Ar ôl i chi gofrestru
Dysgwch pa gymorth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’ch gwasanaeth treth ar-lein newydd.
Ar ôl i chi gofrestru i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwch yn cael mynediad at dîm cymorth penodedig yn CThEF. Byddwch hefyd yn gallu adolygu a diweddaru eich manylion drwy wasanaethau ar-lein CThEF.
Cyn i chi fynd yn eich blaen, gwiriwch eich bod wedi cwblhau bob cam — yn cynnwys awdurdodi’r feddalwedd a ddewiswyd gennych — sydd i’w gweld yn cyn i chi cofrestru.
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwch yn gallu cysylltu â thîm cymorth penodedig CThEF. Byddwn yn cynnwys y rhif ffôn pan fyddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich bod wedi cofrestru.
Sut all y tîm helpu
Gall y tîm dim ond helpu gydag ymholiadau treth ar gyfer unigolion sy’n defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Gall y tîm helpu chi a’ch asiant gyda’r canlynol:
- incwm a threuliau i’w cynnwys gyda’ch cyflwyniadau
- taliadau ac ad-daliadau
- dyddiadau cyflwyno
- cosbau
- rhoi gwybod am wallau ar gyfrifiadau, datganiadau a thaliadau yn deillio o gyflwyniadau
- Hunanasesiad ac Enillion Cyfalaf yn cynnwys blynyddoedd cyn y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
- TWE yn cynnwys codau treth
Ni all y tîm eich helpu gyda’r canlynol:
- Treth Gorfforaeth
- TAW
- Yswiriant Gwladol (ar wahân i Hunanasesiad)
Ni all y tîm rhoi cyngor ynghylch meddalwedd penodol.
Os oes angen help arnoch gyda’ch meddalwedd
Bydd bob cynnyrch yn gweithio’n wanhaol yn dibynnu ar faint mae’r darparwr meddalwedd wedi ei datblygu.
Cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd yn gyntaf ar gyfer unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol, yn cynnwys awdurdodi’ch meddalwedd.
Dylai eich darparwr meddalwedd eich cyfeirio at wasanaeth gwahanol er mwyn rhoi gwybod am unrhyw ffynonellau incwm nad yw ei meddalwedd yn delio gyda.
Gallwch gael mynediad at eich cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm newydd drwy eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF presennol.
Ar gyfer unigolion
Defnyddiwch yr un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a defnyddiwyd gennych pan ydych yn mewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF.
Os na allwch gael mynediad at y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel gwasanaeth:
-
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.
-
Dewiswch yr opsiwn ar gyfer ychwanegu treth at eich cyfrif er mwyn cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun.
-
Dewiswch yr opsiwn ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Atebwch y cwestiynau diogelwch.
Ar gyfer asiantau
Ar ôl i chi gael eich awdurdodi gan eich cleient, gallwch gael mynediad at fanylion cyfrif y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm eich cleient o hafan eich cyfrif gwasanaethau asiant.
Ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gallwch wneud y canlynol:
- bwrw golwg dros gyfrifiadau treth Hunanasesiad
- bwrw golwg dros gyfnodau diweddariadau chwarterol
- bwrw golwg dros ddyddiadau cau ar gyfer diweddariadau chwarterol a Ffurflenni Treth Hunanasesiad
- gwirio’r hyn sydd arnoch
- bwrw golwg dros eich manylion Hunanasesiad a manylion eich busnes eiddo
- ychwanegu busnes newydd
- rhoi gwybod i ni pryd mae ffynhonnell incwm yn dod i ben
- gwneud taliad
Cysylltwch â’n tîm cymorth i gwsmeriaid i wneud newidiadau eraill i’ch manylion busnes.
Yr hyn y gallwch ei wneud yn y dyfodol
Byddwch yn gallu:
- hawlio ad-daliadau Hunanasesiad
- addasu taliad ar gyfrif
- trefnu taliadau rheolaidd (ar wahân i asiantau na all drefnu debyd uniongyrchol cleient)
- optio allan o ddiweddariadau chwarterol (gall pob cwsmer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm gwneud hyn)
- diweddaru manylion busnes
- rhoi manylion banc ar gyfer ad-daliadau yn y dyfodol (ar wahân i asiantau)
- argraffu cyfrifiadau treth Hunanasesiad
- bwrw golwg dros gosb ac apelio yn ei herbyn
- cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer cleientiaid nad yw’n defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Bydd angen i chi ddechrau creu cofnodion digidol.