Help i ddod o hyd i waith i hawlwyr Credyd Cynhwysol 16 i 24 oed
Darganfyddwch am y cymorth i hawlwyr Credyd Cynhwysol rhwng 16 a 24 oed i ddod o hyd i swydd, hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith neu brentisiaeth trwy'r Cynnig Ieuenctid.
Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland
Gall llawer o bobl rhwng 16 a 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol gael cymorth ychwanegol i ddod o hyd i waith drwy Gynnig Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith weld a ydych yn gymwys.
Tra byddwch ar y Cynnig Ieuenctid, byddwch yn parhau i dderbyn Credyd Cynhwysol yn unol â’r cytundebau a wnaed yn eich Ymrwymiad Hawlydd.
Mae gan y Cynnig Ieuenctid 3 math gwahanol o gymorth:
- Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid
- Canolfanau Ieuenctid
- Hyfforddwyr Cyflogadwyedd Ieuenctid
Byddwch yn cytuno ar yr opsiwn gorau i chi gyda’ch anogwr gwaith ar ddechrau eich cais neu’n nes ymlaen wrth i’ch anogwr gwaith ddod i’ch adnabod.
Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid
Nod y Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid yw helpu i’ch paratoi ar gyfer gwaith, cynyddu eich siawns o symud i swydd a’ch cyfeirio at y gefnogaeth fwyaf priodol. Gallai hyn gynnwys:
- rhaglen academi waith yn seiliedig ar sector (SWAP)
- hyfforddeiaeth
- profiad gwaith
- prentisiaeth
- mynychu sesiynau a gynhelir gan staff profiadol o gwmnïau mawr i gael help gydag ysgrifennu CV, gosod nodau, ceisiadau am swyddi ac ymarfer cyfweliad (‘cylchoedd mentora’)
- hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith gan gynnwys rhai cyfatebol yng Nghymru a’r Alban
Mae’r rhaglen yn para am 13 wythnos a chewch eich cefnogi gan eich anogwr gwaith yn eich canolfan waith.
Yr Alban
Gwasanaethau cyflogadwyedd yn yr Alban:
- Young Person’s Guarantee in Scotland – profiad gwaith a phrentisiaethau i bobl ifanc 16 i 24 oed yn yr Alban. Mae hyn yn rhan o strategaeth ‘No One Left Behind’ Llywodraeth yr Alban
- Skills Development Scotland – yn cynnig cyngor ac yn cefnogi datblygiad gyrfa o’r ysgol i gyfleoedd dysgu pellach a chyflogaeth
Cymru
Cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru:
- Y Warant i Bobl Ifanc Cymru – cyfleoedd addysg a hyfforddiant i helpu a chefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed i fynd i mewn i waith neu hunangyflogaeth. Mae hyn yn dwyn ynghyd sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector a’r DWP i ddarparu’r cynnig gorau posibl.
- Twf Swyddi Cymru Plws – rhaglenni hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed yng Nghymru
- Cymunedau dros Waith a Mwy, Cyru’n Gweithio – ar gyfer pobl 20 oed a throsodd. Mae’n darparu cymorth cynghori cyflogaeth arbenigol i’r di-waith hirdymor neu bobl â rhwystrau cymhleth, gan gynnwys lefelau sgiliau isel, cymhlethdodau iechyd a chyflyrau sy’n cyfyngu ar waith.
- ReAct Plws, Cymru’n Gweithio – rhaglen grant ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o gael eu diswyddo neu sydd wedi cael eu diswyddo
Adolygiad Cyflogaeth a Sgiliau
Yn dilyn eich cyfarfod Ymrwymiad Hawlydd, byddwch yn cael adolygiad Cyflogaeth a Sgiliau gyda’ch anogwr gwaith. Yn yr adolygiad, byddwch yn:
- cael cymorth i ddatblygu a gwella eich CV
- cael help i ddeall sut mae chwilio am swyddi yn rhithiol a gwneud ceisiadau yn gweithio
- nodi unrhyw hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith rydych ei angen
- nodi os ydych angen unrhyw gymorth gyda’ch Saesneg, Mathemateg neu TG
- gweld pa gyfleoedd sy’n seiliedig ar waith sydd ar gael i chi yn ystod y 13 wythnos
- sefydlu unrhyw rwystrau presennol a allai eich atal rhag cymryd rhan mewn cyfleoedd yn y gwaith
Apwyntiadau gydag anogwr gwaith
Yn ystod eich amser ar y Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid, byddwch yn cael adolygiadau gyda’ch anogwr gwaith dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein i gael cefnogaeth a hyfforddiant parhaus.
