Hyb gwasanaethau cymorth arbenigol Cofrestrfa Tir EF
Cipolwg cyflym a hawdd ar ganllawiau am wasanaethau cymorth arbenigol Cofrestrfa Tir EF.
Yn berthnasol i England and Gymru
Ar gael i drawsgludwyr, cyfreithwyr a chwsmeriaid busnes eraill sy’n delio â thrafodion tir ac eiddo.
Ar gyfer pob ymholiad arall, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu ar-lein.
Gwasanaeth Rheoli Ceisiadau
Cymorth i gofrestru trafodiad masnachol cymhleth neu ddatblygiadau seilwaith
Cymorth cyn ichi gyflwyno cais, a gydol y broses gofrestru gyda chymorth wedi ei reoli. Nid oes ffi, a gallai helpu i arbed amser ichi, llywio prosesau’r gofrestr yn haws ac osgoi oedi posibl.
Dysgwch ragor am gyflwyno ymholiadau a thrafodion masnachol neu ddatblygu seilwaith cymhleth i Gofrestrfa Tir EF.
Cymorth wedi ei reoli o’r dechrau i’r diwedd
Cysylltiad uniongyrchol gydag arbenigwyr cofrestru, a fydd yn darparu gwasanaeth cymorth wedi ei reoli gydol cylch oes y trafodion.
Gallwch wneud cais trwy lenwi ein ffurflen Rheoli Ceisiadau ar-lein. Fel arall, gallwch lawrlwytho a llenwi ffurflen AMS1 ac yna ei lanlwytho pan fyddwch yn barod i gyflwyno’ch cais.
Canllawiau ar ymholiadau cyn-gyflwyno
Arweiniad arbenigol ar ymholiadau technegol neu weithdrefnol.
Gallwch ddefnyddio’r Ffurflen Gwasanaeth Ymholiadau Cyn-gyflwyno ar-lein i ddweud wrthym am eich cais, neu dwedwch wrthym am eich cais gan ddefnyddio ffurflen PSS1. Gallwch ei llenwi ar-lein neu lawrlwytho copi a’i lanlwytho yn ddiweddarach.
Darllenwch y meini prawf gwasanaeth llawn.
Gwasanaeth Gofyn am Ganllawiau
Cymorth arbenigol gydag ymholiadau cymhleth
Os ydych ar fin dechrau darn newydd o waith sydd â chymhlethdodau yn ymwneud ag ymarfer nad ydynt wedi eu cynnwys yn unrhyw un o’n cyfarwyddiadau ymarfer, gallwn helpu.
Gallwch ddelio’n uniongyrchol gydag aelod o’n tîm arbenigol, a all eich helpu i lywio prosesau Cofrestrfa Tir EF a’ch cefnogi i osgoi gwallau diangen. Bydd hyn yn gwneud y broses gofrestru yn haws ac yn gyflymach ichi.
Meini prawf
I gysylltu ag aelod o’n tîm arbenigol:
- rhaid i’r ymholiad ymwneud â darn newydd o waith, nid cais sy’n bodoli eisoes
- rhaid i’r ymholiad ymwneud â phwynt cymhleth
- ni ddylai’r ateb i’r ymholiad gael ei gynnwys eisoes yn unrhyw un o’n cyfarwyddiadau ymarfer
Cysylltwch â ni ar gyfer ceisiadau arferol ac ymholiadau’n ymwneud â system.
Dechrau
Llenwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu gydag aelod o’n tîm arbenigol.
Gwasanaeth Ystadau sy’n Datblygu
Cymorth arbenigol wrth gofrestru ystad breswyl sy’n datblygu sy’n cynnwys chwe llain neu ragor
Defnyddiwch ein gwasanaethau di-dâl i helpu i symleiddio’r broses o gyflwyno ceisiadau a darparu eglurder cyn gwerthu lleiniau.
Cyflwyno cynllun ystad a chynlluniau terfynau, trosglwyddiadau drafft, prydlesi a dogfennaeth gysylltiedig arall i’w cymeradwyo cyn cychwyn ar eich datblygiad, neu yn ystod camau cynnar y gwaith adeiladu, i helpu i sicrhau bod lleiniau’n cael eu cofrestru’n ddidrafferth ac yn ddi-dor.
Dysgwch ragor am ystadau sy’n datblygu yng nghyfarwyddyd ymarfer 41.
Dechrau
Llenwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu gydag aelod o’n tîm arbenigol.
Canllawiau ar geisiadau ar raddfa fawr
Cymorth arbenigol wrth baratoi a chyflwyno ceisiadau ar raddfa fawr
Mae ein Tîm Ceisiadau Swmp yma i’ch cynorthwyo gyda cheisiadau ar raddfa fawr, yn amodol ar feini prawf. Byddant yn eich helpu i osgoi’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chyflwyno ceisiadau ar sail gweithred neu weithredoedd cyffredin.
Meini prawf
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i’r rhai sy’n cyflwyno ceisiadau ar gyfer:
- dros 50 o deitlau cofrestredig
- dros 50 o eiddo digofrestredig
- unrhyw gyfuniad o deitlau cofrestredig a digofrestredig dros 50 i gyd
Dysgwch ragor am geisiadau ar raddfa fawr yng nghyfarwyddyd ymarfer 33.
Dechrau
Llenwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu gydag aelod o’n tîm arbenigol.
Canllawiau ar gofrestriadau cyntaf gwirfoddol ar raddfa fawr
Cefnogaeth arbenigol cyn cyflwyno cofrestriadau cyntaf gwirfoddol ar raddfa fawr
Os ydych yn ceisio cofrestriad cyntaf gwirfoddol portffolio o eiddo digofrestredig, asedau tir neu ystad fawr o dir, gall ein tîm ymroddedig helpu.
Mae’r gwasanaeth di-dâl hwn ar gael i unrhyw un sy’n cofrestru dros 20 o barseli neu unedau tir unigol a gall eich helpu i osgoi’r anghysondebau a all godi o geisiadau unigol, gan alluogi prosesu mwy effeithlon.
Dysgwch ragor am geisiadau ar raddfa fawr yng nghyfarwyddyd ymarfer 33.
Dechrau
Llenwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu gydag aelod o’n tîm arbenigol.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 June 2023 + show all updates
-
We have updated the criteria for our Ask for Guidance service to make it clear that queries must relate to a new application, must be complex points and must not be answered within any of our practice guides.
-
First published.