Clirio nwyddau sy’n dod i mewn, yn gadael neu’n teithio drwy’r DU
Gwnewch yn siŵr bod eich nwyddau’n cael eu clirio gan y Ganolfan Clirio Genedlaethol (NCH) wrth symud nwyddau i mewn, allan neu drwy’r DU.
Mae’r Canolfan Clirio Cenedlaethol yn ymdrin â symud a phrosesu nwyddau sy’n symud i mewn i, allan o, neu drwy’r DU.
Mae’r Canolfan Clirio Cenedlaethol hefyd yn gyfrifol am reoli a diwygio datganiadau ar ôl eu clirio. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 9am a 5pm.
Prif gyfrifoldebau’r Ganolfan Clirio Genedlaethol yw:
- prosesu datganiadau mewnforio ac allforio a ddewiswyd ar gyfer archwiliadau pellach
- mewnbynnu eich ceisiadau â llaw ar gyfer gwybodaeth am lwytho wrth adael ac wrth gyrraedd
- rheoli nwyddau heb eu cynnwys ar gyfer porthladdoedd a meysydd awyr sy’n gysylltiedig â stocrestr
- awdurdodi a diwygio cofnodion stocrestr a symudiadau
- rheoli nwyddau sy’n cael eu mewnforio o dan gyfundrefnau mewnforio penodol
Cyn i chi ddechrau
Ymdrinnir â datganiadau yn y drefn y’u cyflwynir i’r Canolfan Clirio Genedlaethol ac nid ydym yn rhoi blaenoriaeth i leoliadau penodol na mathau o nwyddau, gan gynnwys nwyddau darfodedig.
Os caiff eich datganiad ei ddewis ar gyfer gwiriad dogfennol, bydd angen i chi gyflwyno pob dogfen ategol, fel:
- tystiolaeth o werth y nwyddau
- rhestr bacio o’r holl eitemau sydd wedi eu cynnwys
- unrhyw drwydded neu dystysgrif
Dylech ddangos yn glir beth yw’r nwyddau pan fyddwch chi’n cyflwyno eich dogfennau os yw eich nwyddau yn:
- dân gwyllt a ffrwydron
- anifeiliaid byw
- gweddillion dynol
Tystiolaeth o werth
Rhaid i chi anfon digon o ddogfennau i brofi gwerth y llwyth cyfan.
Wrth gyflwyno datganiadau aml-anfoneb, dylech anfon yr holl anfonebau sy’n ymwneud â phob datganiad wrth gyrraedd neu anfon crynodeb un dudalen yn nodi’r canlynol (ar gyfer pob un o’r eitemau nwyddau):
- rhif yr anfoneb
- disgrifiad o’r nwyddau
- nifer y darnau
- arian cyfred
- gwerth
Rhestrau pacio
Os cyflwynir datganiad gyda nifer o restrau pacio, gallwch gyflwyno’r atodlen i’r Canolfan Clirio Genedlaethol gyda’r holl ddogfennau priodol eraill.
Datganiadau aml-eitem neu ddatganiadau aml-fewnforiwr neu aml-allforiwr
Os oes gan ddatganiad sy’n cael ei ddewis ar gyfer gwiriad nifer o linellau, dylech gysylltu â’r Canolfan Clirio Genedlaethol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod beth sydd angen ei anfon i’w glirio.
Datganiadau ymlaen llaw
Ar ôl cyflwyno’r datganiad ymlaen llaw ond cyn i’r llong neu’r nwyddau gyrraedd y DU, rhaid i chi gyflwyno copïau o’r datganiad mewnforio (wedi ei dderbyn) ac unrhyw ddogfen ategol i’r Canolfan Clirio Genedlaethol, ynghyd â datganiad wrth gyrraedd gwahanol ar gyfer pob rhif.
Cyfyngir cyflwyno datganiadau ymlaen llaw i 5 diwrnod cyn y bydd disgwyl i’r llong neu’r nwyddau gyrraedd. Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Anfon dogfennau ategol ar gyfer archwiliad tollau i glirio eich nwyddau
Gallwch gyflwyno dogfennau i’r Canolfan Clirio Genedlaethol i glirio eich nwyddau os cânt eu dewis ar gyfer archwiliad tollau. Uwchlwythwch eich dogfennau a chael negeseuon ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi anfon eich dogfennau ategol
Os ydych wedi cael neges yn eich cyfarwyddo i ddarparu dogfennau sydd eu hangen arnom, dylai’r nwyddau sy’n cyrraedd gael eu clirio o fewn 2 awr ar gyfer:
- mewnforion cludiant awyr
- mewnforion cludiant ffordd
- mewnforion drwy’r ‘culforoedd byr’ (gyrru-ymlaen-ac-i-ffwrdd)
- yr holl allforion
Bydd mewnforion cludiant morol wedi’u clirio:
- o fewn 3 awr os byddwn yn cael y dogfennau rhwng 8am a 3pm
- erbyn 8am y diwrnod canlynol os byddwn yn cael y dogfennau ar ôl 3pm
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth uwch i eitemau fel anifeiliaid byw a gweddillion dynol.
