Cadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol

Sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad wrth ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Unwaith eich bod chi wedi gwneud yr holl addasiadau i’ch incwm a threuliau busnes, bydd angen i chi gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol am y flwyddyn.

Mae’n rhaid i chi anfon gwybodaeth at CThEF am y ffynonellau incwm arall sydd gennych, fel incwm o gynilion neu ddifidendau cyn cadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol.

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i CThEF am eich holl incwm trethadwy am y flwyddyn, gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol.

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, byddwch yn datgan y canlynol:

  • bod yr wybodaeth a roddwyd gennych yn gywir ac yn gyflawn

  • rydych wedi cadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol ar gyfer y flwyddyn dreth

Defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu

Bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol trwy’ch meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Nid yw’n bosibl defnyddio eich gwasanaethau ar-lein CThEF mwyach i gyflwyno’ch ffynonellau incwm eraill.

Os nad yw’ch meddalwedd presennol yn cefnogi cyflwyno’ch ffynonellau incwm eraill, gofynnwch i’ch darparwr meddalwedd a fyddant yn ychwanegu hyn at eich meddalwedd sy’n cydweddu.

Os nad ydyn nhw’n ychwanegu’r swyddogaeth hon neu os na fydd yn ei le cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, gallwch naill ai:

  • dewis meddalwedd ychwanegol neu feddalwedd arall sy’n cydweddu a fydd yn cefnogi cyflwyno’ch ffynonellau incwm arall

  • cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am arweiniad

Pryd i gadarnhau’ch sefyllfa o ran Treth Incwm yn derfynol

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth berthnasol. Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, yna byddwch yn agored i gosb am gyflwyno’n hwyr. Unwaith eich bod chi wedi cyrraedd trothwy nifer y pwyntiau cosb, yna daw’r gosb yn un ariannol.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Yna, bydd yr wybodaeth a roddwch i CThEF yn cael ei defnyddio i gynhyrchu eich bil treth Hunanasesiad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os na fyddwch yn talu’ch bil treth Hunanasesiad erbyn y dyddiad cau perthnasol, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb am dalu’n hwyr. Ni fydd y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn newid y ffordd rydych yn talu treth na’r dyddiadau cau ar gyfer taliadau.