Carchar Nottingham
Mae Carchar Nottingham yn garchar i ddynion yn ardal Sherwood yn Nottingham ac mae’n gwasanaethu llysoedd yn Swydd Nottingham a Swydd Derby.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Nottingham
I ymweld â rhywun yng Ngharchar Nottingham, rhaid i chi:
- bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- bwcio eich ymweliad o leiaf 24 awr ymlaen llaw
- bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad. Gall carcharorion gael hyd at 3 ymwelydd dros 10 oed ar yr un pryd, ynghyd ag unrhyw blant iau.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Charchar Nottingham.
Cysylltwch â Charchar Nottingham os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Garchar Nottingham
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
Gallwch archebu eich ymweliad ar-lein, dros y ffôn neu drwy anfon e-bost. Nid oes gwasanaeth archebu ar-lein ar gael ar hyn o bryd.
Llinell archebu ymweliadau: 0115 962 8980
Oriau agor y llinell ffôn:
- Dydd Llun: 1pm i 4pm
- Dydd Mawrth: 9am tan ganol dydd
- Dydd Mercher: ar gau
- Dydd Iau: 1pm i 4pm
- Dydd Gwener: ar gau
- Dydd Sadwrn: 9am tan ganol dydd
- Dydd Sul: ar gau
E-bost: socialvisits.nottingham@justice.gov.uk
Amseroedd ymweld:
- Dydd Llun: 9am i 10:30am a 2pm i 3:30pm
- Dydd Mawrth: 9am i 10:30am a 2pm i 3:30pm
- Dydd Mercher: 9am i 10:30am a 2pm i 3:30pm
- Dydd Iau: 9am i 10:30am a 2pm i 3:30pm
- Dydd Gwener: ar gau
- Dydd Sadwrn: 9am i 10:30am a 2pm i 3:30pm
- Dydd Sul: 9am i 10:30am a 2pm i 3:30pm
Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol
Apwyntiadau cyswllt fideo
Mae Carchar Nottingham yn cynnal apwyntiadau Cyswllt Fideo o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a hanner dydd a 2pm i 6pm.
Mae slotiau apwyntiadau yn dechrau ar yr awr ac yn para am awr oni ofynnir fel arall (ac eithrio 5pm, mae hyn am 30 munud yn unig).
Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan ddangos I.D ffotograffig ar ddechrau eu cyswllt fideo.
Anfonwch e-bost at VCCNottingham@justice.gov.uk i archebu lle.
Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol wyneb yn wyneb
Mae ymweliadau cyfreithiol (wyneb yn wyneb) yn dechrau ar yr awr ac yn para am awr oni ofynnir fel arall. Mae angen enwau llawn pawb sy’n bresennol er mwyn i’r archeb gael ei gwneud.
Amseroedd ymweld:
- Dydd Llun: 2pm i 3pm neu 3pm i 4pm
- Dydd Mawrth: 9am i 10am, 10am i 11am, 2pm i 3pm neu 3pm i 4pm
- Dydd Mercher: dim ymweliadau
- Dydd Iau: 9am i 10am, 10am i 11am, 2pm i 3pm neu 3pm i 4pm
- Dydd Gwener: 9am i 10am neu 10am i 11am
Anfonwch e-bost at VCCNottingham@justice.gov.uk i archebu lle.
Sylwch na fydd Cysylltiadau Fideo nac ymweliadau Cyfreithiol ar wyliau banc.
Cyrraedd Carchar Nottingham
Dod o hyd i Garchar Nottingham ar fap
Yr orsaf drenau agosaf yw Nottingham sydd tua 4 milltir o Garchar Nottingham. O’r fan honno gallwch chi fynd ar fws neu dacsi.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Mae llefydd parcio cyfyngedig ar gael ar y safle i ymwelwyr, gan gynnwys mannau ger y fynedfa flaen i ddeiliaid Bathodyn Glas.
Mynd i Garchar Nottingham
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Cofrestrwch yn y ganolfan ymwelwyr o leiaf hanner awr cyn eich ymweliad. Bydd y swyddfa archebu yn agor rhwng 8:30am ac 1:30pm.