Bydd clirio ac ôl-glirio ar gyfer allforion strategol (yn agor tudalen Saesneg) yn cymryd mwy o amser oherwydd:
- mae gwiriadau strategol yn fwy cymhleth
- nid oes terfyn amser hollbwysig ar gyfer gwiriadau ôl-glirio
Cysylltwch â’r Ganolfan Clirio Genedlaethol (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Datganiadau Canolfan Clirio Cenedlaethol sydd wedi’u cwestiynu
Os bydd y canolfan Clirio Cenedlaethol yn codi ymholiad am eich nwyddau, bydd yr ymholiad yn cael ei anfon i’ch blwch derbyn diogel ar y gwasanaeth ar-lein, sydd ar gael drwy uwchlwytho dogfennau a chael negeseuon y Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn agor tudalen Saesneg).
Dylai ymateb i ymholiadau drwy negeseuon diogel 2-ffordd atal unrhyw oedi a fyddai’n digwydd os na fyddwch yn ateb.
Os bydd angen i chi newid datganiad mewnforio yn dilyn ymholiad, bydd angen i chi anfon diwygiad i newid eich datganiad.
Os oes angen i chi ganslo datganiad wrth gyrraedd ar gyfer mewnforion, bydd angen i chi wneud cais i’w ganslo, gan roi rheswm dros y cais er mwyn i’r Canolfan Clirio Cenedlaethol ei gymeradwyo.
Nid yw hyn yn berthnasol i ddatganiadau a gyflwynwyd ymlaen llaw nad ydynt wedi cyrraedd.
Os bydd angen i chi newid datganiad allforio yn dilyn ymholiad, rhaid i chi wirio gyda’ch darparwr meddalwedd ei fod yn gallu gwneud hyn. Os na all eich darparwr wneud hyn, bydd angen i chi ganslo ac ailgyflwyno eich datganiad.
Datganiadau sy’n agored i wiriadau ôl-glirio
Rhaid i’r holl ddogfennau gwreiddiol gyrraedd y Canolfan Clirio Cenedlaethol ar gyfer y camau ôl-glirio cyn pen 3 diwrnod gwaith i ddyddiad ac amser y clirio. Nid yw’r terfyn amser hwn yn berthnasol i ddatganiadau ymlaen llaw. Mae gwasanaeth rhadbost ar gael i’ch helpu i fodloni’r gofyniad hwn.
Ar gyfer tystysgrifau EUR1, ATR1 a GSP mewn swmp, dylech anfon y ddogfen wreiddiol gyda’r datganiad cyntaf. Dylid cynnwys copi o’r dystysgrif dewis briodol gyda datganiadau dilynol. Dylai blwch 44 y datganiad ddangos y rhif sydd ynghlwm wrth y gwreiddiol.
Dylech ddefnyddio amlenni A4 os oes modd, a dylid anfon datganiadau i’r Canolfan Clirio Cenedlaethol bob dydd. Bydd datganiadau a dderbynnir yn cael eu harchwilio, a cheir cosbau am beidio â chydymffurfio â’r gofynion hyn.
Cadw cofnodion
Dylech gadw’r holl gofnodion am 4 blynedd.
Gallwch storio tystiolaeth ddogfennol ar ffurf electronig os yw’n eich galluogi i gynhyrchu copi o’r ddogfen wreiddiol. Rhaid i chi gadw copïau papur sy’n cynnwys stampiau neu ddyfrnodau gwreiddiol, er enghraifft, tystysgrifau dewis.
Bydd CThEF yn cadw datganiadau gwreiddiol a dogfennau ategol dim ond os ydynt wedi cael eu cyflwyno ymlaen llaw i’r Canolfan Clirio Cenedlaethol ar gyfer eu clirio.
Cysylltu â’r Canolfan Clirio Cenedlaethol
I gael help gyda’r datganiadau a gyflwynwyd gennych, gallwch gysylltu â’r Ganolfan Clirio Genedlaethol (yn agor tudalen Saesneg).
Llinell gymorth mewnforio ac allforio
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am fewnforio neu allforio, ffoniwch y llinell gymorth mewnforio ac allforio: ymholiadau cyffredinol (yn agor tudalen Saesneg).
Cwynion
Os oes angen, gallwch wneud cwyn i CThEF ar-lein neu dros y ffôn.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 August 2024 + show all updates
-
References to CHIEF have been removed from the guidance as CHIEF has been decommissioned.
-
Guidance on Customs Input Entries (CIE) has been removed, as the CIE team has ceased operations.
-
Added translation
-
More information about what to do after you’ve sent your supporting documents has been added.
-
The section 'After you’ve submitted' has been updated with time limits for air freight imports, road freight imports, marine freight imports and exports.
-
Welsh translation added.
-
More information about 'Sending supporting documents for a customs check to clear your goods' has been added.
-
This page has been updated because the Brexit transition period has ended.
-
This page has been updated with information on the Customs Declaration Service.
-
When you send your paperwork to the National Clearance Hub you’ll also need to send an NCH1 form in every instance.
-
The contact telephone number for the National Clearance Hub Route 3 Car Team has been updated.
-
New contact email address added to section 'Contacting the NCH' for enquiries on transfer of residence.
-
Mention of withdrawn form 'Import and export: import of private motor vehicle from outside the EC (C104A)' changed to new form 'Application for Transfer of Residence (ToR) relief (ToR01)'.
-
The Importation of motor vehicles using the National Clearance Hub Service Level Agreement was changed from 3 days to 10 days from 1 December 2015.
-
Link to 'Import and export: trader submission form header for declarations (NCH1)' added to the guide.
-
Fixing references to specialist guides
-
First published.