Canllawiau

Cael eich rhif Yswiriant Gwladol drwy’r post

Defnyddiwch ffurflen CA5403 i wneud cais am gopi o’ch rhif Yswiriant Gwladol drwy’r post.

Ble i ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol

Bydd eich rhif Yswiriant Gwladol ar ddogfennau sy’n ymwneud â threth, megis eich clip cyflog neu’ch P60. Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol a chael copi ohono ar-lein.

Os oes angen i chi wneud cais am gopi o’ch rhif Yswiriant Gwladol drwy’r post

Llenwch ffurflen CA5403 ar y sgrin, yna’i hargraffu a’i phostio i CThEM.

Yn dibynnu ar yr atebion a rowch, efallai y bydd angen i chi anfon dogfennau eraill hefyd i gadarnhau pwy ydych i CThEM. Cewch wybod ar ôl llenwi’r ffurflen a oes angen i chi anfon dogfennau eraill.

Efallai y bydd angen i chi anfon hyd at 2 o’r dogfennau canlynol:

  • tystysgrif geni
  • pasbort
  • trwydded yrru lawn neu dros dro (cerdyn plastig)
  • tystysgrif mabwysiadu
  • dogfen deithio’r Swyddfa Gartref
  • trwydded waith
  • tystysgrif dinasyddio
  • tystysgrif briodas neu bartneriaeth sifil
  • tystysgrif gwasanaethu yn Lluoedd Ei Fawrhydi neu’r llynges fasnachol
  • cerdyn adnabod neu feddygol

Gall gymryd hyd at 15 diwrnod i gael eich rhif Yswiriant Gwladol drwy’r post.

Anfonwch y ffurflen i’w hargraffu a’i llenwi i:

Swyddfa Cyfraniadau Yswirian Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST

Cyn i chi ddechrau defnyddio ffurflen bost CA5403

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen CA5403 yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad ydych wedi cael un o’r blaen.

Cyhoeddwyd ar 8 May 2024