Rhaid i chi fod wrth gatiau’r carchar erbyn 9:45am fan bellaf ar gyfer ymweliadau bore a 2:45pm ar gyfer ymweliadau prynhawn. Os ydych chi’n hwyrach na’r amseroedd hyn, ni chewch fynd i mewn.
Efallai y bydd eich bys neu’ch bawd yn cael eu sganio fel rhan o archwiliad diogelwch. Mae’n bosibl y cewch chi sgan iris hefyd. Bydd llun pob ymwelydd, ar wahân i blant, yn cael ei dynnu.
Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad drwy deimlo, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.
Mae gan Garchar Nottingham bolisi cod gwisg llym, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo dillad smart, dim dillad gwaith (gan gynnwys lifrai), dim crysau chwaraeon na chrysau pêl-droed, dim dillad cwflog, dim ffonau symudol, dim logos sarhaus, dim sbectol haul na sgarffiau pen oni bai am resymau crefyddol, dim jîns wedi’u rhwygo, dim topiau fest, dim ffrogiau na sgertiau byr.
Caniateir i bob ymwelydd sy’n oedolyn gymryd uchafswm o £20 mewn darnau arian (ni chaniateir arian papur). Gellir defnyddio’r arian i brynu bwyd a diod o’r bar byrbrydau yn neuadd ymweliadau.
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Nottingham. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer (bydd angen darn £1 arnoch) neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.
Gallwch ddod â dymis, weips babi, clytiau, powdr llaeth a meddyginiaeth ar bresgripsiwn gyda chi. Rhaid i bob eitem babi fod mewn bag plastig clir.
Sylwch y gall rhai o’r eitemau hyn gael eu rhoi mewn bagiau a’u tagio yn y Ganolfan Ymwelwyr cyn mynd i mewn i’r carchar.
Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Cyfleusterau ymweld
Mae canolfan ymwelwyr yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT). Mae’n cynnwys toiledau a man chwarae i blant, ac mae staff ar gael i gynnig cefnogaeth a chyngor i ymwelwyr.
Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor bob dydd rhwng 8am a 4pm.
Ffôn: 0115 962 8980
Gwybodaeth am gostau galwadau
E-bost: socialvisits.nottingham@justice.gov.uk
Oriau agor
Dydd Llun a dydd Iau, 1pm i 4pm
Dydd Mawrth, dydd Gwener a dydd Sadwrn, 9am i ganol dydd
Mae diodydd poeth ac oer ar gael, bydd melysion, brechdanau a bwyd cynnes yn dechrau ym mis Hydref. Ni fydd man chwarae’r plant ar gael i’w ddefnyddio.
Diwrnodau teulu
Caiff y rhain eu cynnal unwaith y mis.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Nottingham
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Nottingham.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho ap Prison Video
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.
Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Galwadau ffôn
Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau ar unrhyw adeg yn ystod oriau ffonio. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn. Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Nottingham drwy ddefnyddio EmailaPrisoner.com. Drwy’r gwasanaeth hwn, gall teulu a ffrindiau anfon neges sy’n cael ei hargraffu a’i dosbarthu gan staff y carchar â llaw. Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael dolen ysgogi drwy e-bost y mae’n rhaid i chi glicio arni er mwyn ysgogi eich cyfrif ac anfon neges. Rhaid i chi brynu isafswm credyd o £5 er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, sy’n cael ei gynnig am gost o 40c yr e-bost ac am ddim i’r derbynnydd.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Nottingham.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Mae pobl yng Ngharchar Nottingham sydd ar lefelau ymddygiad uwch yn cael rhestr o eitemau cymeradwy y gallant eu prynu o gatalog.
Rhaid i bob carcharor wneud cais am gael dod â dillad i’r carchar. Os caiff ei gymeradwyo, gallwch chi roi sbectol bresgripsiwn ac eitemau penodol o ddillad i staff y carchar pan fyddwch chi’n dod i’ch apwyntiad. Dim ond swyddog dynodedig yn y ganolfan ymwelwyr sy’n gallu derbyn eitemau cyn i’ch ymweliad ddechrau.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion. I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.
