Canllawiau

Talu i mewn i’ch cyfrif arian parod y Gwasanaeth Datganiadau Tollau

Sut i dalu i mewn i’ch cyfrif arian parod, neu ychwanegu ato, os ydych yn gwneud datganiad wrth y ffin.

Pryd i dalu

Mae’n rhaid bod digon o arian yn y cyfrif arian parod cyn i’r nwyddau gyrraedd y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.

Mae’n rhaid i chi wirio bod balans eich cyfrif wedi’i ddiweddaru cyn gwneud datganiadau.

Argymhellir bod y taliadau a wnaed i mewn i’r cyfrif arian parod yn cael eu gwneud fel y ganlyn:

  • 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad cyrraedd disgwyliedig y nwyddau, os yw’r taliadau yn cael eu gwneud drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr)
  • 2 ddiwrnod gwaith cyn dyddiad cyrraedd disgwyliedig y nwyddau os yw’r taliadau yn cael eu gwneud drwy unrhyw ddull arall

Os yw’r dyddiad cau ar gyfer talu dros y penwythos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os nad oes digon o arian yn y cyfrif arian parod cyn i’r nwyddau gyrraedd, bydd hyn yn achosi oedi i’r gwasanaeth datganiad.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch. Bydd y cyfeirnod hwn bob amser yn cynnwys CDSC ac yna rhif eich cyfrif arian parod 11 digid (er enghraifft, CDSC56895642158).

Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn yn eich cyfrifon ariannol ar gyfer y tollau.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu yn gywir
  • bydd oedi wrth glirio’ch nwyddau

Talu ar-lein

Gallwch dalu ar-lein drwy gymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein.

Talu nawr

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Gall y taliad gymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc arian parod ond, o dan rai amgylchiadau, gall gymryd yn hirach.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs, dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10
  • rhif y cyfrif — 14077970
  • enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB16 BARC 2005 1723 3725 45
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Cael help a chymorth

Cysylltwch â CThEF os oes angen help arnoch i dalu i mewn i’ch cyfrif arian parod y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.

E-bostio CThEF

E-bost: customsaccountingrepayments@hmrc.gov.uk.

Bydd angen cynnwys ‘Paying into my Customs Declaration Service cash account / Talu i mewn i’ch cyfrif arian parod y Gwasanaeth Datganiadau Tollau’ yn y llinell pwnc. Dylech hefyd rhoi’ch cyfeirnod talu Gwasanaeth Datganiadau Tollau yn eich e-bost.

Ffonio CThEF

Ffôn: 0300 200 3705.

Oriau agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm

Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. Payment timelines have been updated.

  3. Payment details for paying by bank transfer have been updated.

  4. Information on how to get help to pay into your Customs Declaration Service cash account has been added.

  5. The account details for paying into your Customs Declaration Service cash account have been updated.

  6. A link to pay online and information about how to approve a payment through your online bank account have been added.

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon