Canllawiau

Adnabod a rhoi gwybod am achosion o gamliwio gan asiantiaid

Bydd y canllaw hwn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn eich helpu i adnabod gwybodaeth anwir neu gamarweiniol gan asiantiaid ac i roi gwybod amdani.

Mae safonau’r VOA i asiantiaid yn pennu’r hyn a ddisgwylir gan asiantiaid.

Mae’r disgwyliadau hyn yn golygu’r canlynol:

  • mae’n rhaid i asiantiaid beidio â chamliwio’u perthynas â’r VOA
  • mae’n rhaid i asiantiaid beidio â gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol ynghylch gweithgarwch y VOA

Mae hyn yn berthnasol i’r hyn y maent yn ei ddweud yn eu deunydd marchnata, gwybodaeth ar-lein, neu gyfathrebiadau eraill.

Mae’r rhan fwyaf o asiantiaid yn rhyngweithio â’r VOA mewn ffordd sy’n broffesiynol ac yn barchus. Fodd bynnag, mae lleiafrif yn dangos ymddygiad ac arferion gwael.

Gall camliwio gynnwys achosion pan fo asiant yn gwneud y canlynol:

  • mae’n awgrymu neu’n crybwyll bod y VOA yn ei gymeradwyo
  • mae’n crybwyll ei fod yn gweithredu fel rhan o’r VOA, neu ar ei rhan
  • mae’n gwneud datganiadau anwir ynghylch gweithgarwch y VOA (er enghraifft, creu dyddiadau cau anwir)
  • mae’n defnyddio logo’r VOA heb awdurdodiad
  • mae’n creu dynodyddion (IDs) neu gyfeirnodau gohebiaeth camarweiniol

Dysgwch ragor am safonau’r VOA i asiantiaid, a sut rydym yn eu gorfodi.

Sut i roi gwybod am achosion o gamliwio

Os byddwch yn gweld unrhyw achos o gamliwio posibl, rhowch wybod i’r VOA amdano drwy anfon e-bost at agentstandards@voa.gov.uk.

Anfonwch atom unrhyw dystiolaeth sydd gennych, megis:

  • e-bost
  • deunyddiau marchnata
  • cysylltiad gwe
  • sgrinlun o wefan neu neges destun

Bydd o gymorth i ni os oes gennych fanylion y dyddiad a’r amser pan wnaethoch ganfod yr achos o gamliwio.

Os gwnaeth y camliwio posibl ddigwydd dros y ffôn, rhowch yr wybodaeth ganlynol i ni:

  • dyddiad ac amser yr alwad
  • pwy wnaeth gysylltu â chi
  • cynnwys y sgwrs, gan gynnwys unrhyw ddatganiadau a allai fod yn gamarweiniol

Pan gawn dystiolaeth o achos posibl o dorri ein safonau i asiantiaid, byddwn yn ymchwilio i hyn.

Drwy roi gwybod i ni am doriadau posibl, byddwch yn ein helpu i weithredu ar sail sgamiau ac i ddiogelu cwsmeriaid. Byddwn yn gweithredu bob tro os byddwn yn cadarnhau bod y safonau wedi’u torri.

Hefyd, gallwch gysylltu â’r Awdurdod Safonau Hysbysebu, sy’n rheoleiddio hysbysebu. Gall yr Awdurdod gymryd camau i wahardd hysbysebion sydd yn gamarweiniol, yn niweidiol, yn sarhaus, neu’n anghyfrifol.

Diogelwch

Os hoffech i asiant reoli’ch ardrethi busnes, defnyddiwch ein rhestr wirio er mwyn dewis un.

Mae arweiniad ynghylch osgoi sgamwyr hefyd ar gael.

Enghreifftiau o gamliwio

Isod, ceir sgrinluniau sy’n dangos camliwio. Byddwch yn wyliadwrus rhag asiantiaid sy’n gwneud honiadau anwir fel y rhain.

  • Dyddiadau cau anwir

Byddwch yn wyliadwrus rhag honiadau anwir ynghylch dyddiadau cau sydd ar ddod. Gallai’r rhain ymwneud â herio’ch prisiad ardrethi busnes neu’ch band Treth Gyngor cyn dyddiad cau penodol. Os nad ydych yn sicr, cysylltwch â’r VOA.

Rydym yn ymwybodol o honiadau anwir ynghylch dyddiadau cau ar gyfer herio rhestrau ardrethu 2023. Nid yw’r rhain yn wir. Dylech wylio rhag unrhyw un sy’n gwneud yr honiadau hyn.

Yn gyffredinol, gallwch herio prisiad eich eiddo ar restrau 2023 ar unrhyw adeg tan fis Mawrth 2026. Mae unrhyw honiad bod yna ddyddiad cau sy’n gynharach yn anwir.


  • Honiadau anwir ynghylch ad-daliadau

Isod, ceir enghreifftiau o honiadau anwir ynghylch ad-daliadau.

Ni fydd y VOA byth yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch o ran ardrethi busnes neu Dreth Gyngor. Os oes gennych gwestiynau ynghylch eich bil Treth Gyngor neu ardrethi busnes, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol.



Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 September 2024

Sign up for emails or print this page