Sut i gofrestru ar gyfer y cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Canllawiau ar gofrestru ar gyfer y cynllun Hyderus o ran Anabledd, a sut y gall helpu'ch busnes.
Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o’r doniau y gall pobl anabl ddod i’ch gweithle.
Mae cyflogwyr Hyderus o Ran Anabledd o bob maint yn:
-
herio agweddau tuag at anabledd
-
cynyddu dealltwriaeth o anabledd
-
dileu rhwystrau i bobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor
• sicrhau bod pobl anabl yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn ffurf hawdd ei ddarllen.
Cofrestrwch i’r cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae sefydliadau Hyderus o ran Anabledd yn chwarae rhan flaenllaw wrth newid agweddau er gwell. Maent yn newid ymddygiad a diwylliannau yn eu busnesau, rhwydweithiau a chymunedau eu hunain, ac yn elwa ar arferion recriwtio cynhwysol.
Mae cofrestru i fod yn Ymroddedig i Hyderus o ran Anabledd (Lefel 1) yn syml a dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd.
Cofrestru i fod yn Hyderus o ran Anabledd
Pam ddylech chi ddod yn Hyderus o ran Anabledd
Gallai bod yn Hyderus o ran Anabledd eich helpu i ddarganfod rhywun nad yw eich busnes yn gallu gwneud hebddynt.
P’un a yw gweithiwr wedi dod yn anabl yn ystod eu bywyd gwaith, neu os ydych yn chwilio am staff newydd, gall bod yn Hyderus o ran Anabledd helpu’ch pobl i gyflawni eu potensial a chyfrannu’n llawn at lwyddiant eich tîm.
Drwy fod yn Hyderus o ran Anabledd, byddwch hefyd yn cael eich ystyried yn arwain y ffordd yn eich sector busnes a thu hwnt, gan helpu i newid agweddau, ymddygiadau a diwylliannau yn gadarnhaol.
Mae Hyderus o ran Anabledd yn helpu busnesau:
-
ddefnyddio’r gronfa dalent ehangaf bosibl
-
cael a chadw staff o ansawdd uchel sy’n fedrus, yn deyrngar ac yn gweithio’n galed
-
arbed amser ac arian ar gostau recriwtio a hyfforddiant drwy leihau trosiant staff
-
cadw sgiliau a phrofiad gwerthfawr
-
lleihau lefelau a chostau absenoldebau salwch
-
gwella morâl ac ymrwymiad gweithwyr trwy ddangos eu bod yn trin pob gweithiwr yn deg
Sut i ddod yn Hyderus o ran Anabledd
Mae gan y cynllun 3 lefel sydd wedi’u cynllunio i’ch cefnogi ar bob cam ar eich taith Hyderus o ran Anabledd. Rhaid i chi gwblhau pob lefel cyn symud ymlaen i’r lefel nesaf.
Lefel 1: Hyderus o ran Anabledd
Er mwyn cael eich cydnabod yn Ymroddedig i Hyderus o ran Anabledd, rhaid i chi gytuno i’r ymrwymiadau Hyderus o ran Anabledd a nodi o leiaf un cam gweithredu y byddwch yn ei wneud i wneud gwahaniaeth i bobl anabl.
