Canllawiau

Carchar Hull

Mae Carchar Hull yn garchar ac yn sefydliad i droseddwyr ifanc (YOI) ar gyfer dynion dros 18 oed sydd ychydig y tu allan i Hull, Dwyrain Swydd Efrog.

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Charchar Hull

I ymweld â rhywun yng Ngharchar Hull, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad rhwng 2 wythnos a 24 awr ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Hull.

Cysylltwch â Charchar Hull os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Garchar Hull
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad dros y ffôn.

Llinell archebu: 01482 282 016
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 8am i 12:30pm

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Llun: 9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Mawrth: 5:45pm i 6:45pm
  • Dydd Mercher: Wedi Cau
  • Dydd Iau: 5:45pm i 6:45pm
  • Dydd Gwener: 9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Sadwrn: 9am i 11am a 2pm i 4pm
  • Dydd Sul: 9am i 11am a 2pm i 4pm

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, megis ynghylch eiddo carcharorion, ychwanegiadau i’r rhestr gyswllt, credyd pin neu gyllid, ffoniwch y switsfwrdd ar 01482 282 200.

Nid yw llinell ffôn y Bag Gafael ar waith mwyach. Gallwch brynu Bagiau Gafael yn bersonol o’r ffreutur ar eich ymweliad.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gallwch drefnu ymweliad cyfreithiol drwy e-bost: mae legalvisits.hull@justice.gov.uk yn cael ei fonitro o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30am a 12:30pm.

Amseroedd ymweliadau cyfreithiol:

  • Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau: 9am, 10am, 2pm a 3pm

Amseroedd ymweld Cyfreithiol drwy Fideo:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am, 10:30am, 2pm a 3pm

Mynd i Garchar Hull

Dod o hyd i Garchar Hull ar fap

Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf Paragon, Hull. O’r fan honno gallwch gael tacsi neu fynd ar y bws,

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mewn car, ewch tuag at borthladd y fferi ac mae’r carchar ychydig o’i flaen. Mae maes parcio am ddim (rhif 4) i ymwelwyr ar Southcoates Lane gyda 6 lle i ddeiliaid Bathodyn Glas o flaen y brif giât.

Mae maes parcio am ddim i ymwelwyr yng nghefn y Carchar, Southcoates Lane.

Cyrraedd Carchar Hull

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae gan Carchar Hull bolisi cod gwisg ystyriol o deuluoedd, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo dillad smart. Mae hyn yn golygu dim festiau, dim topiau isel, dim trowsus byr, dim ffrogiau byr a dim dillad pen, ar wahân i’r rhai a wisgir am resymau crefyddol. Dim sawl haen o ddillad, dim esgidiau uchel nac esgidiau â blaenau dur, dim dillad chwaraeon, dim sloganau sarhaus a dim dillad wedi’u rhwygo na dillad y gellir gweld drwyddynt.

Bydd lluniaeth ar gael i’w brynu yn ystod eich ymweliad.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Hull, yn cynnwys gemwaith. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych mewn locer yn y ganolfan ymwelwyr neu yn eich car - mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi car.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Ffoniwch y llinell archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Cyfleusterau ymweld

Yn y ganolfan ymwelwyr, mae peiriant gwerthu diodydd poeth, cyfleusterau newid babanod a mynediad i bobl anabl. Mae man chwarae i blant hefyd. Yn y neuadd ymweld, ceir ffreutur sy’n gweini diodydd poeth ac oer, brechdanau, byrbrydau a melysion.

Diwrnodau teulu

Mae CEF Hull yn cynnal nifer o ymweliadau teuluol drwy gydol y flwyddyn. Mae manylion am sut mae’r ymweliadau hyn yn cael eu cynnal ar gael drwy gysylltu â: Families.Hull@justice.gov.uk.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Hull

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Hull.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ond nid yw’r rhain yn derbyn galwadau. Maen nhw’n gallu gwneud galwadau bob dydd rhwng 7:30am ac 11pm. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Hull drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Hull.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Carchar Hull.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Gall pobl yng Ngharchar Hull wneud cais am ganiatâd i ymwelwyr roi eitemau i mewn yn ystod ymweliad.

Bydd pob eiddo yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion. Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Cysylltwch â Charchar Hull i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Bywyd yng Ngharchar Hull

Mae Carchar Hull wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Hull hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Hull am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Hull yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 1,100 o garcharorion yn byw yng Ngharchar Hull ar draws 6 bloc tai (A i F). Mae’r rhan fwyaf o garcharorion yn rhannu celloedd.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu achrededig a heb achrediad a ddarperir gan Novus. Mae’r rhain yn amrywio o sgiliau sylfaenol, fel Saesneg a mathemateg, i ddysgu o bell gyda’r Brifysgol Agored, y Coleg Estyn Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Addysg Carchardai.

Mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant mewn amrywiaeth o grefftau a phroffesiynau, yn cynnwys:

  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Sgiliau digidol
  • ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill)
  • Paratoi bwyd a choginio
  • Iechyd a Diogelwch
  • Diogelwch bwyd
  • CSCS (Iechyd a Diogelwch Adeiladu)
  • Gwaith coed
  • Busnes
  • Celf
  • Cymwyseddau glanhau
  • Cymorth i baratoi ar gyfer cyflogaeth ar ôl cael eich rhyddhau
  • Gwaith Novus
  • Dysgu o bell

Mae cyflogaeth a hyfforddiant ar gael ledled y sefydliad, ym meysydd Diwydiannau, Ceginau a Gerddi. Tra’n gweithio yn y meysydd hyn gall carcharorion gael mynediad at ddysgu / hyfforddiant achrededig drwy gymwysterau galwedigaethol.

Mae Carchar Hull hefyd yn cynnal nifer o gyrsiau raglenni ymddygiad troseddol achrededig.

Cefnogaeth i deulu, ffrindiau a phobl eraill o bwys

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yn Hull, anfonwch e-bost at: Families.Hull@justice.gov.uk.

Cymorth yng Ngharchar Hull

Ymddiriedolaeth Weithredu Swydd Lincoln yw’r darparwyr presennol ar gyfer y gwasanaeth i deuluoedd. Gallwch gysylltu â’r tîm i gael unrhyw gymorth, gwybodaeth ac arweiniad drwy anfon e-bost at families.hull@justice.gov.uk neu gallwch ffonio: 01482 282 574

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01482 282 200 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01482 282 273 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Hull.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Hull mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Charchar Hull

Llywodraethwr: S Mycroft

Ffôn: 01482 282 200
Yn agored 24 awr
Ffacs: 01482 282 403
Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost: candc.hull@justice.gov.uk

Dilyn Carchar Hull ar Twitter/X

Cyfeiriad

HMP Hull
Hedon Road
Hull
HU9 5LS

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 August 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Updated information about education on offer to prisoners at HMP Hull

  3. Added legal visits and legal video call day and time slots

  4. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  5. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  6. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  7. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  8. New visiting times and booking information added.

  9. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  10. Updated visit info

  11. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  12. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  13. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  14. Covid-19 update

  15. Covid updates to visit times

  16. Added confirmation of secure video calling availability at this prison.

  17. added survey link

  18. Prison visits update.

  19. First published.

Sign up for emails or print this page