Cael help gydag eiddo ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dewch o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi’r adran ‘eiddo yn y DU’ ac adrannau eiddo eraill eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Bydd angen i chi ddatgan incwm o eiddo ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yr ydych wedi ennill dros £1,000 o’r ffynhonellau canlynol:
-
rhoi eiddo ar osod yn y DU neu dramor
-
rhoi ystafelloedd wedi’u dodrefnu yn eich cartref eich hun ar osod
-
llety gwyliau wedi’i ddodrefnu yn y DU neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
-
premiymau sy’n codi o brydlesu tir yn y DU
Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth
Cewch wybodaeth o’r taflenni cymorth a fydd yn eich helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan gynnwys sut i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad penodol a sut i gyfrifo ffigurau efallai y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.
Defnyddiwch y taflenni cymorth canlynol i gael rhagor o arweiniad i’ch helpu chi i lenwi adrannau eiddo eich Ffurflen Dreth.
Rhoi eiddo ar osod
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
Y Cynllun Rhentu Ystafell (taflen gymorth Hunanasesiad HS223) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Llety gwyliau wedi’i ddodrefnu (taflen gymorth Hunanasesiad HS253) (yn agor tudalen Saesneg)
Rhyddhadau treth
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
Terfyn ar ryddhadau Treth Incwm (taflen gymorth Hunanasesiad HS204) (yn agor tudalen Saesneg)
-
Rhyddhad colledion tir amaethyddol (taflen gymorth Hunanasesiad HS251) (yn agor tudalen Saesneg)
Lwfansau cyfalaf
Darllenwch y daflen gymorth am lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (taflen gymorth Hunanasesiad HS252) (yn agor tudalen Saesneg).
Fideos YouTube CThEF
Rhestr o fideos ynghylch eiddo yn y DU ar ein sianel YouTube
Gwyliwch gasgliad o fideos CThEF er mwyn cael rhagor o wybodaeth am adran ‘incwm o eiddo yn y DU’ y Ffurflen Dreth.
Incwm o eiddo yn y DU — Ffurflen Dreth (yn agor tudalen Saesneg).
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
llenwi’ch Ffurflen Dreth os oes gennych incwm o eiddo
-
rhyddhad Rhentu Ystafell
-
rhoi eiddo ar osod ar y cyd
-
y lwfans incwm o eiddo
-
rhentu, ardrethi, yswiriant a rhent tir
-
gwaith atgyweirio a chynnal a chadw eiddo
-
llog benthyciad a chostau ariannol eraill
-
treuliau eiddo caniataol eraill
Gweminar a recordiwyd ynghylch eiddo yn y DU
Gwyliwch fideo o weminar a recordiwyd ynghylch adran ‘eiddo yn y DU’ eich Ffurflen Dreth ar-lein.
Adran ‘eiddo yn y DU’ eich Ffurflen Dreth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
rhyddhad Rhentu Ystafell
-
rhoi eiddo ar osod ar y cyd
-
llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
-
treuliau a lwfansau
Cofrestru ar gyfer gweminarau
Mae gweminarau yn rhoi rhagor o wybodaeth am adrannau eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Cofrestrwch ar gyfer gweminarau byw ynghylch incwm o eiddo ar gyfer Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg).
Ffurflen Dreth ar bapur
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio tudalennau atodol SA105 er mwyn cofnodi incwm o eiddo yn y DU ar eich Ffurflen Dreth SA100.
Rhagor o wybodaeth am eiddo
Dysgwch ragor am dalu treth a chadw cofnodion fel landlord yr eiddo (yn agor tudalen Saesneg).
Dysgwch am lwfansau rhydd o dreth blynyddol ar gyfer incwm o eiddo neu incwm masnachu.
Cyfrifwch eich incwm rhent, os ydych yn rhoi eiddo ar osod (yn agor tudalen Saesneg).
Dysgwch a allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau.