Canllawiau

Cofrestrwch eich busnes fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu

Rhaid i bob busnes sector preifat sydd am wneud gwaith rheoli adeiladu yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Adeiladu 1984 (fel y'i diwygiwyd) wneud cais i gofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR).

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

I wneud cais, ffoniwch ni ar 0300 790 6787. Bydd eich cyfraddau galwadau arferol yn gymwys.

Byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost ac yn anfon ffurflen gais, taenlen a dolen ShareFile atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i lenwi a lanlwytho eich cais.

Pwy ddylai gofrestru

Gall Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (RBCA) fod yn fusnes annibynnol, yn rhan o grŵp corfforaethol ehangach, yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth.

Dylai uwch weithiwr sy’n gallu cynrychioli’r busnes gyflwyno’r cais. Er enghraifft, perchennog, cyfarwyddwr, partner neu uwch-reolwr. Y person hwn fydd prif gyswllt BSR.

Yr hyn y byddwn yn gofyn amdano

Yn ystod eich cais byddwn yn gofyn i chi ddarparu:

  • gwybodaeth am eich busnes, fel enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn
  • y swyddogaethau rheoli adeiladu y bydd eich busnes yn eu gwneud, ac a yw’n cynnig gwasanaethau ychwanegol heblaw i reoli adeiladu
  • gwybodaeth am y person y dylem gysylltu ag ef i drafod eich cais, fel enw, e-bost a rhif ffôn, a’i rôl yn y busnes
  • nifer yr arolygwyr adeiladu cofrestredig ac arolygwyr adeiladu sy’n aros i gael eu cofrestru y mae eich busnes yn eu cyflogi neu’n llunio contractau â nhw

Byddwn yn gofyn a yw eich busnes, neu a oedd, yn arolygydd cymeradwy sydd wedi’i gofrestru gyda CICAIR, p’un a yw’n destun unrhyw gamau parhaus, fel sancsiynau, ac a oes gennych unrhyw brosiectau adeiladu risg uwch cyfredol ar y gweill.

Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho diagram o strwythur sefydliadol eich busnes, gan gynnwys lle mae’n rhan o strwythur grŵp ehangach.

Byddwn yn gofyn i chi am enwau perchnogion a chyfarwyddwyr presennol, ac am:

  • unrhyw gwmnïau eraill y maent yn gyfarwyddwyr arnynt neu â buddiant ynddynt a all achosi gwrthdaro buddiannau
  • a oes ganddynt unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol heb eu disbyddu

Byddwn yn gofyn a yw’r busnes neu unrhyw un o’i reolwyr neu arolygwyr adeiladu wedi bod yn destun camau gorfodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod gan eich busnes weithdrefnau gweithredu ysgrifenedig sy’n cwmpasu eich gwaith rheoli adeiladu arfaethedig.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod gan eich busnes bolisïau ar gyfer:

  • recriwtio a datblygu
  • chwythu’r chwiban
  • gwrthdaro buddiannau
  • gwyngalchu arian
  • iechyd, diogelwch a lles
  • diogelu data
  • ymddygiad staff
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • rheoli contractwyr
  • ymdrin â chwynion
  • archwilio mewnol
  • yswiriant

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau y byddwch:

  • yn cydymffurfio â’r rheolau ymddygiad proffesiynol (PCRs) a’r rheolau safonau gweithredol (OSRs) ar gyfer y gwledydd rydych wedi cofrestru ynddynt
  • yn diweddaru’r wybodaeth a ddarperir i gefnogi eich cofrestriad o fewn 28 diwrnod ar ôl iddo newid
  • yn cydsynio bod rhai o fanylion eich cofrestriad yn cael eu cyhoeddi

Talu am gofrestru

P’un a ydych yn cofrestru yng Nghymru, Lloegr neu yn y ddwy wlad, bydd rhaid i chi dalu:

  • tâl cofrestru o £4,494
  • tâl o £130 yr awr i’n staff i adolygu eich cais
  • tâl cynhaliaeth blynyddol o £3,439 (sy’n ddyledus o’r flwyddyn gyntaf ar ôl cofrestru)

Gallwch ddysgu mwy am: 

Bydd eich cofrestriad am 5 mlynedd, oni bai ei fod yn amrywiol, wedi’i atal neu ei ganslo gan BSR.

