wybodaeth ddaearegol bresennol am y perthnasedd i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’n bosibl cael cyfleuster o dan yr wyneb sy’n ymestyn cannoedd o fetrau o dan y môr mewn craig, gyda’r gwaith ar yr wyneb yn digwydd ar y tir. Yn Sweden, bydd ei chyfleuster gwaredu daearegol yn ymestyn o dan y môr. Oherwydd hyn, mae ei gwaith sgrinio wedi ystyried y ddaeareg hyd at 20km o’r glannau er mwyn ateb dros gyfleuster o’r fath ar y glannau.

Perthnasedd i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol

Bydd diogelwch tymor hir cyfleuster gwaredu daearegol yn cael ei sicrhau drwy ddefnyddio dull aml-rwystr yn cynnwys cydrannau wedi’u hadeiladu a’r graig naturiol yn y safle. Mae disgrifiad o’r dull gweithredu hwn ar gael yma.

Our multi-barrier approach to safety

Ar sail gwaith yn y DU a thramor, rydyn ni wedi pennu tri math cyffredinol o graig a allai gynnwys cyfleuster gwaredu daearegol. Cliciwch y dolenni isod i weld sut gallai pob un o’r gwahanol fathau o graig gyfrannu at ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol.

Dull gweithredu ar gyfer sgrinio

Bydd y gwaith sgrinio’n darparu crynodeb lefel uchel o’r wybodaeth ddaearegol sy’n berthnasol i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol er mwyn llywio’r trafodaethau cychwynnol â chymunedau a allai fod â diddordeb mewn bod yn rhan o’r broses leoli. Yn ystod y broses leoli, bydd ein gwaith gwerthuso a dethol ar gyfer safleoedd posibl yn ystyried y nodweddion daearegol perthnasol mewn ffordd fanwl a fydd yn ystyried canllawiau rhyngwladol ac yn bodloni gofynion diogelwch rhyngwladol fel y nodir gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol.

Canllawiau Sgrinio

Mae’r dull gweithredu ar gyfer sgrinio daearegol wedi cael ei ddatblygu ar sail dealltwriaeth o ofynion diogelwch tymor hir, yn arbennig y cyfraniad at ddiogelwch mae’r amgylchedd daearegol yn ei ddarparu. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag Arolwg Daearegol Prydain ac arbenigwyr technegol eraill i gasglu gwybodaeth sy’n berthnasol i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol sydd ar gael ar raddfa genedlaethol.

Cafodd y canllawiau drafft eu hadolygu gan Banel Adolygu Annibynnol, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2015. Mae ein hymateb i’r adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn ar gael yma. Cafodd y Canllawiau Terfynol, sy’n ystyried yr adborth hwn, eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2016 ac maent i’w gweld yma.

Nodweddion daearegol

Mae sgrinio’n nodi lle gellir dod o hyd i graig â’r nodweddion daearegol priodol. Mae’n casglu’r wybodaeth bresennol am y canlynol at ei gilydd:

Cafodd y pynciau hyn eu dewis gan fod y wybodaeth yn ei gwneud hi’n bosibl cael dealltwriaeth o ba mor effeithiol gallai’r ddaeareg gynnwys gwastraff ymbelydrol a’i gadw ar wahân.

Gwybodaeth sy’n cael ei defnyddio ar gyfer gwaith sgrinio

Mae sgrinio daearegol yn ymarfer desg sy’n defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus yn bennaf, a hynny o waith mapio daearegol, arolygon geoffisegol a thyllau turio:

  • mae mapio daearegol yn cynnwys astudio’r creigiau lle maent yn bresennol ar yr wyneb neu mae modd cael atynt ar gyfer eu harchwilio’n uniongyrchol mewn ffordd arall (e.e. cloddfeydd).
  • mae ymchwiliadau geoffisegol yn cynnwys astudiaethau o feysydd disgyrchiant a magnetig y Ddaear ac arolygon seismig i ddelweddu’r iswyneb.
  • mae tyllau turio yn caniatáu mynediad at yr iswyneb a chasglu samplau o graig a dŵr.

Mae gwybodaeth ychwanegol yn cynnwys cofnodion hanesyddol o gloddfeydd, astudiaethau o ddaeargrynfeydd a rhewlifiannau blaenorol, a data o asiantaethau amgylcheddol.

