Y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol
Dysgwch am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol os ydych yn cynhyrchu diod wirodol sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.
Mae’n rhaid i chi wneud cais i CThEF am ddilysiad o dan y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol os ydych yn cynhyrchu neu’n marchnata diod wirodol sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.
Mae Dynodiadau Daearyddol yn nodi cynhyrchion fel rhai sy’n tarddu o diriogaeth gwlad, neu ranbarth neu ardal yn y diriogaeth honno, lle gellir priodoli ansawdd, enw da neu nodwedd arall i’w darddiad daearyddol.
Mae’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol yn diogelu enw da a dilysiad y diodydd gwirodol sydd â Dynodiad Daearyddol yn y DU. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Wisgi Albanaidd
- Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig a Wisgi Tatws Gwyddelig
- Seidr Brandi Gwlad yr Haf
- Wisgi Cymreig Brag Sengl
Cyn i chi ddechrau’r broses gynhyrchu
Ewch ati i gael gwybod a oes angen i chi wneud cais i gael dilysiad a thalu’ch ffi dilysu.
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cynllun
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu:
- defnyddio’r gwasanaeth chwilio (yn Saesneg) i wirio a yw cyfleusterau cynhyrchu, brandiau neu fewnforwyr swmp wedi’u dilysu
- darllenwch yr arweiniad technegol mewn perthynas â’r canlynol:
- cynhyrchu Wisgi Albanaidd (yn Saesneg)
- cynhyrchu Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig neu Wisgi Tatws Gwyddelig (yn Saesneg)
- cynhyrchu Brandi Seidr Gwlad yr Haf (yn Saesneg)
- cynhyrchu Wisgi Cymreig Brag Sengl
- paratoi ar gyfer ymweliad dilysu a darllen am y gwiriadau yr ydym yn eu cynnal
- cyflwyno gwybodaeth am frand i CThEF
- newid eich manylion neu gadael y cynllun (yn Saesneg)
- dysgwch am dystysgrifau oedran a tharddiad (yn Saesneg)
Gwybodaeth bellach
Bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd yn y gwasanaeth chwilio’n cael ei diweddaru’n ddyddiol.
Gallwch gysylltu â’r Uned Dilysu Diodydd Gwirodol drwy e-bostio enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych am gael yr wybodaeth ddiweddaraf
- rydych am gael cadarnhad bod eich cais wedi dod i law
- rydych yn meddwl bod manylion cyhoeddus yn anghywir neu fod manylion ar goll
- rydych yn ymwybodol o frand sy’n cael ei farchnata nad yw ar y rhestr
Rôl CThEF
Yn y DU, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am bolisi mewn perthynas â Dynodyddion Daearyddol.
Rôl CThEF yw gwirio a yw cynhyrchion yn cydymffurfio â’r manylebau yn y Ffeil Dechnegol briodol a chyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu, prosesau wedi’u dilysu, mewnforwyr swmp a brandiau wedi’u dilysu.
Nid yw rôl CThEF yn ymwneud â gorfodaeth. Yr awdurdodau gorfodi dynodedig yw’r ‘awdurdodau bwyd’ ac’ ‘awdurdodau iechyd y porthladdoedd’. Pan fo’n briodol a phan ganiateir hynny, bydd CThEF yn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i’r awdurdodau hyn fel y gallant weithredu.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 August 2023 + show all updates
-
Page updated with information on Single Malt Welsh Whisky.
-
Information about planned service outages on the Spirit Drinks Verification Scheme Lookup service added.
-
First published.