Cysylltwch â chanolfan ymwelwyr Nottingham i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.
Bywyd yng Ngharchar Nottingham
Mae Carchar Nottingham wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Nottingham hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Gall carcharorion hefyd gael eu hyfforddi gan y Samariaid i fod yn ‘wrandawyr’ i helpu i gefnogi pobl sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Nottingham am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Nottingham yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 1000 o garcharorion yng Ngharchar Nottingham mewn cymysgedd o gelloedd unigol a rhai a rennir.
Addysg a gwaith
Gall carcharorion yng Ngharchar Nottingham gofrestru gyda choleg y carchar ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol neu weithio yn un o’r diwydiannau carchar neu rolau domestig. Mae Nottingham hefyd yn gweithio gydag elusennau i ddarparu beiciau wedi’u hadnewyddu. Mae carcharorion sy’n gweithio yn y maes hwn yn ennill cymhwyster ar yr un pryd.
Mae gwasanaethau ailsefydlu ar gael sy’n cynnig cyngor ar dai, rheoli dyledion a chymorth i ddod o hyd i waith.
Mae Carchar Nottingham hefyd yn cefnogi nifer o brosiectau cymunedol lleol.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.
I gysylltu â Theuluoedd a Phobl Eraill o Bwys Carchar EF Nottingham, anfonwch e-bost at NottinghamSaferCustody@justice.gov.uk.
Cefnogaeth yng Ngharchar Nottingham
Mae’r Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai yn cynnig cymorth a chyngor i ymwelwyr. Gallant ddarparu gwybodaeth am gyllid, swyddi, iechyd, cyffuriau ac alcohol, llety a gweithwyr cefnogi teuluoedd.
Gall teuluoedd ac anwyliaid fod yn rhan o broses cynllunio rhyddhau carcharorion drwy ‘Y Camau Nesaf’ yn y ganolfan ymwelwyr.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 0115 872 4000 os oes gennych bryder brys am les carcharor a gofynnwch am y swyddog negesau neu’r llywodraethwr ar ddyletswydd.
Llinell gymorth dalfa mwy diogel
Os oes gennych bryderon am ddiogelwch neu les carcharor yng Ngharchar Nottingham, ffoniwch y llinell gymorth dalfa mwy diogel.
Ffôn: 0115 872 4176
Peiriant ateb 24 awr
Gwybodaeth am gostau galwadau
Gadewch neges sy’n rhoi cymaint o fanylion â phosibl gan gynnwys enw’r carcharor, rhif y carcharor a’r adain mae wedi’i lleoli arni os ydych chi’n gwybod hynny. Os ydych chi’n dymuno, gallwch adael eich manylion a’ch rhif cyswllt eich hun er mwyn i’r carchar allu rhoi adborth i chi, os yw hynny’n briodol.
Gallwch hefyd ddarllen mwy o wybodaeth am bryderon am garcharu mwy diogel ar wefan Teuluoedd Carcharorion.
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem, cysylltwch â Charchar Nottingham.
Adroddiad arolygu a chynllun gweithredu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Nottingham mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Charchar Nottingham
Llywodraethwr: Paul Yates
Ffôn: 0115 872 4000
Ffacs: 0115 872 4001
Gwybodaeth am gost galwadau
Dilynwch Garchar Nottingham ar Twitter/X
Cyfeiriad
HMP Nottingham
Perry Road
Sherwood
Nottingham
NG5 3AG
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Updates to visiting facilities, visiting money limit (now £7.50) and updated ID requirements.
-
Online booking is now available at Nottingham prison. Added link to online booking system and updated visits enquiries contact email.
-
Updated video link time slots for legal and professional visits.
-
Secure video calls update.
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
New visiting times and booking information added.
-
Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.
-
Visits update
-
Updated visit info
-
Updated visit info
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Added confirmation of secure video calls made available at this prison.
-
Updated: HMP Nottingham visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.
-
added survey link
-
Visit information update
-
First published.