Anfon tystiolaeth o’ch manylion personol i CThEF
Os yw CThEF wedi gofyn i chi am dystiolaeth o’ch manylion personol, neu eich bod wedi cael llythyr yn gwneud cais amdanynt, defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn gwneud hynny.
Defnyddiwch y ffurflen hon os yw CThEF wedi gofyn i chi am dystiolaeth o’ch manylion personol, neu eich bod wedi cael llythyr yn gwneud cais amdanynt.
Dylech dim ond defnyddio’r ffurflen hon os yw CThEF wedi gofyn i chi anfon tystiolaeth.
Dysgwch sut i roi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi uwchlwytho delwedd neu PDF o’ch tystiolaeth, a’i hanfon.
Mae’n rhaid bod y dystiolaeth hon yn dangos eich dyddiad geni.
Mae’n rhaid i’r dystiolaeth y byddwch yn ei huwchlwytho ac yn ei hanfon fod yn ddelwedd o’r ddogfen wreiddiol, neu’n gopi ardystiedig o’r ddogfen wreiddiol. Diffinnir ‘copi ardystiedig’ fel copi gwir o ddogfen wreiddiol sydd wedi’i stampio â dyddiad a’i lofnodi gan un o’r canlynol:
- cyflogai i adran o’r Llywodraeth
- sefydliad cyfreithiol, er enghraifft, cyfreithwyr neu gyfrifwyr
- corff meddygol, er enghraifft, meddygfa
O’r tu allan i’r DU, gallwch gael copi ardystiedig gan y canlynol:
- swyddfa’r maer
- conswl Prydain
Tystiolaeth y gallwch ei hanfon
Mae’n bosibl y bydd angen i chi uwchlwytho ac anfon un neu ddwy ddelwedd o dystiolaeth, yn dibynnu ar y fath o ddogfennau sydd gennych.
Pan fyddwch yn anfon un ddogfen
Dylech uwchlwytho ac anfon delwedd o unrhyw un o’r dogfennau canlynol a gyhoeddwyd yn y DU, yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir. Eich:
- tystysgrif geni
- trwydded yrru lawn neu drwydded yrru dros dro
- cerdyn adnabod
- pasbort
Pan fyddwch yn anfon dwy ddogfen
Dylech uwchlwytho ac anfon delwedd o ddau o’r dogfennau canlynol. Eich:
- pasbort, wedi’i gyhoeddi gan wlad heblaw am y DU, yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir
- tystysgrif geni, wedi’i chyhoeddi gan wlad heblaw am y DU, yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir
- tystysgrif dinasyddio
- dogfen deithio’r Swyddfa Gartref
- tystysgrif gwasanaethu yn Lluoedd Ei Fawrhydi
- tystysgrif gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol
- tystysgrif priodas
- tystysgrif partneriaeth sifil
- tystysgrif mabwysiadu
Os nad oes gennych y dogfennau a restrir
Os nad oes gennych unrhyw un o’r dogfennau hyn, gallwch uwchlwytho ac anfon delwedd o dystiolaeth arall sy’n dangos eich dyddiad geni. Byddwn wedyn yn ystyried a allwn ddefnyddio’r ddelwedd hon.
Anfon eich tystiolaeth
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i anfon delwedd o’ch tystiolaeth.
Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth — os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf
- defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi
Bydd modd i chi gadw’ch atebion am 28 diwrnod. Yn ystod yr amser hwn, gallwch ddychwelyd i’r ffurflen i ychwanegu rhagor o wybodaeth at eich atebion cyn ei chyflwyno.
Os na allwch anfon eich tystiolaeth ar-lein
Dylech anfon eich tystiolaeth — neu gopi ardystiedig ohono — drwy’r post at CThEF os nad oes modd i chi ei hanfon ar-lein. Anfonwch eich tystiolaeth at:
Cyllid a Thollau EF
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
HMRC
BX9 1ST
Ar ôl i chi anfon eich tystiolaeth
Byddwn yn adolygu’ch tystiolaeth ac yna’n cysylltu â chi. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Tachwedd 2024 + show all updates
-
The list of evidence you can send has been updated and guidance on how to send information if you cannot use the online form has been added. A Welsh translation of the guidance has also been added.
-
Added translation