Canllawiau

Canllawiau a chymorth i weithwyr proffesiynol ym maes eiddo

Canllawiau, cymorth a manylion cysylltu i weithwyr proffesiynol ym maes eiddo

Yn berthnasol i England and Gymru

E-wasanaethau busnes

Y porthol

Gallwch gyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio’r porthol os oes cyfrif gennych.

Os cyflwynwyd eich cais trwy’r porthol, defnyddiwch y gwasanaeth View Applications i wneud y canlynol:

  • gweld datblygiad eich cais

  • gweld dyddiad cwblhau amcangyfrifedig cais

  • ateb ymholiadau (hyd yn oed os postiwyd eich cais atom)

  • gofyn am estyniad amser i ddelio ag ymholiad

Darllenwch ein canllawiau am y gwasanaeth ‘View Applications’.

Gall defnyddwyr y porthol ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Application Enquiry’ i wneud y canlynol hefyd:

  • gofyn i gyflymu cais os oes angen rhoi cais ar lwybr carlam

  • gweld unrhyw geisiadau sy’n aros i’w prosesu blaenorol sy’n effeithio ar gais  

  • gweld unrhyw ryddhadau

Darllenwch am sut i wneud ymholiad am gais yn y porthol.

Peidiwch â defnyddio’r swyddogaeth ‘Reply to requisition’ i anfon cais i gyflymu.

Business Gateway

Os ydych yn defnyddio meddalwedd integreiddio trydydd parti i gyflwyno ceisiadau inni, gallwch barhau i ddefnyddio’r porthol (os oes cyfrif gennych) fel uchod, i weld cynnydd, ymateb i ymholiadau neu i ofyn am estyniad amser.

Os nad oes cyfrif porthol gennych, anfonwch eich ateb i’n cyfeiriad safonol.

Arweiniad a hyfforddiant

Mae llu o dudalennau canllaw, fideos, rhestrau gwirio, siartiau llif ac awgrymiadau, ynghyd â’n holl gyfarwyddiadau ymarfer ar gael i gwsmeriaid proffesiynol trwy ein hyb hyfforddi – i’ch helpu i gyflwyno ceisiadau clir, cyflawn a chywir.

Gwasanaethau cymorth arbenigol

Gweler ein cymorth ac arweiniad arbenigol wrth gyflwyno ceisiadau ar raddfa fawr a chymhleth (mae meini prawf yn gymwys).

Fforwm cymorth ar-lein

Defnyddiwch ein fforwm cymorth ar-lein i ofyn cwestiynau neu i ddod o hyd i atebion i ymholiadau cyffredinol.

Ffurflen gysylltu

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani ar-lein, defnyddiwch y ffurflen gysylltu yn y lle cyntaf i’n galluogi i gyfeirio’ch ymholiad yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Mae ein tîm yn trin pob neges yn sensitif, ond sylwer na allwn dderbyn negeseuon wedi eu marcio’n breifat neu’n gyfrinachol.

Lle bo modd, rydym yn ateb ymholiadau brys a gyflwynir trwy’r ffurflen gysylltu ar yr un diwrnod.

Ffôn

Er mwyn cynnal gwasanaeth cwsmeriaid a safonau ansawdd, mae’n bosibl y byddwn yn recordio galwadau. 

Ein horiau agor ar hyn o bryd yw dydd Llun i ddydd Iau (ac eithrio Gwyliau Banc), 8am i 5pm. 8am i 9am yw adeg dawelaf ein gwasanaeth ffôn fel rheol. Ar ddyddiau Gwener, nid yw ein gwasanaeth ar gael dros dro fel rhan o’n nod i brosesu rhagor o waith cais. Gallwch gysylltu â ni o hyd trwy ein ffurflen gysylltu ar-lein neu fforwm cymorth, gan y byddwn yn eu monitro’n ofalus am unrhyw ymholiadau brys.

Darllenwch am sut rydym yn cyflenwi’n gwasanaethau a pha mor hir a gymerir i brosesu ceisiadau.

Darllenwch am gostau galwadau.

Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid

Os oes angen ichi siarad â gweithiwr cais hyfforddedig, gall ein cydweithwyr cymorth i gwsmeriaid* helpu. Ffoniwch 0300 006 0422 am wasanaeth Cymraeg a 0300 006 0411 am wasanaeth Saesneg.

*Mae timau cymorth i gwsmeriaid wedi eu hyfforddi yng ngweithdrefnau gwaith cais Cofrestrfa Tir EF. Maent yn cyfeirio ymholiadau at ein perchnogion cais dim ond pan fo angen.

Post

Anfonwch eich ceisiadau a’ch gohebiaeth trwy’r post i’n cyfeiriad safonol. Os ydych yn gwsmer y porthol neu Business Gateway, gallwch anfon y rhain yn electronig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 August 2024

Sign up for emails or print this page