Cael mynediad at y gwasanaeth ar-lein Toll Alcohol
Ymrestrwch â’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoli eich Toll Alcohol os ydych yn gynhyrchydd cynhyrchion alcoholaidd cymeradwy.
Dim ond er eich gwybodaeth y mae’r arweiniad hwn. Mae wedi’i gyhoeddi’n gynnar. Bydd yn berthnasol o 1 Chwefror 2025 ymlaen.
Tan hynny, mae’n rhaid i chi ddilyn yr arweiniad presennol ar gynhyrchu alcohol, sydd wedi’i amlinellu yn hysbysiadau ecséis 39, 162, 163 a 226 (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch ragor am y newidiadau sydd i ddod i gymeradwyo, datganiadau a thaliadau o ran alcohol (yn agor tudalen Saesneg).
Cael mynediad at y gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoli eich Toll Alcohol er mwyn cyflwyno datganiadau a thaliadau Toll Alcohol misol.
Pwy sydd angen ymrestru
Rhaid eich bod eisoes yn gynhyrchydd cynhyrchion alcoholaidd cymeradwy.
Cyn cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd, yn gyntaf mae’n rhaid cael cymeradwyaeth gan CThEF.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen eich ID cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) arnoch. Mae hwn yn 15 digid. Mae’r ID APPA yn cynnwys 5 llythyren a 10 rhif (er enghraifft, XMADP0123459789).
Mae’n rhaid i chi hefyd gael un o’r canlynol:
- cod post eich busnes
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
Sut i ddod o hyd i’ch ID cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA)
Mae’ch ID APPA i’w weld naill ai ar y llythyr gwasanaeth ar-lein neu’r llythyr cymeradwyo a anfonwyd atoch.
Os nad yw’ch ID APPA gennych, cysylltwch ag ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis.
Os nad yw’ch UTR gennych, gallwch ddod o hyd i’ch rhif UTR.
Ar ôl i chi ymrestru
Ar ôl i chi ymrestru â’r gwasanaeth, byddwch yn gallu cyflwyno’ch datganiad Toll Alcohol.
I gael rhagor o wybodaeth fanwl, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).