Anfon diweddariadau chwarterol
Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.
Bob 3 mis, bydd eich meddalwedd sy’n cydweddu yn adio’ch cofnodion digidol at ei gilydd i greu cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a threuliau. Gelwir y crynodebau hyn yn ddiweddariadau chwarterol.
Ar ôl cyflwyno diweddariad, byddwch yn gallu gweld amcangyfrif o’ch bil treth ar gyfer incwm eich busnes yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau cyfrifyddu na threth cyn anfon diweddariad, ond mae croeso i chi wneud os hoffech i’ch bil treth amcangyfrifedig fod yn gywirach.
Er enghraifft, os ydych yn defnyddio’ch safle busnes fel eich cartref, efallai y bydd angen i chi addasu’r treuliau yr ydych yn eu hawlio yn gymesur ag unrhyw ddefnydd nad yw’n ymwneud â’r busnes. I wneud hyn, byddech yn:
- creu cofnod digidol ar gyfer y treuliau
- addasu’r swm a hawliwyd yn gymesur â chanran y defnydd nad yw’n ymwneud â busnes
Ar ôl i’ch meddalwedd sy’n cydweddu cael ei hawdurdodi, bydd angen i chi anfon diweddariadau atom ar gyfer pob ffynhonnell incwm busnes bob 3 mis. Bydd eich meddalwedd yn rhoi gwybod i chi bryd a sut i anfon diweddariadau.
Gallwch anfon diweddariadau yn amlach – er enghraifft, os ydych am ddeall sut mae derbyniadau neu dreuliau busnes sylweddol yn effeithio ar eich bil treth amcangyfrifedig. Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd sy’n cydweddu yn caniatáu i chi anfon diweddariad ar unrhyw ddiwrnod.
Os nad ydych yn disgwyl y bydd gennych unrhyw drafodion ychwanegol i’w cofnodi, gallwch anfon diweddariad hyd at 10 diwrnod cyn diwedd y cyfnod diweddaru. Er enghraifft, os ydych yn mynd ar wyliau ac yn gwybod na fyddwch yn gweithio am weddill y cyfnod.
Rhoddir y cyfnodau diweddaru safonol a’r dyddiadau cau ym mhob blwyddyn dreth yn y tabl hwn.
Ar ôl i bob cyfnod o 3 mis ddod i ben, mae angen i chi anfon eich diweddariad cyn pen mis. Os na fyddwch yn ei anfon erbyn y dyddiad cau hwn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb am gyflwyno’n hwyr. Nid yw’r cosbau hyn yn berthnasol yn ystod y cyfnod profi.
Mae’r cyfnodau diweddaru safonol yn seiliedig ar y flwyddyn dreth, a rhoddir y dyddiadau cau yn y tabl canlynol.
Cyfnod diweddaru | Dyddiad cau diweddaru |
---|---|
6 Ebrill hyd at 5 Gorffennaf | 5 Awst |
6 Gorffennaf hyd at 5 Hydref | 5 Tachwedd |
6 Hydref hyd at 5 Ionawr | 5 Chwefror |
6 Ionawr hyd at 5 Ebrill | 5 Mai |
Fel arall, gallwch ddewis defnyddio cyfnodau diweddaru calendr sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis. Mae’n rhaid i chi ddewis cyfnodau diweddaru calendr yn eich meddalwedd sy’n cydweddu cyn i’r diweddariad cyntaf gael ei wneud.
Bydd angen i chi fodloni’r un dyddiadau cau â chyfnodau diweddaru safonol.
Cyfnod diweddaru | Dyddiad cau diweddaru |
---|---|
1 Ebrill i 30 Mehefin | 5 Awst |
1 Gorffennaf i 30 Medi | 5 Tachwedd |
1 Hydref i 31 Rhagfyr | 5 Chwefror |
1 Ionawr i 31 Mawrth | 5 Mai |