Help a chymorth
Dewch o hyd i help, gan gynnwys help gan CThEF, os oes ei angen arnoch.
Cyn cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n bosibl y byddwch am gael rhagor o wybodaeth neu am gysylltu â CThEF am gymorth. Os ydych eisoes wedi cofrestru, gallwch ddysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i chi yn yr adran Ar ôl i chi gofrestru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm drwy ddarllen yr adran Cyn i chi gofrestru.
Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys:
- pwy all defnyddio’r gwasanaeth a phryd
- pwy all wirfoddoli i’n helpu gyda phrofi a datblygu’r gwasanaeth
- sut i ddewis meddalwedd sy’n cydweddu
- sut y gallwch gofrestru
Ffoniwch CThEF i gael cyngor os na allwch ddatrys eich problem ar-lein na thrwy gysylltu â’ch darparwr meddalwedd.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Fel rhan o’r cyfnod profi, bydd tîm penodedig ar gael i chi a’ch asiant (os oes gennych un) er mwyn eich helpu gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd eich llythyr croeso yn cynnwys rhif ffôn uniongyrchol ar gyfer y Tîm Cymorth i Gwsmeriaid.
Dysgwch sut y gall y tîm eich helpu yn yr adran Ar ôl i chi gofrestru.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os nad ydych wedi cofrestru eto, darllenwch ein harweiniad yn gyntaf. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Dylai’ch darparwr meddalwedd gynnig ei arweiniad ei hun ynghylch sut i ddefnyddio ei feddalwedd.
Cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd os oes gennych broblem neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda’i feddalwedd.