Byddwch yn cael cymorth i ddiwallu eich anghenion unigol a delio ag unrhyw rwystrau personol i waith sydd gennych. Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at gymorth lleol eraill a chyfleoedd gwaith lleol, er enghraifft:
- hyfforddiant sgiliau sylfaenol
- hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys hyfforddeiaeth a rhaglen academi waith yn seiliedig ar sector (SWAP)
- cyfleoedd profiad gwaith am 2 i 8 wythnos
- cefnogaeth gan Ganolfan Ieuenctid am hyd at 6 mis
- cefnogaeth gan Hyfforddwr Cyflogadwyedd Ieuenctid hyd at 6 mis
Canolfanau Ieuenctid DWP
Efallai bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at gymorth ychwanegol am hyd at 6 mis gan anogwr gwaith Canolfan Ieuenctid.
Mae Canolfanau Ieuenctid wedi’u lleoli gyda sefydliadau eraill i ddarparu mynediad at fwy o wasanaethau mewn un lleoliad. Maent yn eich cefnogi i chwilio am waith drwy eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a gweithgareddau eraill fel ysgrifennu CV a sgiliau cyfweld.
Mae Canolfanau Ieuenctid yn gweithredu ledled Cymru, Lloegr a’r Alban mewn amrywiaeth o leoliadau, o ganol dinasoedd i ardaloedd gwledig ac arfordirol, gan ganiatáu i’r gwasanaethau a ddarperir gael eu targedu at anghenion lleol.
Mae rhai Canolfanau Ieuenctid yn cynnig gwasanaeth galw heibio i bob person ifanc sydd angen cymorth i ddod o hyd i waith, gan gynnwys y rhai sydd ddim yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Cysylltwch â’ch canolfan gwaith leol i ddod o hyd i’ch Canolfanau Ieuenctid agosaf.
Hyfforddwyr Cyflogadwyedd Ieuenctid
Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at Hyfforddwr Cyflogadwyedd Ieuenctid os oes gennych rwystrau eraill sy’n eich atal rhag dod o hyd i swydd. Maent wedi’u lleoli mewn canolfannau gwaith ac yn darparu cefnogaeth am hyd at 6 mis i’ch helpu i symud i mewn i waith.
Gallant hefyd ddarparu cefnogaeth 6 wythnos tra byddwch mewn gwaith pan fyddwch wedi dechrau swydd.
Costau teithio a gofal plant
Os byddwch yn mynychu hyfforddiant neu brofiad gwaith, efallai y gallwch hawlio costau teithio a gofal plant. Siaradwch â’ch anogwr gwaith am hyn.
Help i ddod o hyd i waith ar-lein
Mae gan gwefan helpu swyddi wybodaeth am chwilio am swyddi, help gyda CVs, ceisiadau a chymorth gyda chyfweliad. Mae’n cynnwys dolenni i rai ymarferion recriwtio cenedlaethol a gwybodaeth i helpu pobl o dan 25 oed i ddod o hyd i waith.
Yn yr Alban, mae gan My World of Work wybodaeth a chefnogaeth am swyddi, gyrfaoedd a hyfforddiant. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar hyfforddiant ieuenctid a chyflogaeth.
Yng Nghymru, gellir dod o hyd i gymorth chwilio am swyddi a hyfforddiant ar Wefannau Swyddi.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 March 2024 + show all updates
-
Added information on Scottish and Welsh programmes for young people.
-
Update to reflect that from 25 September certain young people will be invited to join the Youth Offer on a voluntary basis.
-
From 1 December 2021 the help to find a job, work-related training or an apprenticeship though the 'Youth Offer' has been extended to Universal Credit claimants aged 16 and 17.
-
First published.