Rheolau ar gyfer cerddwyr (1 i 35)
Rheolau ar gyfer cerddwyr, gan gynnwys canllawiau cyffredinol, croesi'r ffordd, croesfannau, a sefyllfaoedd lle mae angen bod yn fwy gofalus.
Rheol 1
Palmentydd a llwybrau cerdded (gan gynnwys unrhyw lwybr ar hyd ymyl ffordd) os cânt eu darparu. Lle bo’n bosibl, dylech osgoi bod wrth ymyl y cwrb â’ch cefn i’r traffig. Os oes rhaid i chi gamu i’r ffordd, edrychwch i’r ddwy ffordd yn gyntaf. Arhoswch yn ymwybodol o’ch amgylchedd bob amser ac osgowch wrthdyniadau diangen. Dangoswch ofal ac ystyriaeth ddyledus at eraill bob amser.
Rheol 2
Os nad oes palmant, cadwch i’r ochr dde o’r ffordd fel y gallwch weld traffig sy’n dod tuag atoch. Dylech fod yn fwy gofalus a
-
bod yn barod i gerdded un ar ôl y llall, yn enwedig ar ffyrdd cul neu mewn golau gwael
-
cadwch yn agos at ochr y ffordd.
Efallai y bydd yn fwy diogel croesi’r ffordd ymhell cyn troad siarp i’r dde fel bod gan draffig sy’n dod tuag atoch well siawns o’ch gweld. Croeswch yn ôl ar ôl y troad.
Rheol 3
Helpwch ddefnyddwyr eraill y ffordd i’ch gweld. Gwisgwch neu gariwch rywbeth o liw golau, llachar neu fflwroleuol mewn amodau golau dydd gwael. Pan fydd hi’n dywyll, defnyddiwch ffabrigau adlewyrchol (e.e. rhwymynnau breichiau, sashis, gwasgodau, siacedi, esgidiau), y gellir eu gweld gan yrwyr sy’n defnyddio priflampau hyd at deirgwaith mor bell i ffwrdd â ffabrigau nad ydynt yn adlewyrchol.
Rheol 4
Ni ddylai plant ifanc fod allan ar eu pen eu hunain ar y palmant na’r ffordd (gweler Rheol 7). Wrth fynd â phlant allan, cadwch rhyngddyn nhw a’r traffig a daliwch eu dwylo’n gadarn. Strapiwch blant ifanc iawn mewn i bramiau neu ddefnyddiwch awenau. Wrth wthio plentyn ifanc mewn pram, peidiwch â gwthio’r pram i’r ffordd wrth edrych i weld a yw’n glir i’w chroesi, yn enwedig rhwng cerbydau sydd wedi’u parcio.
Rheol 5
Dylai teithiau cerdded neu barediau wedi’u trefnu sy’n cynnwys grwpiau mawr o bobl yn cerdded ar hyd ffordd ddefnyddio palmant os ar gael; os nad oes un ar gael, dylent gadw i’r chwith. Dylid lleoli pobl i edrych allan ar flaen a chefn y grŵp, a dylent wisgo dillad fflworoleuol mewn golau dydd a dillad adlewyrchol yn y tywyllwch. Yn y nos, dylai’r person sy’n edrych allan yn y blaen ddangos golau gwyn a dylai’r un yn y cefn ddangos golau coch. Dylai pobl ar y tu allan i grwpiau mawr hefyd gario goleuadau a gwisgo dillad adlewyrchol.
Rheol 6
Traffyrdd Mae’n rhaid i gerddwyr BEIDIO â bod ar draffyrdd neu slipffyrdd ac eithrio mewn argyfwng (gweler Rheol 271 a Rheol 275).
Cyfreithiau RTRA sect 17, MT(E&W)R reg 15(1)(b) a MT(S)R reg 13
Rheol 7
Rheolau’r Groes Werdd. Mae’r cyngor a roddir isod am groesi’r ffordd ar gyfer pob cerddwr. Dylid addysgu’r Rheolau i blant ac ni ddylid caniatáu i blant fod ar eu pen eu hunain nes eu bod yn gallu eu deall a’u defnyddio’n iawn. Mae’r oedran lle gallant wneud hyn yn annibynnol yn wahanol i bob plentyn. Ni all llawer o blant asesu pa mor gyflym y mae cerbydau’n mynd na pha mor bell i ffwrdd y maent. Mae plant yn dysgu drwy esiampl, felly dylai rhieni a gofalwyr ddefnyddio’r Rheolau yn llawn bob amser pan fyddant allan gyda’u plant. Nhw sy’n gyfrifol am benderfynu ar ba oedran y gall plant ddefnyddio’r Rheolau yn ddiogel yn annibynnol.
