Back to contents

Cadarnhau eich sefyllfa treth incwm yn derfynol

Sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad wrth wirfoddoli i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Unwaith y byddwch wedi gwneud yr holl addasiadau i incwm a threuliau eich busnes, bydd angen i chi gadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol ar gyfer y flwyddyn.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi anfon gwybodaeth am ffynonellau incwm personol, megis cynilion neu incwm difidend, at CThEF.

Nid yw’r ffynonellau incwm hyn yn cyfrannu at eich incwm cymwys. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi eu cynnwys yn eich diweddariad chwarterol, ond gallwch ddewis gwneud hynny os oes gan eich meddalwedd y swyddogaeth i wneud hynny.

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i CThEF am eich holl incwm trethadwy am y flwyddyn, gallwch wneud eich datganiad terfynol.

Dyma’r cam olaf o roi gwybod am eich incwm i CThEF a chyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Mae angen i chi wneud datganiad terfynol hyd yn oed os nad oes gennych ffynonellau incwm personol.

Pan fyddwch yn gwneud eich datganiad terfynol, byddwch yn datgan:

  • bod yr wybodaeth a roddwyd gennych yn gywir ac yn gyflawn
  • rydych wedi cadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol ar gyfer y flwyddyn dreth

Defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu

Gallwch wneud eich datganiad terfynol trwy eich meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • gallwch gyflwyno data ar eich holl ffynonellau incwm personol trwy eich meddalwedd
  • nid oes gennych unrhyw ffynonellau incwm personol i’w datgan

Defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF

Os nad yw’ch meddalwedd yn cefnogi cyflwyno eich ffynonellau incwm personol, bydd yn bosibl defnyddio eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF i gyflwyno’r data hwn yn lle.

Pryd i gadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol

Mae’n rhaid i chi wneud eich datganiad terfynol erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth berthnasol. Os byddwch yn colli’r dyddiad cau ar gyfer eich datganiad terfynol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb am gyflwyno’n hwyr.

Yna, bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio i gynhyrchu eich bil treth Hunanasesiad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os na fyddwch yn talu’ch bil treth Hunanasesiad erbyn y dyddiadau cau perthnasol, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb am dalu’n hwyr. Ni fydd y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn newid y ffordd rydych yn talu treth na’r dyddiadau cau ar gyfer taliadau.