Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar Baratoi Ceisiadau ar gyfer Prosiectau Llinellol
Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â cheisiadau am Orchmynion Cydsyniad Datblygu (DCO) ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Mae’r cyngor yn berthnasol i ymgeiswyr, yr holl bartïon â buddiant ac unigolion sydd â hawliau dros dir (unigolion yr effeithir arnynt).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008.
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Mae’r Ddeddf Cynllunio yn diffinio NSIPau ac yn pennu’r hyn sy’n gwneud prosiect yn NSIP (adrannau 14 i 30). Yn Lloegr, gellir rhoi cydsyniad datblygu ar gyfer yr NSIP a datblygiad cysylltiedig (adran 115), a allai hefyd fod yn llinellol ei natur. Diwygiodd Deddf Cymru 2017 adran 115 y Ddeddf Cynllunio ac mae’n caniatáu ar gyfer datblygiad cysylltiedig o fathau penodol sy’n ymwneud ag NSIPau wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae’r cyngor hwn yr un mor berthnasol i brosiectau o arwyddocâd cenedlaethol a gyfarwyddir gan adran 35 ac mae’n ymdrin ag elfennau ar y tir NSIPau alltraeth.
Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPS) yn sail i’r penderfyniadau a wneir ar y rhan fwyaf o brosiectau llinellol. Dyma’r rhai perthnasol:
-
Yr NPS trosfwaol ar gyfer ynni (NPS EN-1)
-
Yr NPS ar gyfer seilwaith cynhyrchu trydan nwy naturiol (NPS EN-2)
-
Yr NPS ar gyfer seilwaith cyflenwi nwy naturiol a phiblinellau nwy ac olew (NPS EN-4)
-
Yr NPS ar gyfer seilwaith rhwydweithiau trydan (NPS EN-5)
-
Yr NPS Rhwydweithiau Cenedlaethol (NNNPS)
-
Yr NPS ar gyfer Seilwaith Adnoddau Dŵr
Ffocws cyngor ar gyfer prosiectau llinellol
Mae’r cyngor hwn yn canolbwyntio ar linellau trydan (fel y’u diffinnir yn y Ddeddf Cynllunio, adran 16), piblinellau cludo nwy a phiblinellau eraill (adrannau 20 a 21), trosglwyddo adnoddau dŵr (adran 28) a gwaith trawsyrru ar y tir sydd wedi’i gynnwys fel datblygiad sy’n gysylltiedig â gorsafoedd cynhyrchu ynni gwynt alltraeth.
Mae llawer o’r cyngor hwn yn berthnasol i ffyrdd a rheilffyrdd, hefyd. Bydd y dudalen gyngor hon yn cael ei diweddaru wrth i brosiectau o fathau gwahanol ymddangos.
Ym mhob achos, bydd Tudalennau Cyngor ar Ddylunio Da yr Arolygiaeth yn berthnasol, hefyd. (Mae’r cyngor hwn yn cyfeirio at ganllawiau a chyngor gan gyrff eraill, gan gynnwys y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol a Pholisi Cynllunio Cymru, nad ydynt yn cael eu hailadrodd yma). Bydd yr Arolygiaeth yn paratoi cyngor ar faterion dylunio ac ymarfer cyffredinol, maes o law.
Bydd Awdurdodau Archwilio yn ceisio gwneud argymhellion i Ysgrifenyddion Gwladol nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion sydd heb eu datrys, neu gyn lleied ohonynt â phosibl, yn unol â datganiadau’r llywodraeth mewn penderfyniadau ar NSIPau eraill. Felly, nod cyffredinol y cyngor hwn yw helpu’r holl bartïon i gydnabod pa wybodaeth a phrosesau ymgysylltu yn ystod y cam cyn-ymgeisio a fydd yn hwyluso cynnal y camau archwilio, argymhelliad a phenderfyniad ar gyfer NSIPau llinellol yn ddidrafferth.
I’r perwyl hwn, diben y cyngor ar geisiadau ar gyfer prosiectau llinellol yw darparu enghreifftiau ac arfer da sy’n:
-
cynorthwyo ymgeiswyr i baratoi ceisiadau sy’n cynnwys gwybodaeth y gellid gofyn amdani fel arall yn ystod archwiliad
-
cynorthwyo partïon â buddiant (gan gynnwys awdurdodau lleol, ymgyngoreion statudol a chymunedau lleol) i ddeall y meysydd y mae angen ymgysylltu a chytuno arnynt cyn-ymgeisio
-
cynorthwyo unigolion sydd â hawliau dros dir, a elwir yn unigolion yr effeithir arnynt, gan gynnwys Ymgymerwyr Statudol ynglŷn ag ymgysylltu ac amseroldeb dod i gytundeb
Oherwydd eu natur, bydd prosiectau llinellol yn rhyngweithio â llawer mwy o bartïon â buddiant ac unigolion yr effeithir arnynt na darn o seilwaith ar safle unigol. Mae’r ddaearyddiaeth yn golygu y byddant hefyd yn mynd trwy wahanol amgylcheddau a ffiniau gweinyddol ac yn effeithio ar wahanol gymunedau. Felly, mae’n bwysig bod yr holl bartïon a amlygwyd yn ymgysylltu’n llawn ac yn ystyrlon ar bob cam. Mae’n bwysig bod materion yn cael eu deall yn eang ar y cyfle cynharaf, ac os oes gwahaniaethau’n parhau, bod y rhesymau drostynt yn glir.
Dylai ymgeiswyr ddechrau ymgysylltu ac ymgynghori’n gynnar er mwyn rhoi amser i’r partïon ddeall sut byddai’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt a sut gallant ddylanwadu arno. Trafodir ymgynghori ac ymgysylltu ymhellach yn ddiweddarach yn y cyngor hwn.
Dylid darllen y cyngor hwn ar y cyd â’r cyngor arall y cyfeiriwyd ato ac y darparwyd dolenni iddo uchod. Dylai partïon drin y cyngor a roddir mewn ffordd sy’n gymesur â pha mor fawr, cymhleth a dadleuol yw’r datblygiad arfaethedig.
Cyngor cyn-ymgeisio
Dylai ymgeiswyr ymgysylltu â’r Arolygiaeth ynglŷn â’r materion a amlinellir isod yn gynnar yn ystod cam datblygu’r prosiect, fel y nodir ym Mhrosbectws Cyn-ymgeisio 2024. Diben hyn yw eu galluogi i gynhyrchu ceisiadau a baratowyd yn dda sy’n gallu symud ymlaen trwy archwiliad effeithlon. Gweler y Canllawiau ar y cam cyn-ymgeisio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Dylid defnyddio ymgynghoriadau cyn-ymgeisio statudol ac anstatudol i helpu ymgeiswyr i amlygu a datrys materion ar y cam cynharaf a lleihau’r risg gyffredinol i’r prosiect ac amser yr archwiliad. Anogir yr holl unigolion yr effeithir arnynt a phartïon â buddiant i gefnogi cydweithio’n gynnar oherwydd bydd llawer o bartïon yn gysylltiedig â phrosiectau llinellol y bydd angen i ymgeiswyr ymgysylltu â nhw.
Asesu effeithiau amgylcheddol a Datganiadau Amgylcheddol
Mae cyngor cyffredinol ar faterion amgylcheddol ar gael ar Dudalennau Cyngor Amgylcheddol yr Arolygiaeth. Wrth baratoi Datganiadau Amgylcheddol ar gyfer prosiectau llinellol, dylai ymgeiswyr sicrhau yr adroddir ar groniad effeithiau niweidiol neu fuddiol nid yn unig yn ôl pob rhan ddaearyddol o’r Datganiad Amgylcheddol, ond hefyd ar draws ffiniau rhannau’r Datganiad Amgylcheddol ac ar draws y prosiect yn ei gyfanrwydd. Dylai asesiadau’r Datganiad Amgylcheddol lywio dylunio da. Mae’r adran ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Dylunio Da yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar Ddylunio Da yn cynnwys mwy o fanylion am sut mae asesu effeithiau amgylcheddol yn llywio dylunio da.
