Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Gwybodaeth
Ffïoedd ar gyfer ein gwasanaethau, ee chwiliadau a cheisiadau am gopïau swyddogol.
Yn berthnasol i England and Gymru
Bydd Newidiadau i ffïoedd gwasanaethau gwybodaeth Cofrestrfa Tir EF o 9 Rhagfyr 2024.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell ffïoedd i ddarganfod cost pob math o gais.
Mae ffïoedd yn amrywio yn ôl sut rydych yn anfon eich ceisiadau atom. I gael ffïoedd gostyngol, cofrestrwch ar gyfer E-wasanaethau busnes (porthol a Business Gateway).
Ffïoedd copïau a chopïau swyddogol
Ffurflen | Math o gais | Gwneud cais trwy’r post | Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway |
---|---|---|---|
EX2 | Copi swyddogol o ddogfen gwybodaeth eithriedig | £7 y copi | £3 y copi |
HC1 | Copi o argraffiad hanesyddol o deitl cofrestredig (dim ond lle mae fersiwn electronig ar gael) | £7 y gofrestr neu gynllun teitl | £3 y gofrestr neu gynllun teitl |
OC1 | Copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl (heblaw cofrestr rhannau cyffredin cyfunddaliad a chynllun teitl). Os na wyddys rhif y teitl, bydd y ffi am ddarparu’r copi yn cynnwys y gost o ddarparu’r rhif teitl; ni fydd ffi ychwanegol i’w thalu | £7 y copi | £3 yr un y copi |
OC1 | Ffurflen CI tystysgrif archwilio cynllun teitl | £7 y dystysgrif | £7 y dystysgrif |
OC1 | Copi swyddogol o gofrestr rhannau cyffredin cyfunddaliad a chynllun teitl | £7 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl) | £3 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl) |
OC2 | Copi swyddogol o ddogfen | £7 y ddogfen | £3 y ddogfen |
Ffïoedd chwiliadau swyddogol
Ffurflen | Math o gais | Gwneud cais trwy’r post | Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway |
---|---|---|---|
HR3 | Chwiliad swyddogol gan forgeisai am hawliau cartref | £7 y chwiliad | £3 y chwiliad |
OS1 | Chwiliad swyddogol o’r cyfan â blaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig neu gais am gofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu | £7 y chwiliad | £3 y chwiliad |
OS2 | Chwiliad swyddogol o ran â blaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig | £7 y chwiliad (dim ond os dyfynnir rhif llain a dyddiad y cynllun ystad cymeradwy cyfredol neu os darperir cynllun addas) | £3 y chwiliad (dim ond os dyfynnir rhif llain a dyddiad y cynllun ystad cymeradwy cyfredol neu os darperir cynllun addas) |
OS2 | Chwiliad swyddogol o ran â blaenoriaeth yn erbyn cais am gofrestriad cyntaf sy’n aros i’w brosesu | £7 y chwiliad (dim ond os darperir cynllun addas) | £3 y chwiliad |
OS3 | Chwiliad swyddogol o’r cyfan heb flaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig | £7 y chwiliad | £3 y chwiliad |
OS3 | Chwiliad swyddogol o ran heb flaenoriaeth yn erbyn teitl cofrestredig | £7 (dim ond os dyfynnir rhif llain a dyddiad y cynllun ystad cymeradwy cyfredol neu os darperir cynllun addas) | Ddim ar gael |
Ffïoedd eraill
Ffurflen | Math o gais | Gwneud cais trwy’r post | Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway |
---|---|---|---|
Cael gwybodaeth o’r rhestr ddydd | Ddim ar gael | Am ddim | |
PIC | Archwilio (gan gynnwys gwneud copi) o gofrestr neu gynllun teitl (heblaw cofrestr rhannau cyffredin cyfunddaliad a chynllun teitl) neu gynllun rhybuddiad | £7 y gofrestr neu gynllun teitl | £3 yr un |
PIC | Archwilio (gan gynnwys gwneud copi) o gofrestr a chynllun teitl teitl rhannau cyffredin cyfunddaliad | £7 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl) Cyfunddaliad | £3 y set (un gofrestr ac un cynllun teitl) |
PIC | Archwilio (gan gynnwys gwneud copi) o ddogfen | £7 y ddogfen | £3 y ddogfen |
PN1 | Chwiliad o’r mynegai enwau perchnogion (lle caniateir hyn) | £11 yr enw £11 yr enw trwy’r ffacs (deiliaid cyfrif yn unig) |
Ddim ar gael |
SIF | Chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau | £7 yr ardal weinyddol | £3 yr ardal weinyddol |
SIM | Chwiliad swyddogol o’r map mynegai | Lle datgelir dim neu ddim mwy na phum teitl cofrestredig; £4 Lle datgelir mwy na phum teitl cofrestredig: £4 ar gyfer y pum teitl cyntaf; a £2 ar gyfer pob deg teitl neu hyd at ddeg teitl ar ôl hynny |
Lle datgelir dim neu ddim mwy na phum teitl cofrestredig; £4 Lle datgelir mwy na phum teitl cofrestredig: £4 ar gyfer y pum teitl cyntaf; a £2 ar gyfer pob deg teitl neu hyd at ddeg teitl wedi hynny |
Sut i dalu ffïoedd
Gallwch dalu am wasanaethau a cheisiadau safonol trwy’r canlynol:
- debyd uniongyrchol newidiol, os oes cyfrif E-wasanaethau busnes gennych
- siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir’. Anfonwch gyda’ch cais i’n cyfeiriad safonol
Nid yw Treth Ar Werth (TAW) yn daladwy ar ffïoedd Cofrestrfa Tir EF.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn seiliedig ar ddarpariaethau statudol Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2022, a ddaeth i rym ar 31 Ionawr 2022 ac sy’n parhau i fod yn gymwys.
Os nad ydych yn sicr o’r ffi o hyd, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 November 2022 + show all updates
-
Amended as we now accept applications in form PIC by post.
-
Fee increase for an historical edition of a registered title.
-
Guide amended to reflect new portal service to request historical copies
-
Added translation