A Yn gyntaf, dewch o hyd i le diogel i groesi’r ffordd a lle mae man cyrraedd y palmant ar yr ochr arall. Lle mae croesfan gerllaw, defnyddiwch hi. Mae’n fwy diogel i groesi ffordd gan ddefnyddio tanlwybr, pont droed, ynys, croesfan sebra, pelican, twcan neu bâl, neu lle mae croesfan wedi’i rheoli gan swyddog heddlu, hebryngwr croesfan ysgol neu warden traffig. Fel arall, dewiswch fan lle gallwch weld yn glir ym mhob cyfeiriad. Ceisiwch osgoi croesi’r ffordd rhwng ceir wedi’u parcio (gweler Rheol 14, ar droad dall, neu yn agos i ael bryn. Symudwch i rywle lle gall gyrwyr a marchogion eich gweld yn glir. Peidiwch â chroesi’r ffordd yn groeslinol.
B Stopiwch cyn i chi gyrraedd y cwrbyn, lle gallwch weld os oes unrhyw beth yn dod. Peidiwch â mynd yn rhy agos at y traffig. Os nad oes palmant, cadwch yn ôl wrth ymyl y ffordd ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i allu gweld traffig sy’n agosáu.
C Edrychwch o gwmpas am draffig a gwrandewch. Gallai traffig ddod o unrhyw gyfeiriad. Gwrandewch hefyd, oherwydd weithiau gallwch glywed traffig cyn i chi ei weld.
D Os bydd traffig yn dod, gadewch iddo basio. Edrychwch i bob gyfeiriad eto a gwrandewch. Peidiwch â chroesi nes bod lle diogel yn y traffig a’ch bod yn sicr bod digon o amser. Cofiwch, hyd yn oed os bydd y traffig yn bell i ffwrdd, efallai y bydd yn agosáu’n gyflym iawn.
E Pan fydd yn ddiogel, ewch yn syth ar draws y ffordd – peidiwch â rhedeg. Parhewch i edrych a gwrandewch am draffig wrth i chi groesi’r ffordd, rhag ofn bod unrhyw draffig na wnaethoch ei weld, neu rhag ofn bod traffig arall yn ymddangos yn sydyn. Gwyliwch am feicwyr a beicwyr modur sy’n teithio rhwng lonydd traffig. Peidiwch â cherdded yn lletraws ar draws y ffordd.
Rheol 8
Wrth gyffordd. Pan fyddwch yn croesi neu’n aros i groesi’r ffordd, dylai traffig arall ildio. Gwyliwch yn ofalus am draffig sy’n troi i mewn i’r ffordd, yn enwedig o’r tu ôl i chi, a chroeswch mewn man lle gall gyrwyr eich gweld. Os ydych wedi dechrau croesi ac mae traffig am droi i mewn i’r ffordd, mae gennych flaenoriaeth a dylent ildio (gweler Rheolau H2 a 170).
Rheol 9
Rhwystrau Diogelwch i Gerddwyr. Pan fydd rhwystrau, croeswch y ffordd yn y mannau a ddarperir ar gyfer cerddwyr yn unig. Peidiwch â dringo dros y rhwystrau na cherdded rhyngddynt a’r ffordd.
Rheol 10
Palmentydd cyffyrddol. Mae arwynebau wedi’u codi y gellir eu teimlo dan draed yn rhoi rhybudd ac arweiniad i bobl ddall neu rannol ddall. Yr arwynebau mwyaf cyffredin yw cyfres o stydiau wedi’u codi, a ddefnyddir ar fannau croesi gyda chwrb isel, neu gyfres o fariau wedi’u codi’n grwn sy’n cael eu defnyddio ar groesfannau gwastad, ar ben a gwaelod grisiau ac wrth rai peryglon eraill.
Rheol 11
Strydoedd unffordd. Gwiriwch i ba gyfeiriad mae’r traffig yn symud. Peidiwch â chroesi nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny heb stopio. Gall lonydd bysiau a beiciau weithredu i’r cyfeiriad arall i weddill y traffig.