Y datblygiad arfaethedig: beth a ble
Mewn prosiect llinellol, bydd gan lawer o bartïon â buddiant ac unigolion yr effeithir arnynt fuddiant penodol yn y rhan o’r datblygiad arfaethedig sydd agosaf atynt neu sy’n effeithio arnynt yn lleol. Byddai’n ddefnyddiol i bawb petai elfennau sylfaenol a fyddai’n cael eu sefydlu gan natur y datblygiad arfaethedig yn cael eu hamlinellu o flaen llaw. Er enghraifft, ble mae’n rhaid i’r pwyntiau dechrau a gorffen gysylltu â phwyntiau cysylltu presennol neu ble mae’n rhaid i’r dechnoleg gyd-fynd â seilwaith presennol. Byddai’n hwylus i bawb petai’r materion hyn yn cael eu hamlinellu’n glir mewn un man.
Mae angen i bob parti allu ymgyfarwyddo’n rhwydd â diben a chanlyniadau’r datblygiad arfaethedig. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gasglu gwybodaeth ynghyd mewn un ffynhonnell, fel Dogfen Ymagwedd Ddylunio neu Ddatganiad Dylunio a Mynediad. Gall dogfen o’r fath gyfeirio at wybodaeth berthnasol mewn dogfennau eraill, fel Datganiad Cynllunio neu grynodeb annhechnegol o Ddatganiad Amgylcheddol, i osgoi dyblygu. Mater i ymgeiswyr yw trefnu eu dogfennau mewn modd rhesymegol.
Disgrifio’r datblygiad arfaethedig, ei ddyluniad, ei ddiben a’i ganlyniadau
Mae Tudalen Gyngor Dylunio Da yr Arolygiaeth yn amlinellu’r angen am broses ddylunio dryloyw, sy’n nodi canlyniadau ac egwyddorion dylunio.
Mae’n arbennig o bwysig i brosiectau llinellol fod y broses ddylunio a ddisgrifir yn mynd i’r afael â heriau a chyfyngiadau ac yn dangos y buddion. Fe allai prosiectau llinellol achosi effeithiau niweidiol o ran hollti a darnio os na ystyrir buddiannau pob parti’n ofalus ar y cam dylunio cynharaf. Er na fydd modd osgoi rhai cyfyngiadau, gall opsiynau lliniaru a gwella leihau’r effeithiau hyn gymaint â phosibl ac fe allent greu rhai canlyniadau buddiol. Felly, mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei ystyried yn benodol.
Mae’n arbennig o bwysig i brosiectau llinellol fod y broses ddylunio a ddisgrifir yn mynd i’r afael â heriau a chyfyngiadau ac yn dangos y buddion. Fe allai prosiectau llinellol achosi effeithiau niweidiol o ran hollti a darnio. Bydd angen ystyried y mater hwn yn ofalus ar y cam dylunio cynharaf er mwyn mynd i’r afael ag ef trwy broses ailadroddol sy’n defnyddio asesiad amgylcheddol. Er na fydd modd osgoi rhai cyfyngiadau, gall opsiynau lliniaru a gwella leihau’r effeithiau hyn gymaint â phosibl ac fe allent greu rhai canlyniadau buddiol. Felly, mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei ystyried yn benodol.
Os yw ymgeiswyr wedi amlygu cyfleoedd y tu allan i derfynau’r Gorchymyn a fydd yn darparu llawer o ganlyniadau buddiol, dylent sicrhau bod y rhain yn cael eu cynnwys a, lle y bo’n ymarferol, yn cael eu sicrhau trwy gytundeb a106 neu gytundebau tebyg. Dim ond materion y darparwyd tystiolaeth ohonynt ac a sicrhawyd y gellir ystyried eu bod yn fuddiol, o bosibl, wrth asesu cydbwysedd cyffredinol ystyriaethau cynllunio.
Wrth ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig, dylai ymgeiswyr ystyried gwahanu’r agweddau llinellol, fel ceblau tanddaear, llinellau trydan uwchben a phiblinellau dros y tir, oddi wrth yr elfennau nad ydynt yn llinellol, fel is-orsafoedd, gorsafoedd trawsnewidydd, cyfadeiladau pen selio cebl, piblinell nad yw’n llinellol, gosodiadau ar ben y tir a gorsafoedd falfiau bloc. Dylai disgrifiadau ddangos yn glir ble mae piblinellau presennol ac arfaethedig ar ben y tir neu o dan y ddaear. Bydd angen diffinio llinellol a heb fod yn llinellol os defnyddir y termau yn y DCO.
Dylai ceisiadau ddarparu a dangos y cyd-destun daearyddol ac esbonio sut mae’r prosiect llinellol yn cysylltu â’r grid cenedlaethol neu systemau piblinell ehangach, er enghraifft. Diben hyn yw helpu pobl sy’n anghyfarwydd â’r math o brosiect a’r lleoliad i ddeall diben, hyd a lled a chysylltiadau’r datblygiad arfaethedig.
Mae’n ddefnyddiol cynnwys rhai o’r mathau o gynlluniau a darluniadau y cyfeirir atynt isod yn yr adran ar Gynlluniau, delweddau a darluniadau, fel y cynllun ar gyfer Piblinell Carbon Deuocsid HyNet.
Hyblygrwydd, manylion ac Amlen Rochdale
Mae dull Amlen Rochdale yn fodd derbyniol o asesu’r senario achos gwaethaf ar yr un pryd â chynnal hyblygrwydd i fynd i’r afael ag ansicrwydd y datblygiad arfaethedig (gan gynnwys ei fesurau lliniaru). Gweler hefyd Cynnwys DCO ar gyfer NSIPau.
Mae enghreifftiau o faterion y gellid ceisio hyblygrwydd ynglŷn â nhw yn cynnwys dulliau adeiladu fel croesfannau ceblau â ffos neu ddi-ffos. O ran elfennau llinellol, fe allent gynnwys lleoli cyfarpar fel pyst cysylltu, awyrellau a falfiau. O ran yr elfennau nad ydynt yn llinellol, fe all gynnwys hyblygrwydd ynglŷn ag ôl troed, uchder a màs adeiladu, fel is-orsafoedd.
Sicrheir hyblygrwydd hefyd trwy derfynau gwyro a microleoli, a ddisgrifir isod.
Terfynau gwyro
Oherwydd eu hehangder daearyddol a’r ffaith bod yr union dechnegau adeiladu a chyflwr y tir yn annhebygol o fod yn hysbys ar adeg y cais, bydd gan brosiectau llinellol derfynau gwyro hir ac amrywiol. Mae’n arferol ymgymryd â microleoli ar ôl cael cydsyniad. (Microleoli yw’r broses dylunio technegol a pheirianegol derfynol a ddefnyddir i bennu union leoliad ased seilwaith).
Dylai ymgeiswyr nodi’n glir y rhesymau dros derfyn gwyro sy’n ofynnol. Dylai hyn gynnwys unrhyw derfyn gwyro fertigol (ar ben ac o dan y tir) a geisir, yn ogystal â therfyn gwyro llorweddol. Dylid esbonio ble mae angen i derfyn gwyro ledu ar hyd llwybr llinellol. Fe allai hyn gynnwys paratoi ar gyfer cynnydd mewn maint neu gapasiti yn y dyfodol, er enghraifft ar gyfer piblinell. Dylid culhau terfynau cyn belled ag y bo’n bosibl. At hynny, dylid archwilio culhau terfynau gwyro yn benodol i leoliad er mwyn lleihau effeithiau niweidiol a tharfu ar hawliau tir gymaint â phosibl, ac anogir hyn. Dylai’r addasiadau hyn gael eu hamlinellu’n glir ar gynllun a’u hesbonio.
