Talu ffi’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol
Sut i dalu’ch ffi dilysu ar gyfer y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol.
Os ydych yn gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, bydd angen i chi dalu ffi. Gwiriwch faint bydd eich ffi dilysu ar gyfer:
- Wisgi Albanaidd (yn agor tudalen Saesneg)
- Wisgi Gwyddelig, Hufen Gwyddelig neu Wisgi Tatws Gwyddelig (yn agor tudalen Saesneg)
- Brandi Seidr Gwlad yr Haf (yn agor tudalen Saesneg)
- Wisgi Cymreig Brag Sengl
Ni ellir ad-dalu’r ffi dilysu ac mae y tu allan i gwmpas TAW.
Pam y mae’n rhaid i chi dalu
Mae CThEF yn rheoli’r cynllun dilysu gyda’r bwriad o adennill ein costau gweinyddol yn unig bob blwyddyn ariannol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cyflogau
- gorbenion staff wrth iddynt gynnal y gwaith dilysu
- costau teithio i staff
Caiff y ffioedd sy’n cael eu codi ar gyfer prosesau’r DU eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau bod y taliadau’n cyfateb â chostau CThEF ar gyfer y cynllun dilysu. Mae’r ffioedd yn cael eu haddasu bob dwy flynedd er mwyn:
- talu am gostau disgwyliedig y cynllun
- rhoi cyfrif am unrhyw ddiffygion neu wargedau
- rhoi ecwiti yn ystod rhaglen dreigl dwy flynedd yr ymweliadau dilysu
Byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau i’r ffioedd yn yr arweiniad technegol perthnasol ac yn anfon anfonebau atoch ar gyfer y ffioedd dilysu gan ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch yn eich cais.
Bydd CThEF yn ymgynghori â’r diwydiant pe bai angen gwneud newidiadau sylweddol i’r strwythur ffioedd.
Pryd y mae’n rhaid i chi dalu
Ar ôl i chi wneud cais i ymuno â’r cynllun, neu gyflwyno Ymrwymiad (yn agor tudalen Saesneg), byddwn yn anfon anfoneb atoch sy’n cynnwys y ffi ar gyfer eich cofrestriad a’ch dilysiad.
Bydd angen i chi dalu’ch ffi:
- cyn bod modd trefnu ymweliad dilysu, os yw’n berthnasol — dim ond os ydych yn gynhyrchydd yn y DU byddwch yn cael ymweliad
- cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb hon
Os na fyddwch yn talu
Byddwch yn cael un nodyn i’ch atgoffa nad yw’ch anfoneb wedi’i thalu. Os na ddaw eich taliad i law:
- ni fyddwch yn cael ymweliad dilysu, os yw’n berthnasol
- cewch eich ystyried fel un nad yw’n cydymffurfio o’r dyddiad y byddwn yn ei roi i chi
- caiff manylion eich cyfleusterau cynhyrchu dilys eu diwygio, eu dileu neu eu hepgor o’r gwasanaeth chwilio (yn agor tudalen Saesneg)
- ni fydd unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu wedi’r dyddiad y byddwn yn ei roi i chi yn rhai dilys — caiff y manylion eu diwygio, eu dileu neu eu hepgor o’r rhestr o frandiau dilys yn y gwasanaeth chwilio
- mae’n bosibl y byddwn yn hysbysu’r awdurdod gorfodi dynodedig
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd arnoch angen y cyfeirnod 14 digid a roddwyd i chi ar ôl i chi wneud cais ar gyfer y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol.
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Faint o amser i’w ganiatáu
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu. Dylech hefyd wirio terfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Dull talu | Amser i’w ganiatáu |
---|---|
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein | Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
Bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) | Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) | Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf |
Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr) | 3 diwrnod gwaith |
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn).
Sut i dalu
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Bancio ar-lein neu dros y ffôn, CHAPS neu Bacs
Defnyddiwch y manylion canlynol i dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
Cod didoli | Rhif y cyfrif | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
20 50 46 | 73987795 | HMRC Accounts Receivable Receipts |
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.
Cod adnabod y banc (BIC) / Cod Swift | Rhif y cyfrif (IBAN) | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
BARCGB22 | GB61 BARC 2050 4673 9877 95 | HMRC Accounts Receivable Receipts |
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 August 2023 + show all updates
-
Page updated to include references to Single Malt Welsh Whisky.
-
You can now pay the Spirit Drinks Verification Scheme fee using your online or mobile bank account.
-
Overseas payment details updated.
-
First published.