Cadw’n ddiogel rhag sgamwyr
Bydd y canllaw hwn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn eich helpu i adnabod galwadau, negeseuon e-bost a negeseuon testun twyllodrus. Gallwch hefyd ddarganfod sut i adrodd am unrhyw weithgaredd amheus.
Gwiriwch beth i edrych amdano yn gyntaf
Defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol i benderfynu a yw’r cyswllt a gawsoch yn sgam. Gallwch ei ddefnyddio ar gyfer galwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun.
Gallai fod yn sgam os yw:
- yn rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad
- yn un sydd â dyddiad terfyn byr, yn enwedig un nad oeddech yn ymwybodol ohono
- yn fygythiol
- yn annisgwyl
- yn gofyn am wybodaeth bersonol fel manylion banc
- yn dweud wrthych am drosglwyddo arian
- yn dweud bod yn rhaid i chi dalu i wneud cais am, neu i gael rhyddhad
- yn dweud bod gennych gredydau heb eu hawlio
- yn cynnig gostyngiad, ad-daliad neu grant
Os bydd y VOA yn cysylltu â chi ynghylch eich eiddo, byddwn bob amser yn:
- crybwyll eiddo penodol wrth y cyfeiriad
- rhoi rhif cyfeirnod i chi
- gwirio eich hunaniaeth
Ni fydd y VOA byth yn:
- cysylltu â chi heb grybwyll cyfeiriad
- cysylltu â chi heb gadarnhau eich enw neu eich cysylltiad â’r eiddo
- gofyn i chi am arian heb esboniad clir
- dweud wrthych beth sy’n ddyledus arnoch am ardrethi busnes neu’r Dreth Gyngor – caiff y biliau hyn eu cyfrifo gan eich cyngor lleol
Defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau am eich band Treth Gyngor neu brisiad ardrethi busnes.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich biliau Treth Gyngor neu ardrethi busnes, cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Os ydych yn ansicr am unrhyw ddeunydd yr ydych wedi’i dderbyn, cysylltwch â’r VOA. Gallwch hefyd adrodd am alwadau ffôn, e-byst neu negeseuon testun amheus i’r VOA.
Defnyddio asiant
Os ydych am i asiant reoli eich ardrethi busnes, defnyddiwch ein rhestr wirio i ddewis un. Peidiwch â gadael i asiant eich dewis chi.
Cofiwch na fyddai’r VOA byth yn:
- argymell neu gymeradwyo asiant
- gofyn i asiant weithredu fel rhan o’r VOA, neu ar ein rhan
E-byst sgam
Os byddwch yn derbyn e-bost amheus, dylech roi gwybod i ni ar unwaith yn ccaservice@voa.gov.uk.
- dilëwch yr e-bost o’ch blwch post, gan gynnwys blwch yr eitemau yr ydych wedi dileu
- peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol
- peidiwch ag agor unrhyw atodiadau
- peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na cheisio gweld neu lawrlwytho unrhyw atodiadau yn yr e-bost
- peidiwch â rhoi unrhyw ddata i mewn nac ymateb i’r e-bost
Os nad ydych yn disgwyl derbyn e-bost i ailosod eich cyfrinair gall fod yn sgam. Anfonwch ef ymlaen i ccaservice@voa.gov.uk ac yna ei ddileu.
Gwiriwch bob amser fod yr URL (cyfeiriad y wefan) yr ydych ar fin ymweld ag ef yn gyfeiriad gwirioneddol Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu GOV.UK.
Os nad yw’r ddolen yn cynnwys ‘.gov.uk’ yn y cyfeiriad – nid yw’n dudalen VOA a gallai fod yn sgam.
Galwadau ffôn
Ni fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio byth yn:
- gadael neges llais yn bygwth camau cyfreithiol
- bygwth arestio
- cysylltu â chi i fynnu talu unrhyw gosbau neu filiau ar unwaith
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch ni yn ôl gan ddefnyddio rhif cyswllt swyddogol VOA.
Negeseuon testun
Mae’r VOA yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid. Yn y neges destun efallai y byddwn yn cynnwys dolen i wybodaeth GOV.UK.
Ni fydd y VOA byth yn gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol pan fyddwn yn anfon negeseuon testun.
Peidiwch ag agor unrhyw ddolenni nac ymateb i neges destun yn honni ei bod gan y VOA sy’n cynnig ad-daliad i chi yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.
Rhoi gwybod am weithgarwch amheus
Anfonwch unrhyw e-byst amheus sy’n honni eu bod gan y VOA ymlaen i ccaservice@voa.gov.uk.
Rhowch wybod am unrhyw alwadau amheus i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu defnyddiwch eu hofferyn adrodd twyll ar-lein.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 June 2024 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.