Dylai ymgeiswyr hefyd sicrhau bod faint o hyblygrwydd sy’n bosibl yn ymarferol o fewn y terfyn gwyro trosfwaol mwyaf yn cael ei amlinellu’n glir ac yn syml i bartïon â buddiant ac unigolion yr effeithir arnynt. Er enghraifft, o ran llinell drydan uwchben, os bydd un peilon yn cael ei leoli’n derfynol ar un pwynt pellaf ochrol o’r terfyn gwyro, yn hytrach nag yn ganolog, byddai hyn yn dylanwadu ar ble y gellid lleoli peilonau cyfagos er mwyn lleihau newidiadau cyfeiriad gymaint â phosibl.
Yn yr un modd, bydd yr hyblygrwydd sy’n deillio o derfynau gwyro o ran prosiectau llinellol yn aml yn arwain at ansicrwydd ynglŷn â faint o goed a pherthi y bydd angen eu symud ymaith. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod y tybiaethau a ddefnyddir i ddiffinio faint o lystyfiant y bydd angen ei symud ymaith yn cyd-fynd â’r ffigurau cyfatebol a ddefnyddir yn yr asesiad o effeithiau amgylcheddol.
Fe all fod yn ddefnyddiol dangos y coed a fydd yn cael eu symud ymaith ar ffotograffau neu ffotogyfosodiadau, fel yr un isod o Gysylltiad Hinkley Pwynt C.
Ffotogyfosodiad panoramig o ardal goediog gyda chylchoedd o wahanol liwiau o amgylch grwpiau o goed sy’n dangos i ba raddau y byddai’r coed y bwriedir eu symud ymaith yn newid yr olygfa’n amlwg.
Ffynhonnell: Ffotogyfosodiadau ategol Cysylltiad Hinkley Pwynt C sy’n dangos coed a fydd yn cael eu symud ymaith
Terfynau’r Gorchymyn
Bydd angen i ymgeiswyr esbonio a chyfiawnhau terfynau arfaethedig y Gorchymyn. O ran cyfiawnhau lledau coridorau a phwerau cysylltiedig a geisir, fe all fod yn ddefnyddiol darparu trawstoriadau, fel ar gyfer Prosiect Sero Net Teesside, a gyflwynwyd gyda’r cynllun tir perthnasol, gan ddefnyddio gwahanol liwiau i ddangos y gwahanol bwerau.
Trawstoriad â dimensiynau sy’n dangos lleoliadau piblinellau, ardaloedd glaswelltog a llawr caled.
Ffynhonnell: Cyfiawnhad ar gyfer Lledau Piblinell Prosiect Sero Net Teesside
Fe allai prosiectau llinellol ryngweithio ag NSIPau eraill. Yn yr achosion hyn, bydd angen cynllun sy’n dangos sut mae terfynau Gorchymyn y cais yn rhyngweithio â therfynau Gorchymyn unrhyw NSIPau eraill. Bydd manwl gywirdeb y cynllun hwn yn dibynnu ar y cam y mae unrhyw NSIPau eraill wedi’i gyrraedd a faint o fanylion sy’n cael eu cyflwyno yn y cais.
Gall uwchgynllun o ardal ryngweithio o’r fath helpu i greu lle. Diwygiodd yr Ysgrifennydd Gwladol y DCO i gynnwys dull strategol o’r fath yn ei benderfyniad ar Fferm Wynt Alltraeth Boreas Norfolk (paragraffau 4.7.4 a 12.1.g.) oherwydd bod ei his-orsafoedd nesaf at rai fferm wynt alltraeth arall.
Dylai ymgeiswyr egluro statws prosiectau eraill. Mae hefyd yn ddefnyddiol i ymgeiswyr nodi sut gallai’r DCO arfaethedig effeithio ar unrhyw bwerau Gorchymyn a wnaed.
Esblygiad y dyluniad, gan gynnwys dewisiadau amgen
Naratif esblygiad y dyluniad
Dylai ymgeiswyr ddilyn yr argymhellion a’r ystyriaethau a amlinellir ar y Dudalen Cyngor ar Ddylunio Da. O ran prosiectau llinellol, mae’n bwysig bod y naratif yn ymdrin â’r cam adeiladu yn ogystal â gweithredu oherwydd y potensial i effeithio ar gymunedau a chynefinoedd amrywiol ar hyd y llwybr.
Archwilio opsiynau a dewisiadau amgen
Mae’n debygol y bydd prosiectau llinellol wedi dilyn proses archwilio opsiynau i bennu llwybr a ffefrir. Mae hyn yn gofyn am ddull wedi’i strwythuro’n glir, sy’n amlinellu meini prawf ar gyfer dethol a phenderfynu ar y llwybr a ffefrir. Dylai hefyd gysylltu ag egwyddorion dylunio ac ymdrin ag unrhyw opsiynau ar gyfer dewis llwybr. O ran rhai prosiectau, bydd dewisiadau amgen a ystyriwyd gan ymgeiswyr, ond na ddewiswyd, yn asgwrn cynnen ymhlith partïon â buddiant ac unigolion yr effeithir arnynt. Felly, mae rhesymeg glir a ddadleuwyd yn drwyadl yn hanfodol.
Mae’n syniad da trafod opsiynau mewn cyfarfodydd cyn-ymgeisio gyda’r Arolygiaeth.
Er bod rhaid rhoi manylion coridorau ac aliniadau a ystyriwyd, mae hefyd yn ddefnyddiol cynnwys crynodeb o’r broses, fel yn Natganiad Cynllunio Bramford i Twinstead, adran 5.7. O ran llinellau trydan uwchben a’u seilwaith cysylltiedig, mae NPS EN-5 yn datgan bod rheolau penodol y dylid eu dilyn, sef Rheolau Holford ar gyfer pennu llwybr a Rheolau Holgate ar gyfer dylunio a lleoli is-orsafoedd. Fe allai’r rhain gael eu diweddaru a dylid defnyddio’r fersiwn gyfatebol fwyaf diweddar.
Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 yn mynnu bod ymgeiswyr yn dangos dewisiadau amgen a ystyriwyd ganddynt, lle y bônt ar gael yn rhesymol. Mae disgrifio dewisiadau amgen yn rhan bwysig o’r broses dylunio da, hefyd. Un enghraifft o hyn yw’r gwaith tanddaear yn Natganiad Cynllunio Bramford i Twinstead, adran 5.7. Os ystyriwyd safleoedd amgen ar gyfer elfennau nad ydynt yn llinellol, dylid esbonio’r rhain hefyd.
Mae tudalen gyngor yr Arolygiaeth, Cyngor ar y cam cyn-ymgeisio, yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio dewisiadau amgen.
Opsiynau o fewn DCO
Mae’n bosibl y bydd angen sicrhau bod opsiynau ar gael yn ystod y camau ymgeisio a chydsynio er mwyn darparu hyblygrwydd ar gyfer dewisiadau cyflawni masnachol amgen neu ddatblygiadau technolegol yn y dyfodol. Gall opsiynau gweithredol o fewn ceisiadau ar gyfer prosiectau llinellol ymdrin â:
-
llwybro
-
cerrynt trydanol, cerrynt eiledol foltedd uchel neu gerrynt union foltedd uchel, sydd hefyd yn dylanwadu ar yr angen am orsafoedd trawsnewidydd
Yn flaenorol, gadawyd opsiynau’n agored ar gyfer y math o is-orsaf, sy’n effeithio ar faint a dyluniad, fel Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr. Caniataodd hyn ar gyfer gosod offer switshis wedi’u hinswleiddio ag aer neu wedi’u hinswleiddio â nwy yn yr is-orsaf. Amlinellodd y DCO wahanol baramedrau dylunio manwl ar gyfer y ddau ddull.
Nid oes un ffordd orau o drin opsiynau mewn DCO. Bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Mae’n rhaid defnyddio’r ffordd a fydd yn rhoi’r eglurder mwyaf ar ôl cydsyniad ar gyfer cymeradwyaethau a gweithredu. Bydd unrhyw opsiynau a gynhwysir mewn cais yn arwain at fwy o amser yn ystod y cam archwilio (ac efallai yn ystod y cam argymhelliad) oherwydd bydd angen i’r holl opsiynau gael eu hystyried i’r un graddau yn erbyn y profion perthnasol. Felly, dylai ymgeiswyr drafod y ffordd y gallai opsiynau gael eu cynnwys yn eu DCO gyda’r Arolygiaeth yn ystod y cam cyn-ymgeisio.