Er mwyn gallu cynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae cydraniad y sgrinio wedi cael ei gadw ar lefel uchel – gan ddefnyddio mapiau sylfaen â graddfa o 1:625,000 lle mae centimedr yn cynrychioli tua chwe chilomedr. Mae hyn yn golygu nad yw’r amrywiadau lleol yn y nodweddion daearegol ar lefel uwch na hyn o fanylder wedi cael eu cynnwys.

At ddibenion y gwaith hwn, dim ond data a oedd ar gael yn gyhoeddus ar ddiwedd mis Chwefror 2016 gwnaeth Arolwg Daearegol Prydain eu defnyddio. Yr un eithriad oedd hyd a lled trwyddedau’r Awdurdod Olew a Nwy, a gafodd ei ddiweddaru i gynnwys data hyd ddiwedd mis Mehefin 2018.

Canlyniadau sgrinio

Adroddiadau Gwybodaeth Dechnegol

Mae’r wybodaeth ddaearegol sylfaenol wedi cael ei chasglu a’i hadrodd gan Arolwg Daearegol Prydain fel Adroddiadau Gwybodaeth Dechnegol ar ôl y Canllawiau Terfynol a rhoi’r Cyfarwyddiadau Technegol Manwl a ddatblygwyd at y diben ar waith. Yr Arolwg ydy’r prif ddarparwr data a gwybodaeth geowyddonol yn y DU ac mae’n darparu gwasanaethau arbenigol a chyngor diduedd ar bob elfen o geowyddoniaeth. Mae modd gweld yr Adroddiadau Gwybodaeth Dechnegol ar wefan Arolwg Daearegol Prydain yma.

Mae’r Adroddiadau wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer pob un o’r 13 rhanbarth daearegol a ddefnyddiwyd gan Arolwg Daearegol Prydain yn ei Ganllawiau Rhanbarthol. Mae cyfres cyhoeddiadau’r Canllawiau Rhanbarthol yn darparu strwythur lle mae ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth fanylach ar gael i’r rheini sydd am wybod mwy.

Mae’r Adroddiadau Gwybodaeth Dechnegol yn adroddiadau technegol sydd wedi’u bwriadu ar gyfer cynulleidfa ddaearegol, ond mae Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) wedi cynhyrchu crynodebau o nodweddion daearegol pob rhanbarth sydd wedi’u bwriadu ar gyfer cynulleidfa ehangach sy’n dechnegol ond yn llai daearegol ei natur.

Canlyniadau Sgrinio Daearegol Cenedlaethol

Fe wnaethom wedyn ddefnyddio ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o waredu daearegol i ddehongli’r wybodaeth ddaearegol a ddarparwyd gan Arolwg Daearegol Prydain ar gyfer pob rhanbarth o ran ei berthnasedd i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol. Mae’r canlyniadau sgrinio ar ffurf naratifau, mapiau a fideos.

I gyflwyno’r casgliadau hyn mewn ffordd gryno a hygyrch, rydym wedi rhannu rhanbarthau’n isranbarthau. Rydym wedi dewis isranbarthau â nodweddion daearegol eithaf tebyg , ond mae cryn dipyn o amrywioldeb ym mhob isranbarth o hyd. Gallai’r ffiniau rhwng isranbarthau gyfateb yn lleol i hyd a lled math penodol o graig o ddiddordeb neu gyfateb i nodweddion arwahanol fel ffawtiau.

Ar gyfer pob isranbarth, mae crynodeb annhechnegol o berthnasedd y ddaeareg i ddiogelwch cyfleuster gwaredu daearegol wedi’i ddarparu. Mae’r rhain wedi’u hategu gan grynodebau manylach sydd wedi’u bwriadu ar gyfer cynulleidfa sy’n dechnegol heb fod yn ddaearegol ei natur.

Adolygiad annibynnol

Mae’r dull gweithredu ar gyfer sgrinio a’i ddefnydd gan RWM ac Arolwg Daearegol Prydain wedi cael ei adolygu gan Banel Adolygu Annibynnol, a sefydlwyd gan Gymdeithas Ddaearegol Llundain, i fagu hyder yng nghadernid y canlyniadau. Roedd y Panel yn gweithredu’n annibynnol ar y Gymdeithas Ddaearegol, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac RWM. I ddechrau, bu’n ymgysylltu ag RWM a’i gontractwyr, aelodau o’r cyhoedd a rhanddeiliaid â diddordeb yn ystod y gwaith o ddatblygu’r canllawiau sgrinio yn 2015. Roedd y Panel yn cynnwys unigolion ag amrywiaeth eang o arbenigrwydd ym maes geowyddoniaeth, gan gynnwys arbenigwyr o’r DU, Canada a Sweden, â’u cefndir yn y diwydiant a’r byd academaidd.

