Ychwanegu at eich cyfrif gohirio tollau’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau
Sut i wneud taliad cynnar er mwyn cynyddu’r balans sydd ar gael, os ydych yn agos at fynd y tu hwnt i’ch terfyn misol am ohirio tollau.
Os byddwch yn cyrraedd eich terfyn gohirio misol, ni allwch fewnforio ychwaneg o nwyddau gan ddefnyddio meddalwedd y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Os ydych yn agos at eich terfyn, neu os byddwch yn mynd y tu hwnt iddo, gallwch wneud taliad y byddwn yn ei ddyrannu yn erbyn tollau mewnforio neu TAW dyledus ar eich cyfrif. Bydd y taliad hwn yn cynyddu’r balans sydd ar gael, ac yn caniatáu i chi barhau i fewnforio nwyddau.
Os ydych yn mynd y tu hwnt i’ch terfyn misol yn rheolaidd, dylech ofyn i’ch gwarantwr anfon diwygiad i’r warant gyfredol neu gynyddu eich terfynau ildio.
Pan fyddwch yn gwneud taliad, bydd eich taliad debyd uniongyrchol misol, neu eich taliad CHAPS misol, yn cael ei leihau. Byddwn yn dangos hyn yn eich datganiadau gohirio tollau yn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
Ar hyn o bryd, mae oedi yn yr amser a gymerir i’r taliad atodol o ran gohirio tollau gyrraedd eich cyfrif gohirio tollau. Os ydych yn defnyddio gohirio tollau fel eich dull o dalu ar eich datganiad, ni all eich terfyn gynyddu o fewn yr amserlen 2 awr a gall gymryd mwy o amser.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi gael cyfeirnod eich cyfrif gohirio tollau er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Bydd y cyfeirnod hwn bob amser yn cynnwys 4 cymeriad a 7 rhif (er enghraifft, CDSD0000000).
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod talu anghywir, neu yn talu mewn i gyfrif banc anghywir, bydd y canlynol yn digwydd:
- bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
- bydd oedi wrth glirio’ch nwyddau
Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy gymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein.
Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.
Mae’n rhaid i chi wirio bod balans eich cyfrif wedi’i ddiweddaru cyn gwneud datganiadau.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, dylai’ch taliad gael ei ddyrannu i’ch balans gohirio tollau erbyn y diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylai’ch taliad gael ei ddyrannu i’ch balans gohirio tollau o fewn 3 diwrnod gwaith.
Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf cyn i chi dalu.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 10
- rhif y cyfrif — 14077970
- enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) — GB16 BARC 2005 1723 3725 45
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
- enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Updates to this page
-
Added translation
-
Payment details for paying by bank transfer have been updated.
-
References to Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) have been removed as this service is no longer available. The address to provide your bank if requested has been added.
-
If you regularly exceed your monthly limit, you should ask your guarantor to send an amendment to the existing guarantee or increase your waiver limits. When approving a payment through your online bank account, you must check your account balances have been updated before making declarations.
-
Information about a delay in top-ups reaching duty deferment accounts has been added to 'How long it takes'.
-
The account details for topping up your duty deferment account using the Customs Declaration Service have been updated.
-
A link to pay online and information about how to approve a payment through your online bank account have been added.
-
First published.