Hyblygrwydd
Mae’n bosibl y bydd angen hyblygrwydd hefyd o ran faint o fanylion a ddarperir cyn i gydsyniad gael ei roi. Mewn egwyddor, mae hyn yn fesur a dderbynnir gan y diwydiant. Fodd bynnag, po fwyaf yr hyblygrwydd sy’n angenrheidiol, y mwyaf y materion y dylid eu datrys cyn ymgeisio. Pan ofynnir am hyblygrwydd, mae’n rhaid i’r sail y byddai cymeradwyaethau ôl-gydsynio yn cael eu ceisio arni yn y dyfodol gael ei sicrhau. Fe allai hyn fod yn ystod y cam adeiladu a’r cam gweithredu. Mae’n rhaid asesu senarios achos gwaethaf. Mae’n rhaid i’r wybodaeth fod yn glir er mwyn i bartïon â buddiant ac unigolion yr effeithir arnynt ddeall beth mae’n ei olygu iddynt. Mae’n rhaid i’r awdurdodau sy’n rhoi cymeradwyaethau ôl-gydsynio gael dull clir, wedi’i sicrhau o wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Llunio DCO sy’n cynnwys opsiynau
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
-
Cysylltiad Hinkley Pwynt C a oedd yn cynnwys dwy fersiwn o’r DCO yn dibynnu ar b’un a ddewiswyd opsiwn llwybr A neu B
-
Roedd Fferm Wynt Alltraeth Boreas Norfolk yn cynnwys opsiynau o fewn un DCO ar gyfer p’un a fyddai’n cael ei datblygu ar ei phen ei hun neu ochr yn ochr â fferm wynt alltraeth arall
-
Rhoddodd Prosiect Hornsea Tri y cyfrifoldeb am benderfynu ar gerrynt eiledol foltedd uchel neu gerrynt union foltedd uchel, neu gyfuniad o’r ddau, i’r ymgymerwr ar ôl cael cydsyniad. Cynhwyswyd gwaith ar gyfer y ddau yn y DCO, gan gynnwys gofyniad i esbonio’r dewis i’r awdurdod cynllunio perthnasol. Roedd y cais yn cynnwys trawstoriad diagramatig i ddangos y gwahaniaethau, a ddangosir isod
Dau drawslun diagramatig (un ar gyfer cerrynt eiledol foltedd uchel ac un ar gyfer cerrynt union foltedd uchel) sy’n dangos elfennau fferm wynt alltraeth o dyrbin cynhyrchu ynni gwynt yn y môr i is-orsaf ar y tir.
Ffynhonnell: Crynodeb Annhechnegol Datganiad Amgylcheddol Prosiect Hornsea Tri
Ceisiadau am gael gwneud newidiadau
Dylai ymgeiswyr geisio datrys materion cyn cyflwyno cais ac osgoi gofyn am gael gwneud newidiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd faint o dir sydd dan sylw a’r potensial i effeithio ar lawer o ardaloedd.
Technegau digidol a deallusrwydd artiffisial
Mae’r panel cynllunio seilwaith llinellol yn datblygu arfer da ar ddefnyddio technolegau newydd, fel deallusrwydd artiffisial, wrth gynllunio’r seilwaith mawr sy’n allweddol i gyflawni nodau cenedlaethol fel sero net, cydnerthedd ac adfer natur. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi cyngor ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ceisiadau ac apeliadau. Caniateir defnyddio deallusrwydd artiffisial, ond mae’n rhaid datgan hynny yn y cais ac mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’i fod yn addas i’w ddiben.
Y cam adeiladu
Camau ac amseriad gwaith adeiladu
Mae’n bosibl y bydd angen cyfnodau adeiladu hir, fesul cam ar brosiectau llinellol ar hyd pellteroedd mawr. Fe allai gwaith adeiladu gael ei gynllunio i ddigwydd mewn sawl man ar yr un pryd ar hyd llwybr. Mae’n rhaid i raglenni adeiladu amlinellol arfaethedig gael eu cynnwys mewn ceisiadau ar gyfer pob prosiect, yn seiliedig ar y wybodaeth orau sydd ar gael. Dylid darparu manylion ynglŷn ag amseriad camau prosiectau llinellol, fel y gellir deall hyd ac amseriad y gwaith o safbwynt cymunedau yr effeithir arnynt. Hefyd, fel y gall awdurdodau lleol ddeall a chynllunio ar gyfer unrhyw oblygiadau cymeradwyo ôl-gydsynio.
Darparodd ymgeisydd Prosiect Galluogi Ynni Gwyrdd Swydd Efrog (Yorkshire GREEN) enghraifft o gamau ôl-gydsynio yn ei ymateb i wrandawiad penodol ar y DCO, Atodiad E Strwythur Enghreifftiol Cynllun Camau Ysgrifenedig.
Oherwydd eu natur, bydd prosiectau llinellol yn cynnwys elfennau fel croesi ceblau neu biblinellau a rhyngweithiadau â phrosiectau adeiladu eraill. Gall hyn fod yn berthnasol i elfennau llinellol a heb fod yn llinellol, fel is-orsafoedd ar y tir sydd wedi’u cydleoli ar gyfer ffermydd gwynt alltraeth. Gall cydweithio, fel rhannu llwybrau mynediad neu ardaloedd gweithio, leihau effeithiau niweidiol gymaint â phosibl. Dylai hyn gael ei gynnwys yn y dyluniad a’i hwyluso i leihau effeithiau cronnol i’r eithaf, lle y bo’n ymarferol, heb fod angen dibynnu ar brosiect arall.
Anogir cytundebau Cymydog Da. Un enghraifft o’r fath yw’r dull coridor a rennir a amlinellir yn Adroddiad ar y Cyd Prosiect Solar Cottam ar y Cydberthnasoedd rhwng NSIPau. Mae hyn yn esbonio bod dulliau wedi cael eu cynnwys ym mhob DCO a gyflwynwyd i alluogi coridor a rennir ar gyfer cysylltu â’r grid ar ran pedwar datblygwr. Sicrhawyd coridorau ceblau a rennir ar gyfer ffermydd gwynt alltraeth â chysylltiadau cyfagos, hefyd: Norfolk Vanguard gyda Norfolk Boreas a Dwyrain Anglia UN gyda Dwyrain Anglia TRI. Mae angen gwneud mwy na datgan yn syml y byddai coridor a rennir yn cael ei sefydlu. Byddai amseriad gweithgareddau adeiladu ar gyfer gwahanol brosiectau sy’n defnyddio’r coridor yn berthnasol i effeithiau ar dderbynyddion yn yr ardal.
Os yw oriau gwaith yn destun dadl o ran prosiectau llinellol, dylai’r cais ystyried a oes gwahanol amgylchiadau neu dderbynyddion daearyddol a allai arwain at wahanol oriau gwaith ar hyd gwahanol rannau o’r llwybr. Os felly, dylid nodi’r rhesymau a’r lleoliadau ar gyfer gwahanol oriau gwaith.
Mynediad adeiladu
Bydd angen i brosiectau llinellol gael mynedfeydd adeiladu ar hyd pellteroedd mawr (ac mae’n debygol y bydd arnynt angen mynedfeydd gweithredol ar gyfer gwaith cynnal a chadw). Anogir ymgeiswyr i drafod y rhesymeg sy’n sail i’w dull strategol ar gyfer mynediad adeiladu, o ran llwybrau cludo, mynedfeydd lluosog neu gyfuniad o’r ddau, gyda’r Arolygiaeth ar gam cynnar. Dylai ymgeiswyr hefyd ymateb i bryderon unigolion yr effeithir arnynt a phartïon â buddiant ac, os oes modd, parhau i weithio ar ddewisiadau amgen.
Er enghraifft, fe allai rhan fer o lwybr cludo ar ffordd ddynesu mynediad lluosog fel arall osgoi strydoedd mewn cymuned yr effeithir arni. Yn yr un modd, bydd angen i leoliadau pwyntiau mynediad gael eu hystyried yn ofalus a gallant elwa o wybodaeth leol, a all arwain at leoliadau neu lwybrau amgen.
Cydbwysedd torri a llenwi
Pan amlygir bod angen mewnforio deunydd llenwi neu allforio deunydd dros ben mewn safleoedd sydd ar wahân yn ddaearyddol ar hyd llwybr llinellol, dylai ymgeiswyr ddechrau trwy ystyried opsiynau tirffurf lleol mewn rhannau neu safleoedd o fewn yr hyd cyffredinol i fodloni’r gofynion am ddull cynaliadwy a nodir mewn Datganiadau Polisi Cenedlaethol. Os bydd angen symud deunyddiau ar draws y llwybr, dylid asesu hyn yn nhermau allyriadau CO2 o symudiadau cerbydau a tharfu ar briddoedd a’u trin sawl gwaith. Pan fydd deunydd sy’n addas i’w ailddefnyddio o fewn hyd y prosiect, dylid ei ddefnyddio i fodelu’r tir yn rhan o’r dull dylunio er mwyn lleihau gwastraff neu ddeunyddiau na wneir digon o ddefnydd ohonynt. Er enghraifft, amlygodd cais Croesfan Tafwys Isaf elfennau o ddeunydd wedi’i gloddio y cynigiwyd eu defnyddio i ddylunio’r pyrth dynesu a Chalk Park newydd, sy’n lleihau trafnidiaeth fewnol a gwastraff i’r eithaf.
Cyfadeiladau adeiladu, ardaloedd gweithio ac ardaloedd paratoi ar y safle
Mae’n debygol y bydd angen i brosiectau llinellol gael cyfres o gyfadeiladau adeiladu, ardaloedd gweithio, ardaloedd drilio ac ardaloedd paratoi ar hyd eu llwybr. Dylai ceisiadau egluro pa weithgareddau fyddai’n digwydd ym mha ardaloedd, a dylai hyn gael ei sicrhau yn y DCO. Dylid amlinellu faint o dir a fydd yn ofynnol ac am ba hyd y bydd ei angen.
Fe allai hyn olygu bod angen i ymgeiswyr esbonio’r dull adeiladu, er enghraifft, yr angen am gyfadeiladau ar wahân ar gyfer contractwyr sy’n adeiladu elfennau llinellol a heb fod yn llinellol prosiect. Dylai ymgeiswyr gyfiawnhau lleoliadau o’r fath a therfynau’r Gorchymyn mewn ceisiadau.
Er y dylid ffafrio lleoliadau sefydlog bob amser, bydd angen hyblygrwydd weithiau ar gyfer lleoliad terfynol cyfadeiladau adeiladu dros dro. Os felly, mae’n rhaid sicrhau proses ar gyfer cymeradwyaeth ôl-gydsynio, sy’n cynnwys lleoliad, mapio manwl, disgrifiad ac asesu ar sail achos gwaethaf mewn perthynas â derbynyddion sensitif.
Effeithiau’r cam adeiladu a chanlyniadau gweithredol buddiol
Iechyd a lles cymunedau lleol
Bydd adeiladu prosiectau llinellol yn rhyngweithio â gwahanol gymunedau ar hyd y llwybr (a’r tu allan i’r llwybr) mewn gwahanol ffyrdd. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod iechyd a lles cymunedau y bydd gwaith adeiladu’n effeithio arnynt yn cael eu hasesu yn yr Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol. Bydd angen i asesiad o’r fath gyfuno effeithiau niweidiol a aseswyd ac yr adroddwyd arnynt mewn rhannau eraill o’r Datganiad Amgylcheddol, yn ogystal â chynnwys effeithiau hollti ffyrdd a hawliau tramwy cyhoeddus. Dylai gynnwys cymunedau y tu allan i derfynau’r Gorchymyn pan fydd materion fel traffig yn effeithio arnynt.
Mae Pennod 13, Pobl a Chymunedau, Datganiad Amgylcheddol Prosiect Piblinell Southampton i Lundain yn cynnwys un dull ar gyfer cyfuno’r holl bynciau sy’n gallu effeithio ar gymunedau lleol.
Yn ogystal, bydd cyfleoedd i gymunedau ar hyd llwybr llinellol elwa mewn gwahanol ffyrdd. Dylai ymgeiswyr ystyried y potensial i greu buddion iechyd a chymdeithasol i bobl yn ystod y cam gweithredol. Dylai’r rhain gael eu seilio ar ddealltwriaeth o ddyheadau ac anghenion pobl leol a’r amgylchedd lleol. Bydd Twnnel Tideway Tafwys (Tideway) yn darparu saith parc bach newydd, y mae pob un ohonynt yn cynnwys nodweddion unigryw sy’n adlewyrchu’r ardaloedd lleol a’u treftadaeth. Blaendraeth Arglawdd Putney, sef man agored i’r gorllewin o Bont Putney, oedd y cyntaf i’w gwblhau.

Pedwar llun o seremoni agor y man glan afon yn Arglawdd Putney, Llundain, sy’n dangos pobl wedi ymgynnull a golygfeydd o seddau, gwaith celf a llinell gychwyn ras rwyfo’r Brifysgol gyda thestun wedi’i frithosod mewn efydd.
Ffynhonnell: Tideway
Hawliau tramwy cyhoeddus
Gall prosiectau llinellol ryngweithio â hawliau tramwy cyhoeddus yn fynych. Mae’n bosibl y bydd angen i hawliau tramwy cyhoeddus gael eu gwyro a’u cau dros dro neu’n barhaol. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod effeithiau hollti’n cael eu llwyr ddeall a bod dull o gyfleu gwybodaeth am gau a gwyro i wahanol grwpiau defnyddwyr yn cael ei ddarparu a’i sicrhau.
Fel yr amlinellir yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol, mae’n rhaid i ymgeiswyr ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael i wella mynediad a chysylltedd wrth liniaru effeithiau niweidiol ar hawliau tramwy cyhoeddus, Llwybrau Cenedlaethol a thir mynediad arall. Byddai’r Arolygiaeth yn disgwyl i ymgeiswyr ystyried y posibilrwydd o wella mynediad fel canlyniad, beth bynnag fo’r math o seilwaith llinellol.
Dylai’r gwelliannau hyn ystyried cysylltu â rhwydweithiau amgylchynol fel Llwybrau Beicio Cenedlaethol. Yn ogystal, dylid cysylltu â’r cyrff cynllunio trafnidiaeth perthnasol i gyflawni rhyng-gysylltiadau o’r fath. Roedd DCO Cyffordd 28 yr M25 yn cynnwys Gofyniad 17 ar gyfer cymeradwyo cynllun ehangach neu gytundeb ar lwybr defnyddwyr heblaw modurwyr a oedd yn cynnwys tir o fewn terfynau’r Gorchymyn ac o fewn rheolaeth yr ymgeisydd, yn ogystal â llwybrau a reolir gan Gyngor Sir Essex a Transport for London.
Hawliau tir
Ymgysylltu ag unigolion yr effeithir arnynt
Mae prosiectau llinellol yn debygol o gynnwys nifer fawr o dirfeddianwyr a’u cynrychiolwyr ac unigolion eraill sydd â hawliau dros dir (y cyfeirir atynt fel unigolion yr effeithir arnynt). Bydd hefyd nifer fawr o leiniau o natur wasgaredig iawn. Dylai ymgeiswyr ac unigolion yr effeithir arnynt gydnabod mai’r cam cyn-ymgeisio yw’r adeg i ymgynghori ar y llwybr a gwneud newidiadau. Oherwydd y niferoedd mawr sy’n gysylltiedig, dylai ymgeiswyr ac unigolion yr effeithir arnynt ymgysylltu’n gynnar gyda’r nod o ddod i gytundeb cyn i’r cais gael ei gyflwyno.
