Sut i gael eich awdurdodi i weithredu fel asiant treth ar ran eich cleientiaid
Dysgwch am y gwahanol ffyrdd y gall eich cleient eich awdurdodi, gan gynnwys ysgwyd llaw’n ddigidol, gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein, ffurflenni papur a thrwy gyfrif treth busnes eich cleient.
Unwaith eich bod chi wedi cofrestru fel asiant treth, mae’n rhaid i’ch cleient eich awdurdodi fel y gallwch wneud trafodion ar ei ran.
Ni ddylech ddefnyddio ID Defnyddiwr eich cleient ar gyfer Porth y Llywodraeth na chael mynediad at ei gyfrif treth ar-lein.
Os yw’ch cleient wedi’i gau allan o’r byd digidol, rhowch rif iddo gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg) arno. Bydd rhywun yn cyfeirio eich cleient i’r Tîm Cymorth Ychwanegol, a fydd yn mynd â’ch cleient drwy’r broses dros y ffôn.
Dysgwch am y gwahanol ffyrdd y gall eich cleient eich awdurdodi
Yn dibynnu ar ba wasanaethau treth y byddwch yn eu defnyddio, mae yna wahanol ffyrdd i’ch cleient eich awdurdodi, gan gynnwys:
- ysgwyd llaw’n ddigidol
- ar-lein
- gofyn i’ch cleient eich awdurdodi drwy ei gyfrif treth busnes
- ffurflenni papur
Dilynwch y camau hyn i helpu’ch cleient eich awdurdodi.
-
Defnyddiwch y tabl i ddarganfod y gwahanol ffyrdd y gall eich cleient eich awdurdodi ar gyfer y gwasanaeth treth sydd ei angen arnoch.
-
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar ôl y tabl ar sut i gael eich awdurdodi.
Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth Trethi Stamp, nid oes angen i’ch cleient eich awdurdodi, gallwch gyflwyno Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) ar unwaith.
Gwasanaeth treth | Sut i wneud cais ar-lein | Sut i wneud cais yn ysgrifenedig | |
---|---|---|---|
Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ATED) | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol ar gyfer ATED | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ATED1 | |
Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
Elusennau | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein ChV1 | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur ChV1 | |
Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient | — | |
Treth Gorfforaeth | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 | |
Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS) | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient | — | |
Treth Hapchwarae | gwneud cais drwy gyfrif treth busnes eich cleient | — | |
Budd-dal Plant Incwm Uchel | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein CH995 | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur CH995 | |
Dangosydd Cofnodion Incwm | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
TWE Unigolyn neu Yswiriant Gwladol | — | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 | |
Toll Peiriannau Hapchwarae | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient | — | |
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
Treth Atodol i Gwmnïau Rhyngwladol (MTT) neu Dreth Atodol i Gwmnïau Domestig (DTT) | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient | — | |
Gwasanaeth Cofrestru Treth Ar-lein | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
TWE | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 | |
Treth Deunydd Pacio Plastig | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
Hunanasesiad | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 | |
Credydau Treth a Budd-dal Plant | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein TC689 | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur TC689 | |
Awdurdodiad dros dro at ddiben gwiriad cydymffurfio | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein Comp1 | — | |
Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
TAW (oedd dan yr enw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW o’r blaen) | gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol | — | |
TAW (Hanesyddol) | gwneud cais drwy gyfrif treth busnes eich cleient | gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 | |
Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW (GUC) | gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient | — |
Cael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol
Dysgwch sut gall eich cleient eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn agor tudalen Saesneg).
Cael eich awdurdodi gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein
Cael eich awdurdodi drwy gyfrif treth busnes eich cleient
Gallwch ofyn i’ch cleient eich awdurdodi drwy ei gyfrif treth busnes ei hun. Bydd angen eich Dynodydd Porth y Llywodraeth ar gyfer yr Asiant arno i wneud hynny. Gallwch ddod o hyd i hwn drwy ddilyn y camau canlynol.
-
Mewngofnodwch i’ch gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer cyfrif asiant.
-
Dewiswch ‘Awdurdodi cleient’ yn y gwymplen ar y chwith.
-
Dewch o hyd i’ch dynodydd yn y sgrin nesaf o dan y teitl, ‘Dynodydd asiant’.
Cael eich awdurdodi gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ffurflenni ar-lein neu ffurflenni papur
Os oes angen i’ch cleient eich awdurdodi gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ffurflenni ar-lein neu ffurflenni papur, gallwch ddefnyddio’r canlynol i wneud hyn:
- ysgwyd llaw’n ddigidol ar gyfer ATED (yn agor tudalen Saesneg) neu gan ddefnyddio ffurflen papur ATED1 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer ATED
- ffurflen ar-lein neu bapur ChV1 ar gyfer elusennau
- ffurflen ar-lein neu bapur CH995 ar gyfer Budd-dal Plant Incwm Uchel
- ffurflen ar-lein neu bapur TC689 ar gyfer Credydau Treth a Budd-dal Plant
- ffurflen ar-lein Comp1 ar gyfer Awdurdodiad dros dro at ddiben gwiriad cydymffurfio
- ffurflen bapur 64-8 ar gyfer Treth Gorfforaeth, TWE Unigolyn neu Yswiriant Gwladol, TWE, Hunanasesiad a TAW
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Medi 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Added translation
-
Information about getting authorisation when using the Multinational Top-up Tax (MTT) or Domestic Top-up Tax (DTT) service has been added.
-
Information on what to do if your client is digitally excluded and how to get authorised has been updated. The entries for 'Making Tax Digital for VAT' and 'VAT' have been updated to 'VAT (previously Making Tax Digital VAT)' and 'VAT (Legacy)'.
-
The table has been updated to confirm the ways a tax agent can apply for authorisation to transact on behalf of a client for VAT.
-
Information on form FB12 has been removed because you now only need to use form 64-8 to authorise an agent.
-
First published.