Rheolau ynghylch anifeiliaid (47 i 58)
Rheolau ynghylch anifeiliaid, gan gynnwys cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau, marchogion ac anifeiliaid eraill.
Rheol 47
Dylai cerbydau a dynnir gan geffylau a ddefnyddir ar y briffordd gael eu gweithredu a’u cynnal yn unol â’r safonau a nodir yn yr Adran Drafnidiaeth Cod Ymarfer ar gyfer cerbydau a dynnir gan geffylau. Mae’r Cod hwn yn nodi’r gofynion ar gyfer asesiad gyrru ar y ffordd ac mae’n cynnwys rhestr gynhwysfawr o wiriadau diogelwch er mwyn sicrhau bod cerbyd a’i ffitiadau yn ddiogel ac yn gweithio’n iawn. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i Awdurdod Lleol fodloni’r safonau a nodir yn yr Asesiad Gyrru ar y Ffordd os bydd gweithredwr yn dymuno cael trwydded awdurdod lleol i weithredu gwasanaeth cludo teithwyr.
Rheol 48
Offer a dillad diogelwch. Dylai pob cerbyd a dynnir gan geffyl gael dau adlewyrchydd cefn coch. Mae’n fwy diogel i beidio â gyrru yn ystod y nos ond os gwnewch chi hynny, mae’n RHAID cael golau sy’n dangos gwyn i’r blaen a choch i’r cefn wedi’u gosod.
Y ddeddf RVLR reg 4
Rheol 49
Offer diogelwch. Mae’n RHAID i blant o dan 14 oed wisgo helmed sy’n cydymffurfio â’r Rheoliadau. Mae’n RHAID i’r offer gael eu clymu’n ddiogel. Dylai marchogion eraill hefyd ddilyn y gofynion hyn. Nid yw’r gofynion hyn yn berthnasol i blentyn sy’n dilyn crefydd Siciaeth tra’n gwisgo tyrban.
Deddfau H(PHYR)A sect 1 a H(PHYR)R reg 3
Rheol 50
Dillad eraill. Dylech wisgo
-
esgidiau â gwadnau a sodlau caled
-
dillad lliw golau neu fflwroleuol mewn golau dydd
-
dillad adlewyrchol os oes rhaid i chi farchogaeth yn y nos neu mewn gwelededd gwael.
Rheol 51
Yn y nos. Mae’n fwy diogel peidio â marchogaeth ar y ffordd yn y nos neu mewn gwelededd gwael, ond os gwnewch chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad adlewyrchol a bod gan eich ceffyl fandiau adlewyrchol uwchben y cymalau egwyd. Dylai golau sy’n dangos gwyn i’r tu blaen a choch i’r cefn gael ei ffitio, â band, i fraich a/neu goes/esgyd dde y marchog. Os byddwch yn arwain ceffyl yn y nos, yn cario golau yn eich llaw dde, yn dangos gwyn i’r tu blaen a choch i’r cefn, a’ch bod chi a’ch ceffyl yn gwisgo dillad adlewyrchol. Argymhellir yn gryf bod eich ceffyl yn gwisgo gard cynffon fflwroleuol/adlewyrchol hefyd.
Marchogaeth
Rheol 52
Cyn i chi fynd â cheffyl neu gerbyd wedi’i dynnu gan geffyl ar y ffordd, dylech chi:
-
sicrhau bod yr holl harneisiau yn ffitio’n dda ac mewn cyflwr da
-
gwneud yn siŵr eich bod yn gallu rheoli’r ceffyl.
Os ydych chi’n farchog dibrofiad neu heb farchogaeth ers amser, ystyriwch gymryd y Wobr Reidio Diogel gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae’r Wobr Reidio Diogel yn darparu sylfaen i unrhyw farchog i fod yn ddiogel ac yn wybodus wrth farchogaeth ym mhob amgylchedd ond yn enwedig ar y ffordd. Am ragor o wybodaeth, gweler www.bhs.org.uk
Dylech bob amser farchogaeth gyda cheffylau eraill, llai nerfus os credwch fod ofn traffig ar eich ceffyl chi. Peidiwch â marchogaeth ceffyl heb gyfrwy na ffrwyn.
Rheol 53
Cyn marchogaeth neu droi, edrychwch y tu ôl i chi i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel, yna rhowch arwydd clir â’ch braich.
Wrth farchogaeth ar y ffordd, dylech
-
gadw i’r chwith
-
cadw’r ddwy law ar yr awenau oni bai eich bod yn rhoi arwydd
-
cadw’r ddwy droed yn y gwartholion
-
peidio â chario person arall
-
peidio â chario unrhyw beth a allai effeithio ar eich cydbwysedd neu a allai fynd ynghlwm yn yr awenau
-
cadw’r ceffyl yr ydych yn ei arwain i’ch chwith
-
symud i gyfeiriad llif y traffig ar stryd unffordd
-
peidio â marchogaeth mwy na fesul dau, a theithiwch un ar ôl y llall ar ffyrdd cul neu brysur ac wrth farchogaeth ar droeon crwn.
Rheol 54
Mae’n rhaid i chi BEIDIO â mynd â cheffyl ar lwybr troed neu balmant, ac ni ddylech fynd â cheffyl ar lwybr beiciau. Defnyddiwch lwybr ceffylau lle bo’n bosibl. Gellir darparu croesfannau marchogol i farchogion ceffylau groesi’r ffordd a dylech ddefnyddio’r rhain lle maent ar gael (gweler Rheol 27). Dylech ddisgyn oddi ar gefn ceffyl ar groesfannau gwastad lle dangosir arwydd ‘marchogion ceffylau - disgynnwch!’.
Deddfau HA 1835 sect 72 a R(S)A sect 129(5)
Rheol 55
Osgowch gylchfannau lle bynnag y bo modd. Os byddwch yn eu defnyddio, dylech
-
gadw i’r chwith a gwylio am gerbydau sy’n croesi’ch llwybr i adael neu ymuno â’r gylchfan
-
rhoi arwydd i’r dde wrth farchogaeth ar draws allanfeydd i ddangos nad ydych yn gadael
-
rhoi arwydd i’r chwith cyn i chi adael y gylchfan.
Rheol 56
Cŵn. Peidiwch â gadael ci allan ar y ffordd ar ei ben ei hun. Gwnewch yn siŵr ei fod ar dennyn byr wrth gerdded ar y palmant, y ffordd neu’r llwybr a rennir â beicwyr neu farchogion ceffylau.
Rheol 57
Pan fyddwch mewn cerbyd, gwnewch yn siŵr bod cŵn neu anifeiliaid eraill dan reolaeth fel na allant dynnu’ch sylw wrth i chi yrru na’ch anafu chi, neu eu hunain, os byddwch yn stopio’n gyflym. Mae harnais gwregysau diogelwch, cludwr anifeiliaid anwes, cawell gŵn neu giard cŵn yn ffyrdd o gadw anifeiliaid mewn ceir o dan reolaeth.
Rheol 58
Anifeiliaid sy’n cael eu bugeilio. Dylid cadw’r rhain dan reolaeth bob amser. Os yn bosibl, dylech anfon person arall ar hyd y ffordd o flaen llaw i rybuddio defnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig ar droad neu wrth ael bryn. Mae’n fwy diogel peidio â symud anifeiliaid ar ôl iddi dywyllu, ond os gwnewch hynny, gwisgwch ddillad adlewyrchol a sicrhewch eich bod yn cario goleuadau (gwyn o flaen yr anifieiliaid a choch y tu cefn iddynt).