Canllawiau

Ymyriadau a rhaglenni ymddygiad troseddol

Rhaglenni ac ymyriadau ymddygiad troseddol sydd ar gael ar hyn o bryd i droseddwyr yng Nghymru a Lloegr.

Ymyriadau a rhaglenni ymddygiad troseddol

Nod ymyriadau a rhaglenni ymddygiad troseddwyr yw ceisio newid y ffordd o feddwl, yr agweddau a’r ymddygiadau a allai arwain pobl i aildroseddu.

Cyflwynir y rhan fwyaf o raglenni ac ymyriadau mewn grwpiau ond mae darpariaeth un-i-un ar gael mewn rhai amgylchiadau.

Maen nhw’n annog agweddau a nodau rhag-gymdeithasol ar gyfer y dyfodol, a’u pwrpas yw helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd er mwyn rhoi’r gorau i droseddu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • datrys problemau
  • gweld pethau o safbwynt pobl eraill
  • rheoli perthnasoedd
  • hunan-reolaeth

Mae rhaglenni’n aml yn defnyddio technegau ymddygiad gwybyddol. Ceir tystiolaeth ryngwladol dda fod y rhain yn effeithiol dros ben wrth leihau aildroseddu.

Mae amrywiaeth o raglenni ar gael mewn carchardai ac yn y gymuned ar gyfer pobl ar brawf. Maent yn cynnwys rhaglenni i fynd i’r afael â’r canlynol:

  • troseddau penodol – er enghraifft, troseddau rhywiol a thrais yn y cartref
  • patrymau ymddygiad troseddol cyffredinol
  • troseddu sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau

Egwyddorion risg, angen ac ymatebolrwydd

Rydym yn defnyddio’r rhain i’n helpu i dargedu’r rhaglenni iawn ar gyfer y bobl iawn fel bod:

  • lefel y gefnogaeth a ddarperir gan raglen yn cyfateb i risg unigolyn o aildroseddu
  • cynnwys y rhaglen yn ymdrin â’r meysydd y mae angen i berson fynd i’r afael â nhw er mwyn atal troseddu pellach. Er enghraifft, bod yn fyrbwyll neu fod â sgiliau perthynas gwael
  • y dulliau gweithredu yn cael eu haddasu er mwyn ymateb i amgylchiadau, galluoedd a chryfderau unigol pobl. Er enghraifft, ceir rhaglenni penodol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu

Mae tystiolaeth yn dangos bod rhaglenni sy’n dilyn yr egwyddorion hyn yn fwy tebygol o weithio. Mae’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn cynnig rhaglenni achrededig fel rhan o becyn o gymorth a gweithgareddau adsefydlu. Maent yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn cael eu targedu’n briodol a’u darparu mewn diwylliant carchar neu brawf sy’n cefnogi adsefydlu.

Effeithiolrwydd rhaglenni ac achredu

Mae tystiolaeth yn dangos bod nodweddion cyffredin i raglenni ymddygiad troseddol effeithiol. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos beth sy’n aneffeithiol a beth y dylem osgoi ei wneud. Rhaglenni sydd:

  • wedi’u dylunio’n wael neu’n cael eu rhedeg yn wael
  • wedi’u targedu at y bobl anghywir, a/neu
  • yn cael eu cyflwyno gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n wael

Gall hyn weithiau arwain at fwy o droseddu.

Rhaglenni Achrededig

Mae achrediad yn rhoi hyder bod rhaglen:

  • wedi’i dylunio ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael
  • yn cael ei monitro i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei chyflwyno yn unol â’r bwriad
  • yn cael ei gwerthuso i ddangos y canlyniadau

Achrediad

Mae’r Panel Cynghori ac Achredu Gwasanaethau Cywirol (CSAAP) yn helpu’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf i achredu rhaglenni drwy adolygu dyluniad rhaglenni, gweithdrefnau a chanfyddiadau sicrhau ansawdd, a gwerthusiadau rhaglenni. Maent yn gwneud argymhellion ynghylch a ddylid achredu i Fwrdd Strategaeth Cyflawni Ymyriadau a Rhaglenni Achrededig y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf. Mae’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn atebol am benderfyniadau i achredu rhaglenni.

