Cael hyd i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yng Nghymru
Cael hyd i gymeradwywr rheolaeth adeiladu (RBCA) sydd wedi’i restru ar gofrestr cymeradwywyr rheolaeth adeiladu Cymru.
Yn berthnasol i Gymru
Rhaid i bob busnes sector preifat sydd am wneud gwaith rheolaeth adeiladu yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Adeiladu 1984 (fel y’i diwygiwyd) gofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau (BSR).
Mae’r gofrestr yn dangos:
- enw a chyfeiriad yr RBCA
- rhif cofrestru
- y math o waith rheolaeth adeiladu y mae’r RBCA wedi’i gofrestru i’w wneud
- dyddiad dechrau a gorffen y cofrestriad
- manylion amodau cofrestru
Chwilio’r gofrestr
Gallwch chwilio ag enw neu bori trwy’r holl gymeradwywyr rheolaeth adeiladu cofrestredig.
Sut i gofrestru fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu
I gofrestru fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu ffoniwch 0300 790 6787. Codir pris galwad safonol.
Cael help i ddefnyddio’r gofrestr
Cysylltwch â BSR os oes angen help arnoch chi gyda’r gofrestr o gymeradwywyr rheolaeth adeiladu.