Cysylltu'r ap GOV.UK ID Check i GOV.UK
Sut i gysylltu'r ap i'r wefan os ydych angen profi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login.
Mae angen i chi gysylltu’r ap GOV.UK ID Check i’r wefan GOV.UK cyn y gallwch ei ddefnyddio i brofi eich hunaniaeth. Mae hyn yn cadarnhau mai chi yw’r un person a wnaeth mewngofnodi i’ch GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth y llywodraeth.
Mae’r ap fel arfer yn cysylltu â GOV.UK yn awtomatig. Os nad yw hyn yn gweithio, byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau i’ch helpu i gysylltu â’r ap â llaw.
Os na allwch gysylltu â’r ap â llaw
Mae ychydig o bethau y gallwch eu ceisio os nad yw cysylltu â’r ap â llaw yn gweithio.
Gwirio eich bod wedi dechrau defnyddio gwasanaeth y llywodraeth
Ni allwch ddefnyddio’r ap oni bai eich bod wedi mewngofnodi i GOV.UK One Login i ddefnyddio gwasanaeth y llywodraeth. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud hyn cyn ceisio cysylltu â’r ap.
Gwiriwch ba wasanaeth gallwch ei ddefnyddio gyda GOV.UK One Login.
Gwirio bod yr ap yn gweithio ar eich ffôn clyfar
Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio naill ai:
- iPhone 7 neu’n fwy newydd ac yn rhedeg ar iOS 14 neu’n uwch gyda Safari neu Chrome fel eich porwr gwe diofyn
- ffôn Android (er enghraifft Samsung neu Google Pixel) sy’n rhedeg ar 10 neu’n uwch gyda Chrome fel eich porwr gwe diofyn
Gwirio eich gosodiadau porwr gwe
Gwnewch yn siwr:
- nad ydych yn defnyddio meddalwedd blocio hysbysebion - gallwch wirio hyn yng ngososdiadau eich porwr gwe drwy edrych am estyniadau neu ‘add-ons’
- nad ydych yn edrych ar GOV.UK mewn ffenestr breifat neu anhysbys yn eich porwr gwe
Ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych angen ei ddefnyddio a dechreuwch eto
- Caewch bob ffenestr neu dab sydd gennych ar agor.
- Agorwch ffenestr neu dab newydd yn eich porwr gwe ac ewch yn ôl i’r gwasanaeth rydych angen ei ddefnyddio.
- Mewngofnodwch i GOV.UK One Login a cheisiwch brofi eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login eto.
Cysylltu â GOV.UK One Login os ydych angen mwy o help.