Cyn i chi ddechrau

Os nad ydych yn siŵr am unrhyw un o’r gofynion hyn, darllenwch y canllawiau ar y dudalen hon am reoleiddio RBCAs o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022, a’n rheolau ymddygiad proffesiynol a’n rheolau safonau gweithredol.

Ar ôl i chi gyflwyno’r cais

Byddwn yn adolygu’r cais ac, os oes angen, yn gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth. Efallai y gofynnir i chi ddarparu copïau o ddogfennaeth, a gallech gael eich gwahodd i gyfweliad.

Os na chaiff yr holl gwestiynau eu hateb ar y ffurflen gais, neu os na ddarparwyd digon o wybodaeth, yna bydd y cais yn cael ei wrthod.

Gwneud penderfyniad

Byddwn yn dweud wrthych a yw’r cais yn cael ei gymeradwyo, ei gymeradwyo o dan amodau, neu ei wrthod. Mewn achosion lle mae’r cais yn destun amodau neu yn cael ei wrthod, byddwn yn dweud wrthych pam. Gallwch herio’r penderfyniad. Mae’r broses yn wahanol yn dibynnu a wnaethoch gais i gofrestru yng Nghymru, Lloegr neu’r ddau. I ofyn am adolygiad o benderfyniad cofrestru yn Lloegr, cysylltwch â BSR o fewn 21 diwrnod o dderbyn eich penderfyniad. Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeirnod eich cais
  • y dyddiad y gwnaed y penderfyniad
  • y rhesymau pam eich bod am i ni adolygu’r penderfyniad
  • unrhyw wybodaeth bellach a allai fod yn berthnasol ond nad oedd ar gael ar adeg y penderfyniad gwreiddiol

Os ydych, ar ddiwedd yr adolygiad, yn destun amodau neu’n cael eich gwrthod, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

I apelio yn erbyn penderfyniad cofrestru yng Nghymru, gallwch gyflwyno apêl gyda’r Llysoedd Ynadon o fewn 21 diwrnod i dderbyn y penderfyniad. Gellir ymestyn y terfyn amser hwn gyda chytundeb ysgrifenedig BSR.

Cofrestr gyhoeddus

Mae manylion pob RBCA yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus. Mae’r gofrestr yn caniatáu i bobl gadarnhau pa fusnesau sydd wedi’u cofrestru fel RBCAs, a’r gwaith y maent wedi’u cofrestru i’w wneud.

Mae un gofrestr ar gyfer Cymru ac un ar gyfer Lloegr. Bydd eich busnes yn cael ei gynnwys ar y cofrestri ar gyfer y gwledydd y nodwch eich bod yn gweithio ynddynt.

Mae’r gofrestr yn dangos:

  • enw a chyfeiriad yr RBCA
  • y math o waith rheoli adeiladu y mae’r RBCA wedi’i gofrestru i’w wneud
  • dyddiad dechrau a gorffen cofrestru
  • manylion unrhyw amodau cofrestru

Gallwch chwilio trwy’r:

Tynnu oddi ar y gofrestr

Gellir tynnu RBCA o’r gofrestr:

  • os yw’r busnes yn stopio gwneud gwaith rheoli adeiladu a reoleiddir ac yn gofyn am gael ei dynnu oddi ar y gofrestr
  • os nad yw’r cofrestriad yn cael ei adnewyddu
  • os yw cofrestriad yr RBCA yn cael ei atal neu ei ganslo gennym ni

Os yw RBCA yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr, byddwn yn parhau i gadw’r wybodaeth yn unol â’n polisi cadw data.

Os ydych am wneud cais i dynnu eich manylion oddi ar y gofrestr, ffoniwch ni ar 0300 790 6787.