Rheol 12
Lonydd bysiau a beiciau. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r lonydd hyn gan y gall traffig fod yn symud yn gyflymach nac yn y lonydd eraill, neu yn erbyn llif y traffig.
Rheol 13
Llwybrau wedi’u rhannu â seiclwyr. Gall traciau seiclo redeg ochr yn ochr â llwybrau troed neu balmentydd a chael eu gwahanu oddi wrthynt gan nodwedd fel newid deunydd, ymyl, ymylfaen neu linell wen. Gall y fath lwybrau hefyd ymgorffori hydoedd byr o balmant cyffyrddol i helpu pobl â nam ar eu golwg ar yr ochr gywir. Gall y fath lwybrau hefyd ymgorffori hydoedd byr o balmant cyffyrddol i helpu pobl â nam ar eu golwg ar yr ochr gywir. Ar ochr y seiclwr mae’r un bariau wedi’u cyfeirio yng nghyfeiriad teithio (patrwm llinell tram).
Ni fydd rhai llwybrau sy’n cael eu rhannu â seiclwyr yn cael eu gwahanu gan y fath nodwedd sy’n caniatáu i seiclwyr a cherddwyr rannu’r un gofod. Dylai seiclwyr barchu’ch diogelwch bob amser (gweler Rheol 62 ond dylech gymryd gofal ychwanegol i beidio a’u rhwystro na’u peryglu. Arhoswch yn ymwybodol o’ch amgylchedd bob amser ac osgowch wrthdyniadau diangen.
Lle mae arwyddion yn dangos, mae rhai llwybrau yn cael eu rhannu rhwng cerddwyr, seiclwyr, marchogion a cherbydau wedi’u tynnu gan geffylau. Dylai seiclwyr, marchogion a cherbydau wedi’u tynnu gan geffylau barchu eich diogelwch, ond dylech gymryd gofal i beidio â’u rhwystro na’u peryglu. Arhoswch yn ymwybodol o’ch amgylchedd bob amser ac osgowch wrthdyniadau diangen.
Rheol 14
Cerbydau wedi’u parcio. Os oes rhaid i chi groesi rhwng cerbydau sydd wedi eu parcio, defnyddiwch ochrau allanol y cerbydau fel petaent yn balmant. Stopiwch yno a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gweld o’ch cwmpas yn llwyr a bod y traffig yn gallu eich gweld. Gwnewch yn siŵr bod lle rhwng unrhyw gerbydau sydd wedi’u parcio ar yr ochr arall, fel y gallwch gyrraedd y palmant. Peidiwch byth â chroesi’r ffordd o flaen, na’r tu ôl i, unrhyw gerbyd gyda’i injan yn rhedeg, yn enwedig cerbyd mawr, gan ei bod yn bosibl na fydd y gyrrwr yn gallu eich gweld.
Rheol 15
Cerbydau yn bacio. Peidiwch â chroesi y tu ôl i gerbyd sy’n bacio, yn dangos goleuadau bacio gwyn neu’n seinio rhybudd.
Rheol 16
Cerbydau sy’n symud. Mae’n rhaid i chi BEIDIO â mynd ar gerbyd sy’n symud neu afael ynddo.
Y ddeddf RTA 1988 sect 26
Rheol 17
Yn y nos. Gwisgwch rywbeth adlewyrchol i’w gwneud yn haws i eraill eich gweld (gweler Rheol 3). Os nad oes croesfan i gerddwyr gerllaw, croeswch y ffordd yn ymyl golau stryd fel y gall traffig eich gweld yn haws.
Rheol 18
Ar bob croesfan. Wrth ddefnyddio unrhyw fath o groesfan, dylech
-
wirio bob amser bod y traffig wedi stopio cyn i chi ddechrau croesi neu wthio pram ar groesfan
-
croesi rhwng y stydiau neu dros y marciau sebra bob tro. Peidiwch â chroesi ar ochr y groesfan nac ar y llinellau igam-ogam, gan y gall fod yn beryglus.
Mae’n rhaid i chi BEIDIO â loetran ar unrhyw fath o groesfan.
Deddfau TSRGD schedule 14 part 5 a RTRA sect 25(5)
Rheol 19
Croesfannau sebra. Rhowch ddigon o amser i’r traffig eich gweld ac i stopio cyn i chi ddechrau croesi’r ffordd. Bydd angen mwy o amser ar gerbydau pan fydd y ffordd yn llithrig. Arhoswch nes bod y traffig wedi stopio o’r ddau gyfeiriad, neu nes bod y ffordd yn glir, cyn croesi’r ffordd. Cofiwch nad oes yn rhaid i draffig stopio nes bod rhywun wedi symud i’r groesfan. Dylai gyrwyr a reidwyr ildio i gerddwyr sy’n aros i groesi ac mae’n RHAID iddynt ildio ar groesfan sebra (gweler Rheol H2). Edrychwch yn ofalus i’r ddwy ffordd, a gwrandewch, rhag ofn nad yw gyrrwr neu feiciwr wedi’ch gweld ac yn ceisio goddiweddyd cerbyd sydd wedi stopio.
Mae croesfan sebra ag ynys ganolog yn ddwy groesfan ar wahân (gweler Rheol20).
Deddf TSRGD Schedule 14 part 5
Rheol 20
Lle mae ynys yng nghanol croesfan sebra, arhoswch ar yr ynys a dilynwch Rheol 19 cyn i chi groesi ail hanner y ffordd - mae’n groesfan ar wahân.
Rheol 21
Wrth oleuadau traffig. Efallai y bydd arwyddion arbennig i gerddwyr. Dim ond pan fydd y ffigur gwyrdd yn dangos y dylech chi ddechrau croesi’r ffordd. Os ydych wedi dechrau croesi’r ffordd ac nid yw’r ffigur gwyrdd yn dangos bellach, dylai fod gennych ddigon o amser o hyd i gyrraedd yr ochr arall, ond peidiwch ag oedi. Os nad oes signalau cerddwyr wedi’u darparu, gwyliwch yn ofalus a pheidiwch â chroesi’r ffordd nes bod y goleuadau traffig yn goch a’r traffig wedi stopio. Gwyliwch ac edrychwch am draffig a all fod yn troi’r gornel. Cofiwch y gall goleuadau traffig adael i draffig symud mewn rhai lonydd tra bod traffig mewn lonydd eraill wedi stopio.
Rheol 22
Croesfannau pelican. Mae’r rhain yn groesfannau a reolir gan signalau a weithredir gan gerddwyr. Gwthiwch y botwm rheoli i weithredu’r signalau traffig. Pan fydd y ffigur coch yn dangos, peidiwch â chroesi’r ffordd. Pan fydd ffigur gwyrdd cyson yn dangos, gwnewch yn siwr fod y traffig wedi stopio a chroeswch y ffordd yn ofalus. Pan fydd y ffigur gwyrdd yn dechrau fflachio, ni ddylech ddechrau croesi’r ffordd. Os ydych eisoes wedi dechrau croesi’r ffordd, dylech gael amser i orffen croesi’n ddiogel.
Rheol 23
Mae Croesfannau Pâl yn wahanol i groesfannau pelican gan fod y ffigurau coch a gwyrdd uwchben y blwch rheoli ar eich ochr chi o’r ffordd ac nid oes cam lle mae’r ffigwr gwyrdd yn fflachio. Gwasgwch y botwm ac aros i’r ffigwr gwyrdd ddangos.
Rheol 24
Pan fydd tagfeydd ar y ffordd, gall traffig ar eich ochr chi o’r ffordd gael ei orfodi i stopio er bod eu goleuadau’n wyrdd. Efallai y bydd traffig yn dal i symud ar ochr arall y ffordd, felly pwyswch y botwm ac arhoswch am y signal cyn croesi’r ffordd.
Rheol 25
Croesfannau Twcan yw croesfannau sy’n cael eu rheoli gan oleuadau sy’n caniatáu i feicwyr a cherddwyr rannu gofod croesi a chroesi’r ffordd ar yr un pryd. Maent yn cael eu gweithredu gan fotwm gwthio. Bydd cerddwyr a beicwyr yn gweld y signal gwyrdd ar yr un amser. Mae beicwyr yn cael seiclo dros groesfannau twcan.
Rheol 26
Ar rai croesfannau ceir arwydd sain neu neges llais i roi gwybod i bobl ddall neu rannol ddall pan fydd y ffigur gwyrdd cyson yn ymddangos, ac efallai bydd arwydd cyffyrddadwy i helpu pobl sy’n ddall a byddar.