Felly, disgwylir y bydd ymgeiswyr wedi defnyddio traciwr Hawliau Tir (y dylid ei drafod gyda’r Arolygiaeth yn ystod y cam cyn-ymgeisio) yn ogystal â’r Llyfr Cyfeirio. Bydd templed addas yn cael ei roi i chi yn rhan o’r gwasanaeth cyn-ymgeisio. Yn dibynnu ar raddfa a chymhlethdod yr hawliau tir y gofynnir amdanynt, fe allai hwn fod ar ffurf fer neu hirach sy’n addas ar gyfer yr archwiliad. Mae’n darparu gwybodaeth y gellir ei chwilio am faterion a chynnydd, fesul llain, ac mae’n angenrheidiol oherwydd nifer yr unigolion yr effeithir arnynt a nifer y lleiniau sydd dan sylw. Anogir ymgeiswyr i drafod cynnwys ac amlder diweddaru’r traciwr gyda’r Arolygiaeth yn ystod cyfarfodydd cyn-ymgeisio, er mwyn sicrhau ei fod yn gymesur â chymhlethdod y prosiect. Bwriedir i’r traciwr fod yn offeryn sy’n defnyddio data a ddelir eisoes gan ymgeiswyr, a gyflwynir i hysbysu’r holl bartïon am drafodaethau hawliau tir ac i gynorthwyo Awdurdodau Archwilio.
Microleoli
Mae terfynau gwyro’n caniatáu ar gyfer microleoli yn ystod y cam adeiladu, sy’n angenrheidiol pan na wyddys manylion am gyflwr y tir a’r amgylchedd. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd y mae ei angen ar gontractwyr, yn gyffredinol. Weithiau, fe all fod yn briodol ac yn gymesur caniatáu ymgynghori â thirfeddianwyr ar y safle cyn adeiladu, fel ar brosiect Yorkshire GREEN yn y Cod Ymarfer Adeiladu, paragraffau 2.2.14 a 2.2.15.
Croesi neu effeithio ar dir neu gyfarpar Ymgymerwyr Statudol
Mae prosiectau llinellol yn debygol o gynnwys sawl achos o groesi a rhyngweithio â thir a chyfarpar y mae gan Ymgymerwyr Statudol eraill hawliau drosto ac asedau arno. Mae’n arferol i’r DCO gynnwys darpariaethau i amddiffyn hawliau’r Ymgymerwyr Statudol hynny.
Fel yr amlinellir o dan Ddarpariaethau Amddiffynnol yn Cynnwys DCO ar gyfer NSIPau, dylai ymgeiswyr ymgysylltu ag Ymgymerwyr Statudol yr effeithir arnynt yn gynnar. Mae’r Arolygiaeth yn disgwyl bellach y dylai Ymgymerwyr Statudol ymgysylltu ag ymgeiswyr yn adeiladol ac yn gynnar. Mae hyn yn bwysig ar brosiectau llinellol oherwydd nifer yr achosion posibl o groesi neu wyro cyfleustodau ac ystod y partïon sy’n gysylltiedig.
Pan fydd angen darpariaethau wedi’u teilwra er budd Ymgymerwr Statudol penodol, dylai’r rhain gael eu cynnwys yn y cais am DCO. Ni fydd darpariaethau gwag mewn DCO drafft yn cael eu derbyn o ystyried yr ystod o ddarpariaethau DCO a wnaed sydd eisoes ar gael. Dylid bob amser ceisio cadarnhau Darpariaethau Amddiffynnol cytunedig yn y cais am DCO. Y rheswm am hyn yw oherwydd y bydd yn arbed amser yn yr archwiliad trwy gwestiynau ysgrifenedig ac mewn gwrandawiadau, pan fydd angen.
Dylai natur y rhyngweithiadau â phob Ymgymerwr Statudol gael ei hesbonio yn y cais. Pan fydd Ymgymerwyr Statudol yn anghytuno â geiriad yr ymgeisydd, dylent weithio gyda’r ymgeisydd i ddarparu geiriad amgen, a luniwyd yn addas i gyd-fynd â’r cais am DCO, yn barod i’w ystyried gan Awdurdodau Archwilio ar gyfer ei gynnwys. Dylai’r Traciwr Hawliau Tir gael ei ddiweddaru i adlewyrchu cynnydd.
Cynlluniau, darluniadau a delweddau
Mae gwahaniaeth rhwng:
-
cynlluniau a fydd yn cael eu sicrhau gan y DCO a’u defnyddio ar gyfer adeiladu, y rhai hynny sy’n cefnogi’r Datganiad Amgylcheddol, sy’n cael eu hardystio yn gyffredinol, a’r rhai hynny sy’n ofynnol gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’u diwygiwyd) (y Rheoliadau CFfGR) a
-
chynlluniau a darluniadau i helpu i ddeall y cynigion
Mae rôl ar gyfer cynnwys y ddau mewn ceisiadau ac ar gyfer ymgynghoriad.
O ran cynlluniau sy’n cael eu sicrhau gan y DCO, sy’n cefnogi’r Datganiad Amgylcheddol ac a ragnodir yn y Rheoliadau CFfGR, yn ogystal â’r Cyngor ar Baratoi a Chyflwyno Dogfennau Cais, dylai ymgeiswyr nodi’r canlynol:
-
dylai cynlluniau elfennau llinellol redeg o’r gogledd i’r de neu o’r gorllewin i’r dwyrain yn gyson, er mwyn hwyluso darllen cynlluniau’n ddilyniannol ar-lein
-
lle y bo’n ymarferol, dylai cynlluniau gael eu cyflwyno wrth yr un raddfa, gyda’r un rhifau trawsluniau a dalenni ar gyfer lleoliadau penodol, er mwyn hwyluso croesgyfeirio
-
dylai cynlluniau gynnwys set o gynlluniau sy’n dangos yr holl derfynau gwyro (ar gyfer elfennau llinellol a heb fod yn llinellol) ar yr un set
-
dylai’r rhifau lleiniau ar y Cynllun Tir ddilyn dilyniant rhesymegol ar hyd y llwybr
-
bydd cynnwys rhai enwau ffyrdd, fel y rhai hynny a enwir yn y Datganiad Amgylcheddol ar rai o’r cynlluniau gwaith o leiaf a chynlluniau’r Datganiad Amgylcheddol (traffig a thrafnidiaeth, er enghraifft), yn helpu partïon â buddiant ac Awdurdodau Archwilio i ddeall lleoliadau penodol
-
argymhellir bod elfennau adnabyddadwy ar hyd llwybr llinell, fel rhifau peilonau, yn cael eu cynnwys ar gynlluniau er mwyn helpu i bennu lleoliadau
-
dylid datgan yn glir ar ba sail y lluniwyd delweddau neu ffotogyfosodiadau, fel lle y cynhyrchwyd senario peirianneg mwyaf tebygol yn hytrach na senario achos gwaethaf
Dylai ymgeiswyr ystyried buddion defnyddio deunydd dangosol yn y cais o ran lleihau’r amser mewn gwrandawiadau a’r angen am gwestiynau. Mae hefyd yn fuddiol iawn defnyddio deunydd dangosol wrth ymgysylltu ac ymgynghori er mwyn hwyluso dealltwriaeth.
Mae enghreifftiau o ddeunydd dangosol sy’n gallu bod o gymorth yn dilyn isod.
Cynrychioliadau llwybr sgematig
Fel yr un isod ar gyfer piblinell carbon deuocsid HyNet.

Map sgematig sy’n dangos llwybr piblinellau.
Ffynhonnell: DCO Piblinell Carbon Deuocsid HyNet, Datganiad Cynllunio a’r Crynodeb Annhechnegol o’r Datganiad Amgylcheddol
Trawsluniau sgematig
Yn wahanol i’r trawstoriadau sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau CFfGR (adran 6(2)(b)) ar gyfer priffyrdd a ffyrdd, mae trawsluniau sgematig yn ddangosol er mwyn helpu i esbonio’r datblygiad arfaethedig.
Er enghraifft, yr un syml ar gyfer prosiect Estyniad Sheringham a Dudgeon a’r un manylach ar gyfer Yorkshire GREEN.
Trawslun diagramatig sy’n dangos elfennau fferm wynt alltraeth o dyrbin cynhyrchu ynni gwynt yn y môr i is-orsaf ar y tir.
Ffynhonnell: Crynodeb Annhechnegol Datganiad Amgylcheddol Prosiectau Estyniad Fferm Wynt Alltraeth Sheringham Shoal a Dudgeon

Rhannau o drawslun diagramatig sy’n dangos gwahanol beilonau wedi’u lliwio yn ôl p’un a ydynt yn rhai arfaethedig, presennol neu ar gyfer eu datgysylltu, foltedd llinellau, is-orsafoedd presennol ac arfaethedig, a lleoliadau ar gyfer gosod asedau trydydd parti o dan y ddaear.
Ffynhonnell: Darluniad trawslun o waith arfaethedig Yorkshire GREEN
Delweddau o seilwaith tebyg
Fel golwg o’r awyr o is-orsaf nodweddiadol, fel y cynhwyswyd yn Natganiad Dylunio a Mynediad Yorkshire GREEN.

Golwg o’r awyr o is-orsaf.
Ffynhonnell: Datganiad Dylunio a Mynediad Yorkshire GREEN
Astudiaethau lliw
Mae dogfen Dull Dylunio ar gyfer Seilwaith Penodol i Safle Cysylltiad Hinkley Pwynt C yn dangos hyn. Er y gallai fod yn rhy gynnar pennu lliwiau yn ystod y camau cyn-ymgeisio ac archwilio, gall astudiaethau cyd-destunol sy’n arwain at sicrhau paletau lliw helpu yn ystod ymgynghori a gosod bwriadau ar gyfer cymeradwyaethau ôl-gydsynio. Mae’r rhain yn ddefnyddiol pan fydd cymeriad y dirwedd neu’r treflun yn newid ar hyd llwybr.
Cyfres o ffotograffau sy’n dangos gwahanol olygfeydd o Fryniau De Mendip sy’n dangos y lliwiau a’r deunyddiau o fewn y dirwedd leol gyda’r palet lliw arfaethedig.
Ffynhonnell: Dull Dylunio ar gyfer Seilwaith Penodol i Safle Cysylltiad Hinkley Pwynt C
Diagramau i ddangos technegau adeiladu
Fel y rhai hynny sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng cloddio ffos toriad agored a chroesfannau di-ffos ar gyfer piblinell carbon deuocsid HyNet.

Trawslun diagramatig sy’n dangos adeiladu ffos toriad agored i gladdu cebl.

Trawslun diagramatig sy’n dangos drilio uniongyrchol llorweddol i adeiladu cebl o dan gwrs dŵr.
Ffynhonnell: Piblinell Carbon Deuocsid HyNet, Crynodeb Annhechnegol o’r Datganiad Amgylcheddol
Cynlluniau troshaen cyfansawdd penodol i safle
Ar hyd llwybr llinellol, fe allai fod lleoliadau lle mae ystod gymhleth o weithgareddau’n cael eu cynnal mewn lleoliad penodol, cyfyngedig. Gall cynllun troshaen cyfansawdd hwyluso dealltwriaeth mewn ardaloedd ar hyd llwybr, fel hwnnw a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd fel ymateb Dyddiad Cau 2 yn rhan o Brosiect Yorkshire GREEN (Atodiad A).
Enghraifft arall fyddai pan fydd dynodiadau sy’n gorgyffwrdd neu dderbynyddion sensitif yn digwydd mewn lleoliad penodol. Gall cynlluniau sy’n pennu nodweddion ac elfennau sensitif y safle hwnnw gyda chynigion lliniaru a digolledu, gan gynnwys technegau adeiladu, fod yn ddefnyddiol.
Byddai galluogi Awdurdodau Archwilio a phartïon â buddiant i archwilio haenau System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn electronig yn fodd arall o lwyr ddeall y cysylltiadau rhwng gwybodaeth ar y gwahanol haenau. Fodd bynnag, byddai angen sicrhau y gellid dangos yr un wybodaeth ar ffurf cynllun ar gyfer partïon â buddiant nad oes ganddynt GIS.
Llinellau amser dangosol
Fel yr un a gyflwynir yng Nghrynodeb Annhechnegol o Ddatganiad Amgylcheddol Fferm Wynt Alltraeth Boreas Norfolk
Modelau ffisegol
Gall modelau ffisegol fod yn offeryn defnyddiol at ddibenion ymgynghori. Gellir dod â nhw i wrandawiadau pan fo’n berthnasol. Mae datblygiad argraffu 3-D yn golygu ei bod yn fwyfwy ymarferol defnyddio modelau ffisegol ar gyfer elfennau cynlluniau.
Archwiliadau safle cynllunio
Gall ymgeiswyr gynorthwyo Awdurdodau Archwilio hefyd trwy ddarparu lleoliadau o ddiddordeb a chynllunio llwybr posibl er mwyn i Awdurdodau Archwilio gynnal archwiliadau safle digwmni ar dir y gall y cyhoedd gael mynediad iddo yn ystod y cyfnod cyn-archwilio. Bydd hyn yn fwyfwy pwysig po hiraf yw’r prosiect llinellol. Yn yr un modd, byddai’n ddefnyddiol petai partïon â buddiant ac unigolion yr effeithir arnynt yn crybwyll y lleoedd maen nhw eisiau i Awdurdodau Archwilio ymweld â nhw yn eu sylwadau perthnasol. Mae hyn yn wahanol i gais a allai ddod yn ddiweddarach ynglŷn ag archwiliadau safle gyda chwmni, sydd ar dir preifat yn gyffredinol.
Gorchmynion Cydsyniad Datblygu
Mae gwybodaeth gyffredinol am baratoi Gorchmynion Cydsyniad Datblygu (DCOau) ar gael yn y Canllawiau gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ac ar ein Tudalennau Cyngor. O ran prosiectau llinellol, bydd angen rhoi sylw arbennig i’r pwyntiau canlynol oherwydd y ddaearyddiaeth, y graddfeydd amser a nifer y partïon sy’n gysylltiedig:
-
dogfennau wedi’u sicrhau sy’n nodi’n glir y bwriad cytunedig am gymeradwyaeth ôl-gydsynio yn y dyfodol ar gyfer yr holl faterion y cedwir hyblygrwydd ynglŷn â nhw yn y DCO. Fe allai hyn gynnwys Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu, Cod Ymarfer Adeiladu (neu rywbeth tebyg) ar gyfer y cam adeiladu a chynlluniau paramedrau, cynlluniau rheoli a dogfennau dull dylunio. Fe ddylai hyn hefyd gynnwys ‘cynllun cynlluniau’ wedi’i sicrhau sy’n esbonio’r berthynas rhwng cynlluniau’r cam adeiladu a chynlluniau amlinellol
-
egluro pa wybodaeth am y cam adeiladu (fel gwybodaeth am effeithiau adeiladu, mynediad, cau hawliau tramwy cyhoeddus) a fydd ar gael i bobl leol a sut, oherwydd bod y natur linellol yn golygu y gallai gwaith fod yn mynd rhagddo mewn gwahanol ardaloedd ar yr un pryd dros gyfnod hir
-
egluro beth yw ‘cam’ adeiladu (amserol neu ddaearyddol) er mwyn cynorthwyo’r awdurdodau hynny sy’n ymwneud â chymeradwyo ar ôl cydsynio. Mae’r rhan fwyaf o brosiectau llinellol yn cynllunio a chyfeirio at ddull adeiladu fesul cam yn y DCO
-
egluro lleoliad, cyfnod defnydd a dull adfer yr holl fynedfeydd a llwybrau adeiladu dros dro, gan gynnwys y tebygolrwydd o ddychwelyd i ailddefnyddio’r rhai y ceisir hawliau parhaol drostynt
-
pan fydd asesiad yn tybio y bydd croesfan ddi-ffos yn cael ei defnyddio, dylai hyn gael ei nodi a’i sicrhau yn y DCO drafft a dogfennau rheoli cysylltiedig
-
cyn belled â phosibl, dylid cytuno ar Atodlenni Rhyddhau Gofynion oherwydd fe allai llawer o awdurdodau fod yn gysylltiedig
-
mae’n rhaid i geisiadau gynnwys set gyflawn o Ddarpariaethau Amddiffynnol. Os nad yw’r rhain eisoes wedi cael eu cytuno gyda’r partïon perthnasol, dylai’r Traciwr Hawliau Tir egluro eu statws a’u tarddiad os defnyddir Darpariaethau Amddiffynnol a wnaed yn flaenorol
Ymgysylltu ac ymgynghori
Mae gan ymgeiswyr, partïon â buddiant (gan gynnwys awdurdodau lleol ac ymgyngoreion statudol), unigolion yr effeithir arnynt (gan gynnwys ymgymerwyr statudol) a chymunedau lleol rolau i’w chwarae yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Mae’r Arolygiaeth yn disgwyl i’r holl bartïon wneud ymdrech resymol i ymgysylltu’n gynnar a dod i gytundeb, neu, os na, amlinellu’n glir pa wahaniaethau sy’n parhau a pham. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn prosiectau llinellol oherwydd nifer y partïon y mae angen i ymgeiswyr ymgysylltu â nhw ac oherwydd y ddaearyddiaeth helaeth ac amrywiol sy’n gallu arwain at wahanol effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
Mae daearyddiaeth prosiectau llinellol yn golygu y gallai’r datblygiad arfaethedig groesi ffiniau o wahanol fathau. Mae’n bwysig egluro’r gwahanol bartïon a lle y bydd cydweithio’n berthnasol. Dylai ymgeiswyr a’r holl bartïon nodi’r dudalen Cyngor ar yr adroddiad ymgynghori ar wefan yr Arolygiaeth.