Gwneud newidiadau i’ch cofrestriad

Mae’n rhaid i chi ein hysbysu o fewn 28 diwrnod o unrhyw newidiadau sy’n berthnasol i’ch cofrestriad RBCA, sy’n cynnwys:

  • newid strwythur rheoli
  • newid cyfarwyddwr neu bartner
  • newid perchnogaeth
  • newid i’r prif gyswllt ar gyfer RBCA
  • unrhyw gosbau proffesiynol gan gyrff eraill
  • unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol heb eu disbyddu, fel y nodir yn y rheolau ymddygiad proffesiynol, ar gyfer naill ai y busnes neu’r uwch bersonél
  • os yw’r RBCA yn rhoi’r gorau i fasnachu am unrhyw reswm, er enghraifft ansolfedd

I newid manylion cofrestriad RBCA, ffoniwch ni ar 0300 790 6787. Bydd eich cyfraddau galwadau arferol yn gymwys.

Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am tan 5pm, ac eithrio dydd Mercher pan fyddwn ar agor rhwng 10am a 5pm, a gwyliau cyhoeddus pan fyddwn ar gau.

Byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost ac yn anfon ffurflen a dolen ShareFile atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i gwblhau ac lanlwytho eich newidiadau.

Nid oes angen i chi ailgofrestru’r RBCA ar ôl gwneud newid oni bai bod y cofrestriad ar fin dod i ben.

Ni allwch drosglwyddo cofrestriad RBCA i fusnes arall.

Darllenwch fwy am y newidiadau y mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt yn adran rheolau cofrestru rheolau ymddygiad proffesiynol Cymru

Rheoleiddio RBCAs

Mae’n rhaid i RBCAs yng Nghymru gydymffurfio â:

Mae’n rhaid i RBCAs yn Lloegr gydymffurfio â:

Os bydd RBCA yn torri’r rheolau safonau gweithredol (OSRs), gallwn gyflwyno rhybudd gwella a rhybudd tramgwydd difrifol. Os bydd yr RBCA yn parhau i dorri’r rheolau, gallwn ganslo ei gofrestriad.

Os bydd RBCA yn torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol, gallwn gyflwyno cosbau.

Trefniadau monitro rheolau safonau gweithredol

Mae trefniadau ar gyfer monitro rheolau safonol gweithredol yn cynnwys rhestr o ddata y mae’n rhaid i RBCA ei anfon at BSR bob chwarter a bob blwyddyn.

Dylai RBCA gyflwyno data am reolau safonau gweithredol trwy lawrlwytho templed y daenlen berthnasol, ei lenwi ac yna ei e-bostio at BSR.

Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig

Wrth wneud gwaith rheoli adeiladu, rhaid i RBCA ystyried cyngor arolygydd adeilad cofrestredig.

Mae’n rhaid i RBCAs wneud y canlynol:

  • cyflogi arolygwyr adeiladu cofrestredig o’r dosbarth a’r categori cywir ar gyfer y math o waith rheoli adeiladu y mae’r RBCA yn ei wneud
  • cyflogi digon o arolygwyr adeiladu cofrestredig ar gyfer y gwaith rheoli adeiladu y mae’r RBCA yn ei wneud
  • bod â threfniadau i reoli ansawdd y gwaith a wneir gan arolygwyr adeiladu cofrestredig o dan oruchwyliaeth

Mae cofrestrau o arolygwyr adeiladu ar gyfer Cymru a Lloegr.

Gallwch chwilio drwy’r:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mawrth 2025 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Charge of £124 changed to £130.

  3. Outdated information about when to register and transitional arrangements for registered building control approvers has been removed.

  4. Guidance added about how RBCAs should submit operational standards data

  5. Updated to include guidance for RBCAs in Wales

  6. Changed the wording around convictions you must tell us about, to include only unspent criminal convictions.

  7. This guidance now incorporates the roles and responsibilities of RBCAs.

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon