Summary
Arweiniad i unig fasnachwyr, landlordiaid ac asiantau sydd am wirfoddoli i ddefnyddio a phrofi'r ffordd newydd gan CThEF o roi gwybod am incwm a threuliau ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Mae’r arweiniad hwn yn ymwneud â beth i’w wneud ar ôl i chi gofrestru. Fodd bynnag, mae’r pennawd dechrau arni yn crynhoi’r hyn y mae angen i chi ei wneud ymlaen llaw, gan gynnwys dewis ac awdurdodi’ch meddalwedd.
Rhoi adborth
Bydd yr arweiniad hwn yn cael ei ddiweddaru wrth i’r gwasanaeth newydd gael ei brofi a’i fireinio. Os nad yw’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, anfonwch e-bost i hmrcguidanceteam@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni ar beth yw’ch barn chi ynglŷn â sut gallwn wella’r gwasanaeth.
Contents
-
Ynglŷn â’r cynllun Troi Treth yn Ddig-idol ar gyfer Treth Incwm a beth i’w ddisgwyl eleni.
-
Sut i ddewis y feddalwedd rydych am ei defnyddio a chofrestru.
-
Sut i gadw cofnodion digidol o’ch incwm a’ch treuliau.
-
Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.
-
Sut i wneud addasiadau ar ôl i chi gyflwyno eich diweddariad chwarterol terfynol.
-
Sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad wrth wirfoddoli i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Cewch o hyd i help, gan gynnwys help gan CThEF, os oes ei angen arnoch.