Mae mwy o fanylion am y Panel Adolygu Annibynnol a’i waith yn goruchwylio’r ymarfer Sgrinio Daearegol Cenedlaethol ar gael yma.

Sgrinio yng nghyd-destun lleoli

Daeareg yng nghyd-destun lleoli ehangach

Mae’r wybodaeth sgrinio lefel uchel wedi cael ei chyhoeddi er mwyn darparu sail ar gyfer y trafodaethau ynghylch pa mor addas ydy daeareg leol ar gyfer lleoli cyfleuster gwaredu daearegol.

Bydd y canlyniadau hefyd yn llywio cynlluniau gwaith pellach mewn ardaloedd lle mae gan gymunedau ddiddordeb mewn bod yn gartref i gyfleuster gwaredu daearegol.

Dim ond y nodweddion daearegol sy’n berthnasol i leoli cyfleuster gwaredu daearegol mae’r Sgrinio Daearegol Cenedlaethol yn eu hystyried. Rhaid ystyried nifer o ffactorau eraill wrth leoli cyfleuster, gan gynnwys:

  • diogelwch
  • diddordeb cymunedol
  • dichonoldeb peirianyddol
  • yr amgylchedd
  • trafnidiaeth
  • cost

Mae’r Fframwaith Gwerthuso Lleoliadau mae RWM wedi’i ddatblygu i ystyried y ffactorau hyn i’w weld yma.

Y camau nesaf o ran nodweddion daearegol

Dim ond gwybodaeth ddaearegol ar raddfa genedlaethol mae ein gwaith sgrinio wedi’i defnyddio. Os oes gan gymunedau ddiddordeb, byddai’n rhaid gwneud rhagor o waith ar y ddaeareg er mwyn cynyddu’r ddealltwriaeth sydd ei hangen i benderfynu a ydy ardal yn addas ai peidio.

Byddai astudiaethau desg yn cael eu cynnal yn gyntaf, gan ymgorffori gwybodaeth leol fanwl. Byddai hyn yn cynnwys edrych ar unrhyw wybodaeth am ddyfnder prif ddyfrhaenau ac ystyried dyfrhaenau eilaidd, sydd o bwysigrwydd lleol ac felly heb gael eu hystyried fel rhan o’r ymarfer cenedlaethol hwn.

Os oes gan gymunedau ddiddordeb a bod gan y ddaeareg botensial, bydd RWM yn comisiynu ymchwiliadau newydd i fynd i’r afael â bylchau mewn dealltwriaeth o ddaeareg. Yn gyntaf, gallai’r rhain gynnwys arolygon geoffisegol o’r awyr. Wedyn, byddai angen cynnal arolygon geoffisegol ar y tir a drilio tyllau turio er mwyn darparu’r lefel o wybodaeth sydd ei hangen i nodi safle sy’n cael ei ffafrio ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol.

Ni fydd modd pennu a ydy rhywle’n addas ai peidio nes bod RWM a’r rheoleiddwyr annibynnol yn fodlon bod y ddealltwriaeth o’r ddaeareg yn ddigonol i gefnogi dyluniad a diogelwch cyfleuster gwaredu daearegol mewn safle penodol.

Mae mwy o fanylion am y Broses Leoli ehangach ar gael yma.

Mae manylion am sut mae gwledydd eraill wedi mynd ati i leoli a gwneud gwaith sgrinio ar gael yma.

Mae canlyniadau Sgrinio Daearegol Cenedlaethol yn dangos bod craig addas ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol yn debygol o gael ei chanfod o dan ran fawr o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cliciwch yma i ddychwelyd i hafan Sgrinio Daearegol Cenedlaethol a chael mwy o wybodaeth am eich rhanbarth.

Cysylltu

Os oes gennych chi gwestiwn am Sgrinio Daearegol Cenedlaethol, anfonwch e-bost i gdfenqcymru@nda.gov.uk.

Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio gdfenqcymru@nda.gov.uk a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin

Ewch i wefan gwaredu daearegol

Cyhoeddwyd ar 19 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2019 + show all updates
  1. Page refresh in line with launch of Welsh Government policy

  2. First published.