Cofrestrfa Tir EF: Ffioedd Credydau Amaethyddol
Ffïoedd cyflwyno ceisiadau Credydau Amaethyddol gan ddefnyddio ffurflen AC1 i ffurflen AC8.
Yn berthnasol i England and Gymru
Ffïoedd yr Adran Credydau Amaethyddol
Ffurflen(ni) | Math o gais | Gwneud cais trwy’r post neu DX |
---|---|---|
AC1, AC2 | Cofrestru | £1 yr enw |
AC7 | Cywiro cofnod | £1 yr enw |
AC3 | Dileu cofnod | £1 yr enw |
AC4 | Tystysgrif dileu | £1 yr enw |
AC8 | Chwiliad personol yn y gofrestr neu femorandwm wedi ei ffeilio |
£1 yr enw |
AC5 | Copi ardystiedig o femorandwm wedi ei ffeilio | 50 ceiniog yr enw |
AC6 | Chwiliad swyddogol* | 50 ceiniog yr enw |
Cael y canlyniad dros y ffôn
*Pan fyddwch yn gwneud cais am chwiliad swyddogol yn y Gofrestr Credydau Amaethyddol gan ddefnyddio ffurflen AC6, gallwch ofyn i ganlyniad y chwiliad gael ei bostio atoch neu gallwch ffonio i’w gael. Y gost yw £1 yr alwad (isafswm ffi), yn ychwanegol at y ffi o 50 ceiniog yr enw sy’n daladwy am y chwiliad swyddogol.
Sut i dalu ffïoedd
Gallwch dalu am wasanaethau a cheisiadau safonol trwy’r canlynol:
- debyd uniongyrchol amrywiol, os oes gennych gyfrif e-wasanaethau Busnes
- siec neu archeb bost. Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’ a’i hanfon, gyda’ch cais, i’n Hadran Credydau Amaethyddol
Rhagor o wybodaeth
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn seiliedig ar ddarpariaeth statudol Gorchymyn Ffioedd Credydau Amaethyddol 1985, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 1985 ac sy’n gymwys o hyd.
Os ydych yn ansicr o’r ffi o hyd, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.