Mae’n debygol y bydd y datblygiad arfaethedig yn mynd trwy fwy nag un ardal awdurdod lleol. Mae’n bwysig egluro a fydd awdurdodau lleol yn ymgysylltu ac ymateb ar y cyd neu’n unigol. O ran Prosiect Cysylltiad Hinkley Pwynt C, fel y disgrifiwyd yn argymhelliad yr Awdurdod Archwilio (paragraff 3.12.2), trefnodd chwe awdurdod lleol eu hunain yn Gyd-gynghorau. Cyflwynwyd Adroddiad ar yr Effaith Leol ar y cyd ac fe’u cynrychiolwyd gan Gwnsler mewn gwrandawiadau fel y Cyd-gynghorau. Mae’r Arolygiaeth o’r farn bod hyn yn arfer da oherwydd ei fod wedi galluogi archwiliad effeithlon. Mae’r Arolygiaeth yn annog cydweithio lle y bo’n ymarferol. Fodd bynnag, cydnabyddir nad yw hyn bob amser yn bosibl, er enghraifft cynhaliwyd ymarfer ad-drefnu llywodraeth leol yn ystod yr archwiliad o Brosiect Yorkshire GREEN.
Dylai awdurdodau lleol sy’n bwriadu cydweithio sicrhau bod y dirprwyaethau angenrheidiol ar waith yn ystod y cam cyn-ymgeisio i’w galluogi i gydweithio ar eitemau fel Sylwadau Perthnasol, Adroddiadau ar yr Effaith Leol, Sylwadau Ysgrifenedig, Datganiadau Tir Cyffredin a Datganiad Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb. Mewn rhai achosion, mae awdurdodau lleol sy’n cydweithio wedi cynllunio adnoddau fel bod gwahanol awdurdodau lleol yn arwain gwahanol feysydd technegol ar ran yr holl awdurdodau. Gall hyn wella effeithlonrwydd yn ystod archwiliad. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt yr adnoddau technegol sy’n angenrheidiol i ymgysylltu yn ystod y cam cyn-ymgeisio.
Pan fydd sawl awdurdod lleol yn gyfrifol am gymeradwyaethau ôl-gydsynio, byddai’n ddefnyddiol pe gallant gytuno cyn belled â phosibl ar egwyddorion fel oriau adeiladu, graddfeydd amser ar gyfer rhyddhau gofynion a gofynion eraill.
Gall prosiectau llinellol groesi ffiniau cenedlaethol, fel Piblinell Carbon Deuocsid HyNet. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod y gwahanol fframweithiau polisi’n cael eu hesbonio.
Disgwylir i ymgymerwyr statudol ymgysylltu’n gynnar ag ymgeiswyr. Mae daearyddiaeth llwybr llinellol yn golygu y gallai fod sawl gweithredwr. Yn yr achos hwn, dylai ymgymerwyr statudol egluro a fyddant yn cynrychioli eu hunain ar y cyd neu’n unigol yn ystod y cam cyn-ymgeisio, fel bod hynny’n glir mewn Sylwadau Perthnasol a DCO drafft y cais. Er enghraifft, yn y DCO a wnaed ar gyfer Prosiect Yorkshire GREEN, cyfunwyd Northern Powergrid (Northeast) PLC a Northern Powergrid PLC (Yorkshire) o dan y talfyriad NPG er budd y Gorchymyn a Darpariaethau Amddiffynnol, er nad oedd hyn yn glir ar adeg y cais.
Yn yr un modd, er nad ydynt yn ymgymerwyr statudol, fe allai Byrddau Draenio Mewnol ddymuno alinio â Byrddau Draenio Mewnol eraill i ymgysylltu ag ymgeiswyr yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Mae cyflwyniadau ar y cyd yn hwylus i Awdurdodau Archwilio, lle y bo’n bosibl. Byddai’n ddefnyddiol iawn trefnu hyn o’r cychwyn cyntaf mewn Sylwadau Perthnasol, Sylwadau Ysgrifenedig a Datganiadau Tir Cyffredin.
Dylid ymgysylltu â’r gymuned yn uniongyrchol ac yn eang. Dylai ymgeiswyr ddechrau gwneud hyn yn gynnar. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen iddo amrywio rhwng grwpiau sydd â barn am agweddau ar y datblygiad arfaethedig ar hyd y llwybr a’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn effeithiau penodol mewn lleoliadau penodol.
Dylai awdurdodau lleol helpu’r ymgeisydd i amlygu lleoliadau lle y bydd angen ymgysylltu. Byddai’n ddefnyddiol i Awdurdodau Archwilio sy’n cynllunio archwiliadau safle digwmni ar ôl derbyn, yn ystod y cam cyn-archwilio, pe gellid amlygu lleoliadau y mae llawer o ddiddordeb cymunedol ynddynt. Fe allai hyn fod mewn Datganiad Dylunio a Mynediad.
Mae’n debygol y bydd llawer o dirfeddianwyr a phobl sydd â buddiant mewn tir y gellid effeithio arnynt. Mae’r Arolygiaeth yn pwysleisio, fel y nodwyd uchod, pa mor bwysig ydyw bod ymgeiswyr ac unigolion yr effeithir arnynt yn ymgysylltu a thrafod â’i gilydd ar y cyfle cynharaf ac, os oes modd, yn dod i gytundeb cyn i’r cais gael ei gyflwyno.
Pwyntiau i gloi
Prif nodwedd prosiect llinellol yw ei hyd a lled daearyddol. Oherwydd hyn, bydd ystod eang o faterion amgylcheddol a thechnolegol yn gysylltiedig yn aml. Mae’n bwysig bod eu graddfa a’u heffeithiau’n cael eu deall a’u hystyried yn briodol yn lleol ac ar draws y prosiect cyfan. Dylai ymgeiswyr ddilyn yr argymhellion a amlinellir yn y nodyn cyngor hwn a chyngor cysylltiedig i hwyluso dealltwriaeth ac ymgysylltu adeiladol. Dylai’r holl bartïon ymgysylltu’n gynnar oherwydd bydd hyn yn helpu i sicrhau dylunio da ac ystyried y prosiect yn effeithiol.