Rheol 27
Mae Croesfannau marchogol ar gyfer marchogion. Mae ganddynt fariau palmantau, mannau croesi ehangach, ffigurau ceffylau a marchogion yn y paneli golau a naill ai dwy set o reolaethau (un yn uwch), neu un panel rheoli uwch yn unig.
Rheol 28
Croesfannau pelican neu bâl croesgam. Pan nad yw’r croesfannau ar bob ochr i’r ynys groesi ganolog mewn llinell, maent yn ddwy groesfan ar wahân. Wrth gyrraedd yr ynys ganolog, pwyswch y botwm eto ac aros am ffigur gwyrdd cyson.
Rheol 29
Croesfannau wedi’u rheoli gan berson awdurdodedig. Peidiwch â chroesi’r ffordd oni bai eich bod yn cael arwydd gan swyddog heddlu, warden traffig neu hebryngwr croesfannau ysgol i wneud hynny. Croeswch o’u blaen bob amser.
Rheol 30
Lle nad oes mannau croesi a reolir ar gael, fe’ch cynghorir i groesi lle mae ynys yng nghanol y ffordd. Defnyddiwch Rheolau’r Groes Werdd (gweler Rheol 7)i groesi i’r ynys ac yna stopio a’u defnyddio eto i groesi ail hanner y ffordd.
Rheol 31
Cerbydau argyfwng. Os bydd ambiwlans, injan dân, yr heddlu neu gerbyd argyfwng arall yn agosáu gan ddefnyddio goleuadau glas, prif oleuadau a/neu seirenau sy’n fflachio, cadwch oddi ar y ffordd.
Rheol 32
Bysiau. Ewch ar neu oddi ar fws pan fydd wedi stopio i ganiatáu i chi wneud hynny yn unig. Gwyliwch am feicwyr pan fyddwch chi’n mynd oddi ar y bws. Peidiwch byth â chroesi’r ffordd yn union y tu ôl neu o flaen bws. Arhoswch nes bod y bws wedi symud i ffwrdd a gallwch weld yn glir yn y ddau gyfeiriad.
Rheol 33
Tramffyrdd. Gall y rhain redeg drwy ardaloedd cerddwyr. Bydd eu llwybr yn cael ei farcio gan gyrbau isel, newidiadau yn arwyneb y palmant neu arwyneb ffordd arall, llinellau gwyn neu ddotiau melyn. Croeswch ar groesfannau dynodedig lle cânt eu darparu. Mewn mannau eraill, ystyriwch dramiau fel y byddech yn ystyried cerbydau ffordd eraill gan edrych y ddwy ffordd ar hyd y trac cyn croesi. Peidiwch â cherdded ar hyd y trac oherwydd gall tramiau ddod i fyny y tu ôl i chi. Mae tramiau’n symud yn dawel ac nid oes modd iddynt lywio i’ch osgoi.
Rheol 34
Croesfannau rheilffyrdd. Mae’n rhaid i chi BEIDIO â chroesi na phasio llinell stop pan fydd y goleuadau coch yn dangos, (gan gynnwys ffigwr cerddwr coch). Peidiwch â chroesi ychwaith os bydd larwm yn seinio neu os bydd y rhwystrau yn cael eu gostwng. Efallai y bydd tôn y larwm yn newid os bydd trên arall yn agosáu. Os nad oes goleuadau, larymau na rhwystrau, stopiwch, edrychwch y ddwy ffordd a gwrandewch cyn croesi. Gellir gosod arwyneb cyffyrddadwy sy’n cynnwys rhwystrau crwn yn rhedeg ar draws cyfeiriad teithio i gerddwyr ar y llwybr troed sy’n agosáu at groesfan reilffordd i rybuddio pobl â nam ar eu golwg o’i bresenoldeb. Dylai’r arwyneb cyffyrddadwy ymestyn ar draws lled llawn y llwybr troed a dylid ei leoli ar bellter priodol o’r rhwystrau neu linell amcanol y rhwystrau.
Y ddeddf TSRGD schedule 14 part 1
Rheol 35
Atgyweirio strydoedd a phalmentydd. Gellir cau palmant dros dro oherwydd nad yw’n ddiogel i’w ddefnyddio. Byddwch yn fwy gofalus os cewch eich cyfeirio i gerdded yn y ffordd neu i’w chroesi.