Sut i wneud cwyn i Gofrestrfa Tir EF
Rydym yn gwerthfawrogi cwynion ac yn defnyddio’r wybodaeth ynddynt i’n helpu i wella’n gwasanaethau. Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le neu os ydych yn anfodlon â’n gwasanaethau, dywedwch wrthym. Rydym yn croesawu’r cyfle i unioni pethau lle bynnag y gallwn.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sut i gwyno
Llenwch y ffurflen gwyno ar-lein (insert link) neu os yw’n well gennych, gallwch ein ffonio a bydd un o’n harbenigwyr o’r tîm Cymorth i Gwsmeriaid yn hapus i helpu.
Trwy ffurflen ar-lein
Wrth lenwi’r ffurflen gwyno ar-lein, rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch i’n helpu i ymchwilio i’ch cwyn. Er enghraifft:
-
rhif teitl
-
cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo
-
unrhyw gyfeirnod gan Gofrestrfa Tir EF
-
unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth sy’n ymwneud â’ch cwyn
Dros y ffôn
Lle bynnag bo modd, bydd ein harbenigwyr cymorth i gwsmeriaid yn ceisio datrys eich pryderon dros y ffôn ond os bydd angen inni ymchwilio ymhellach ichi, byddwn yn trosglwyddo’ch cwyn i’r tîm Cwynion Cwsmeriaid.
Mae ein llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm.
Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Yr hyn fydd yn digwydd nesaf
Byddwn bob amser yn ceisio delio â’ch cwyn yn gyflym, ond os yw’n amlwg y bydd angen ymchwilio’n fanwl i’r mater, byddwn yn dweud wrthych ac yn cysylltu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd.
Sut byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth gyswllt a roddwch inni i ddiweddaru ac ymateb i’ch cwyn. Efallai byddwn yn ei ddefnyddio hefyd i ofyn am ragor o wybodaeth i’n helpu i ddatrys eich cwyn.
Bydd eich gwybodaeth gyswllt, eich cwyn a’r holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r gŵyn yn cael eu storio yn ein system cofnodion cwynion cwsmeriaid am 7 mlynedd.
Gallwch ddysgu rhagor yn ein siarter gwybodaeth bersonol.
I gael gwybodaeth am sut y byddwn yn ymdrin â’ch cwyn, darllenwch ein gweithdrefn gwyno.