Rhagarweiniad

Ynglŷn â’r cynllun Troi Treth yn Ddig-idol ar gyfer Treth Incwm a beth i’w ddisgwyl eleni.

Mae CThEF yn cyflwyno ffordd newydd o roi gwybod am incwm a threuliau, o’r enw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Mae’n rhan allweddol o Strategaeth Gweinyddu Treth (yn agor tudalen Saesneg) y llywodraeth i drawsnewid a moderneiddio’r system dreth bresennol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch drosolwg o’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol (yn agor tudalen Saesneg) CThEF.

Ynglŷn â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

O dan y ffordd newydd o roi gwybod, bydd angen i unig fasnachwyr a landlordiaid wneud y canlynol:

Pwy sydd angen ei wneud

Bydd y ffordd newydd o roi gwybod yn dod yn orfodol fesul cam, gan ddechrau o 6 Ebrill 2026. Bydd llawer o bobl yn gallu cofrestru’n wirfoddol o fis Ebrill 2024 ymlaen i helpu gyda phrofi a datblygu’r gwasanaeth.

Bydd yn rhaid i unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n ennill incwm o hunangyflogaeth neu eiddo gofrestru, oni bai bod y canlynol yn wir:

  • mae eu hincwm cymhwysol yn £30,000 neu lai (cyn i dreuliau neu drethi gael eu didynnu)
  • maent wedi’u heithrio rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae’n rhaid i’r rhai sydd ag incwm o fwy na £50,000 gofrestru o 6 Ebrill 2026 ymlaen.

Mae’n rhaid i’r rhai sydd ag incwm o fwy na £30,000 gofrestru o 6 Ebrill 2027 ymlaen.

Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu parhau i adolygu’r cynlluniau ar gyfer ehangu’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unig fasnachwyr a landlordiaid sydd ag incwm o dan £30,000.

I gael gwybodaeth fanwl am eithriadau a meini prawf cymhwystra, gwiriwch a fydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Pam dylech wirfoddoli i brofi’r gwasanaeth

Trwy gydol blwyddyn dreth 2024 i 2025, mae CThEF eisiau gweithio gydag ystod eang o fusnesau, asiantau a datblygwyr meddalwedd. Mae hyn yn ein helpu i brofi a datblygu’r ffordd newydd o roi gwybod am incwm a threuliau os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord.

Mae rôl yr asiant treth yn hanfodol i ddatblygu’r gwasanaeth. Mae CThEF wedi gwrando ar adborth gan asiantau sydd am wneud y canlynol:

  • bod yn rhan o brofi’r gwasanaeth drwy gydol cylchred treth lawn (21 mis)
  • deall a chefnogi gweithgareddau a chynlluniau CThEF

Drwy wirfoddoli i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:

  • byddwch yn gallu dylanwadu ar sut beth yw’r gwasanaeth yn y dyfodol
  • byddwch yn barod i gefnogi cleientiaid pan ddaw’r gwasanaeth yn orfodol
  • byddwch yn dod yn gyfarwydd â’r feddalwedd y byddwch yn ei defnyddio gyda’ch cleientiaid
  • byddwch yn cael cymorth penodol i’ch helpu pan fyddwch yn dechrau defnyddio’r gwasanaeth
  • byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gystadleuwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth, neu’n dechrau defnyddio’r gwasanaeth cyn iddynt ddefnyddio’r gwasanaeth eu hunain

Beth i’w ddisgwyl eleni

Ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd CThEF yn profi’r gwasanaeth newydd gyda nifer cyfyngedig o wirfoddolwyr.

Bydd hyn yn galluogi:

  • pob gwirfoddolwr (gan gynnwys asiantau a’u cleientiaid) i brofi a datblygu’r gwasanaeth, gan gynnwys ei gymorth a’i arweiniad
  • datblygwyr meddalwedd i brofi eu cynnyrch ochr yn ochr â gwasanaeth CThEF, a nodi a datrys problemau

Bydd CThEF yn cyflwyno swyddogaethau fesul cam, fel y gellir ychwanegu ffynonellau incwm newydd, a’u profi, neu eu dileu os nad ydynt yn berthnasol mwyach.

Mis Ebrill i fis Mehefin 2024

Bydd CThEF yn sicrhau y gall unig fasnachwyr a landlordiaid newydd gofrestru, a dim ond y rheini sy’n gymwys sy’n cofrestru.

Os ydych wedi gofyn am gael nodynnau atgoffa am derfynau amser allweddol, byddwn yn gwirio bod y rhain yn gweithio’n iawn.

Mis Gorffennaf i fis Medi 2024

Bydd CThEF yn gwneud y canlynol:

  • gwirio a ydych chi’n gallu gwneud eich diweddariad chwarterol
  • gwirio bod eich taliadau ar gyfrif wedi’u sefydlu’n gywir
  • gwirio bod eich taliadau wedi dod i law ac wedi’u cymhwyso ar eich cyfrif yn gywir
  • cynnal gwiriadau ar log rydych yn ei gronni os na fyddwch yn gwneud taliad
  • gwirio bod ad-daliadau awtomataidd yn gweithio

Mis Hydref i fis Rhagfyr 2024

Bydd CThEF yn gwneud y canlynol:

  • gwirio a ydych chi’n gallu gwneud eich diweddariad chwarterol
  • sicrhau y gallwch fwrw golwg dros eich taliad ar gyfrif am y flwyddyn bresennol — yn eich meddalwedd neu drwy wasanaethau ar-lein CThEF
  • gwirio bod balans eich taliad ar gyfrif yn cael ei ddiweddaru

Mis Ionawr i fis Mawrth 2025

Bydd CThEF yn gwneud y canlynol:

  • gwirio a ydych chi’n gallu gwneud eich diweddariad chwarterol
  • sicrhau eich bod wedi gallu cyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr
  • gwirio taliadau a godir ar falans eich taliad ar gyfrif a’ch bod yn gallu addasu’ch taliad ar gyfrif
  • sicrhau y gallwn addasu gwybodaeth ariannol yn eich cofnod â llaw a bod hyn yn trosglwyddo i’ch cyfrif

Profi pellach rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026

O 2025 ymlaen, bydd y rhan fwyaf o unig fasnachwyr a landlordiaid yn gallu gwirfoddoli i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd hyn yn eu galluogi i ymgyfarwyddo â defnyddio meddalwedd a chadw cofnodion digidol, cyn iddo ddod yn orfodol o fis Ebrill 2026 ymlaen.