Back to contents

Gwneud unrhyw addasiadau i’ch incwm busnes

Sut i wneud addasiadau ar ôl i chi gyflwyno eich diweddariad chwarterol terfynol.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch pedwerydd diweddariad chwarterol, bydd eich meddalwedd yn dangos eich incwm a threuliau ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan – a hynny ar gyfer pob busnes sydd gennych.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud addasiadau i’r data a gyflwynwyd gennych. Mae’r addasiadau hyn yn cynnwys:

  • addasu gwerth trafodion unigol
  • gwneud addasiadau cyfrifyddu, megis addasu ar gyfer croniadau a rhagdaliadau
  • gwneud addasiadau treth, megis dileu treuliau na ellir eu caniatáu
  • hawlio rhyddhadau neu lwfansau, megis y rhyddhad rhentu ystafell neu lwfansau cyfalaf
  • etholiadau, megis defnyddio’r lwfans incwm masnachu yn hytrach na didynnu eich treuliau

Addasu trafodion

Mae’n bosibl y bydd angen i chi addasu cofnod digidol unigol o drafodyn. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch gamgymeriad wrth greu cofnod digidol
  • gwnaethoch anghofio cofnodi traul neu incwm a gawsoch
  • mae angen i chi addasu cofnod o incwm, sy’n cynnwys cyfalaf a refeniw a dim ond y gyfran refeniw sydd angen ei chynnwys

Mae’n bosibl y bydd angen i chi newid, dileu neu greu cofnod digidol i addasu’r trafodyn. Os ydych chi’n defnyddio meddalwedd sy’n eich galluogi i gadw cofnodion digidol, gwnewch yr addasiad yn y feddalwedd. Os ydych chi’n cadw cofnodion digidol ar daenlen, gwnewch yr addasiad yn y daenlen a’i chysylltu’n ddigidol â’r feddalwedd bontio.

Bydd yr addasiadau hyn yn golygu y bydd angen i chi ail-gyflwyno’ch diweddariad chwarterol terfynol.

Os byddwch yn addasu trafodyn, mae angen i chi ailgyflwyno’r diweddariad chwarterol a oedd yn cynnwys y trafodyn.

Os oes gennych asiant ond nad yw’n cadw cofnodion digidol ar eich rhan, dylai roi gwybod i chi am unrhyw addasiadau y mae angen i chi eu gwneud.

Addasu cyfansymiau’r categori

Gallwch wneud rhai addasiadau trwy newid y cyfanswm ar gyfer categori traul. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi addasu pob trafodyn unigol perthnasol.

Er enghraifft, gallwch addasu’r categori traul ar gyfer costau ffôn yn gymesur â’r swm rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes.

Nid yw’r addasiadau hyn yn gofyn i chi ail-gyflwyno’ch diweddariad chwarterol terfynol.

Os oes gennych fwy nag un fasnach neu fusnes, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud addasiadau ar gyfer pob un ohonynt.

Os ydych yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth

Mae angen i chi wneud addasiad ar ddiwedd y flwyddyn dreth gyntaf yr ydych wedi dewis defnyddio cyfnodau diweddaru calendr. Mae hyn yn golygu bod eich incwm a’ch treuliau o 1 Ebrill i 5 Ebrill o ddechrau’r flwyddyn dreth honno wedi’u cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.

Er enghraifft, os byddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd angen i chi addasu’ch cyfansymiau i gynnwys eich incwm a’ch treuliau o 1 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2024.

I wneud hyn, bydd angen i chi addasu’r cyfansymiau ar gyfer categorïau incwm a threuliau perthnasol i gwmpasu’r cyfnod hwn yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.

Nid oes angen i chi wneud hyn ar gyfer blynyddoedd treth yn y dyfodol os ydych yn parhau i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Dysgwch ragor am reolau dyddiad cyfrifyddu hwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl gwneud eich addasiadau

Ar ôl i chi wneud eich addasiadau

  • bydd eich incwm busnes wedi’i gadarnhau yn eich meddalwedd sy’n cydweddu’n derfynol
  • byddwch yn gallu gweld amcangyfrif wedi’i ddiweddaru o’ch bil treth