Yr ymrwymiadau yw:
-
recriwtio cynhwysol a hygyrch
-
cyfathrebu swyddi gwag
-
cynnig cyfweliad i bobl anabl
-
darparu addasiadau rhesymol
• cefnogi gweithwyr presennol
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys (rhaid i chi nodi o leiaf un):
-
profiad gwaith
-
treialon gwaith
-
cyflogaeth â thâl
-
prentisiaethau
-
cysgodi swyddi
-
hyfforddeiaethau
-
interniaethau
-
lleoliadau myfyrwyr
-
lleoliadau’r academi gwaith yn seiliedig ar sector
Efallai bod eich busnes eisoes yn gwneud y pethau hyn. Os felly, mae’r cynllun yn ffordd wych o roi gwybod i bawb eich bod o ddifrif am gyfleoedd cyfartal i bobl anabl.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru i fod yn Ymroddedig i Hyderus o ran Anabledd byddwch yn derbyn:
-
cadarnhad o’ch aelodaeth a thystysgrif Hyderus o ran Anabledd i gydnabod eich cyflawniad
-
bathodyn sy’n dangos eich bod yn Ymroddedig i Hyderus o ran Anabledd (Lefel 1) y gallwch ei ddefnyddio ar eich deunydd ysgrifennu, cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu busnes am 3 blynedd
-
gwybodaeth i’ch helpu i barhau â’ch taith i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Lefel 2: Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer lefel 1 gallwch symud ymlaen i lefel 2, Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, drwy hunanasesu eich sefydliad o gwmpas 2 thema:
-
dod o hyd i’r bobl iawn ar gyfer eich busnes
-
cadw a datblygu eich pobl
Cydnabyddir bod Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yn mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod pobl anabl yn cael cyfle teg.
Ar ôl cadarnhau eich bod wedi cwblhau eich hunanasesiad ar-lein, byddwch wedi’ch cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd am 3 blynedd. Byddwch yn derbyn:
-
cadarnhad o gwblhau eich hunanasesiad i ddod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd
-
tystysgrif i gydnabod eich cyflawniad
-
bathodyn Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd (lefel 2) y gallwch ei ddefnyddio ar eich deunydd ysgrifennu, cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebiadau busnes am 3 blynedd
-
gwybodaeth am sut i ddod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Lefel 3: Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Trwy ddod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwch yn gweithredu fel hyrwyddwr yn eich cymunedau lleol a busnes.
I gyrraedd y lefel hon, bydd angen i chi:
-
gael eich hunanasesiad wedi’i ddilysu gan rywun y tu allan i’ch busnes (heb gynnwys gweithwyr DWP mewn canolfannau gwaith)
-
darparu naratif byr i ddangos beth rydych wedi’i wneud neu y byddwch yn ei wneud i gefnogi’ch statws fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
-
cadarnhau eich bod yn cyflogi pobl anabl
-
adrodd ar anabledd, iechyd meddwl a lles, drwy gyfeirio at y Fframwaith Adrodd Gwirfoddol
Unwaith y byddwch yn cael eich cydnabod yn Ymroddedig i Hyderus o ran Anabledd, byddwch yn derbyn:
-
cadarnhad o gwblhau a dilysu eich hunanasesiad i ddod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
-
tystysgrif i gydnabod eich cyflawniad
-
bathodyn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (lefel 3) y gallwch ei ddefnyddio ar eich deunydd ysgrifennu, cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu busnes am 3 blynedd
Cyngor ar gyflogi pobl anabl
Darllenwch ein canllawiau ar gyflogi pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd.
Darganfyddwch y cymorth a’r gefnogaeth i bobl ifanc anabl ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.
Darllenwch help a chyngor gan ACAS ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr ar [wahaniaethu ar sail anabledd] (https://www.acas.org.uk/acas-guide-on-disability-discrimination).
Ceisiwch gyngor ar greu cyfathrebiadau cynhwysol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 14 Gorffennaf 2016Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Tachwedd 2019 + show all updates
-
Replaced the bullet points in section 'Level 3: Disability Confident Leader' to reflect the updated level 3 requirements.
-
Added information about workplace adjustments events in March 2018 to the 'Disability Confident activities' section.
-
Added a new section about Disability Confident activities.
-
Added Welsh versions of the Disability Confident employer packs for levels 1, 2 and 3.
-
Added links to level 2 and 3 sign up forms. Updated the PDF employer packs. Added links to lists of service providers and businesses that have signed up.
-
Published updated versions of the level 1, level 2 and level 3 employer packs.
-
First published.