Mae aelodau CSAAP yn academyddion ac ymarferwyr ‘yr hyn sy’n gweithio’ annibynnol, rhyngwladol. Maent yn cynnwys troseddegwyr, seiciatryddion, seicolegwyr a chymdeithasegwyr. Maent yn adolygu rhaglenni yn erbyn set o feini prawf, yn seiliedig ar egwyddorion ymyriadau effeithiol.

Egwyddorion Ymyriadau Effeithiol

Mae’r egwyddorion hyn yn datgan bod rhaglenni ac ymyriadau o ansawdd uchel:

  • yn seiliedig ar dystiolaeth a/neu â rhesymeg gredadwy er lleihau aildroseddu neu hybu ymatal
  • yn rhoi sylw i ffactorau sy’n berthnasol i aildroseddu ac ymatal
  • yn targedu unigolion priodol
  • yn datblygu sgiliau newydd (yn hytrach na dim ond codi ymwybyddiaeth)
  • yn cymell, ennyn diddordeb a chadw’r rheini sy’n cymryd rhan
  • yn cael eu darparu yn ôl y bwriad
  • yn cael eu gwerthuso

Rhaid i raglenni achrededig ddangos tystiolaeth gadarn o’r canlynol:

  • bydd y technegau a ddefnyddir yn helpu troseddwyr i newid
  • bydd adnoddau asesu yn targedu’r bobl iawn yn ddibynadwy
  • mae ymrwymiad i fonitro ansawdd y gwaith o gyflwyno rhaglenni ac i werthuso

Gellir cael gwybodaeth am raglenni achrededig a gynigir yn lleol gan:

Rhestr o raglenni achrededig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF

Mae’r rhestr hon yn cynnwys yr holl raglenni achrededig sydd wedi’u hachredu i’w defnyddio yn y gymuned ac yn y ddalfa, ac sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn o leiaf un carchar neu safle prawf.

Mwy am y Panel Cynghori ac Achredu Gwasanaethau Cywirol (CSAAP)

Beth yw’r Panel Cynghori ac Achredu Gwasanaethau Cywirol (CSAAP)?

Mae’r Panel Cynghori ac Achredu Gwasanaethau Cywirol yn cynnwys academyddion ac ymarferwyr arbenigol sy’n darparu cyngor a chynnyrch annibynnol, seiliedig ar dystiolaeth, i’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf. Mae dau grŵp: Y Panel Craidd ac Aelodau Cyswllt CSAAP.

Y Panel Craidd

Mae’r Panel Craidd yn cynghori’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ar raglenni achrededig. Maent yn adolygu dyluniad rhaglenni, sicrwydd ansawdd, a gwerthusiadau. Maent yn gwneud argymhellion ynghylch a ddylid achredu i Fwrdd Strategaeth Cyflawni Ymyriadau a Rhaglenni Achrededig y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf. Mae’r Panel Craidd hefyd yn darparu cyngor ar sail tystiolaeth ar amrywiaeth o bynciau yn ôl eu gwybodaeth arbenigol.

Yr Aelodau

Mae aelodau CSAAP yn academyddion ac ymarferwyr annibynnol, rhyngwladol. Maent yn cynnwys troseddegwyr, seiciatryddion, seicolegwyr a chymdeithasegwyr.

Dyma aelodau’r Panel Craidd:

  • Nicholas Blagden
  • Erica Bowen
  • Jason Davies
  • Yolanda Fernandez
  • Theresa A Gannon
  • Friedrich Lösel
  • Mike Maguire
  • James McGuire
  • Ralph Serin
  • Michael Seto
  • Faye S Taxman

Aelodau Cyswllt CSAAP

Mae’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn ymgysylltu â chronfa eang o academyddion ac ymarferwyr arbenigol i gael cyngor ar sail tystiolaeth ar amrywiaeth eang o bynciau sy’n berthnasol i garchardai a’r gwasanaeth prawf yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r rhestr o aelodau Cyswllt gweithredol ar gael ar gais. Os hoffech chi wybod mwy am CSAAP neu weithio gyda ni, anfonwch e-bost at CSAAP@justice.gov.uk

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 November 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 May 2022 + show all updates
  1. Update made to Offending behaviour programmes and interventions - 17 February 2022

  2. Content update.

  3. CSAAP attachment change.

  4. Attachment updated.

  5. Descriptions of CSAAP accredited programmes updated.

  6. Descriptions of CSAAP accredited programmes updated.

  7. Descriptions of CSAAP accredited programmes updated.

  8. First published.

Sign up for emails or print this page