Canllawiau

Carchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Styal

Mae Styal yn garchar a sefydliad troseddwyr ifanc (STI) yn Wilmslow, Swydd Gaer, ar gyfer menywod 18 oed a throsodd.

Yn berthnasol i England and Gymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Styal

I ymweld â rhywun yn Styal, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw (dim ond y carcharor gaiff eich ychwanegu neu eich tynnu o’i rhestr ymwelwyr)
  • bwcio eich ymweliad o leiaf 48 awr ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Styal.

Cysylltwch â Styal os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Styal
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Llinell archebu dros y ffôn: 0300 060 6512
Gwybodaeth am gost galwadau

Mae’r llinell archebu ar agor:

  • Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener: hanner dydd i 5pm
  • Dydd Mawrth a dydd Iau: 9am i 5pm.

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth a dydd Iau: 2pm i 4pm (uchafswm o 14 o garcharorion)
  • Dydd Gwener: dim ymweliadau
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul: 9:30am i 11:30am (tŷ agored yn unig) a 2pm i 4pm (uchafswm o 14 o garcharorion)

Dylai ymwelwyr gyrraedd 15 munud cyn eich slot amser.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gellir trefnu ymweliadau cyfreithiol drwy e-bostio: hmppsvisitbooking@justice.gov.uk

Dyma’r ymweliadau cyfreithiol (wyneb yn wyneb):

  • Dydd Mawrth a dydd Iau: 9:30am i 10:30am a 10:45am i 11:45am
  • Gellir trefnu ymweliadau cyfreithiol fideo o’r carchar hefyd gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost uchod – mae’r rhain ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30am a 5pm

Cyrraedd Styal

Dod o hyd i Styal ar fap

Y gorsafoedd trenau agosaf yf:

  • Gorsaf Styal – 10 munud ar droed o’r carchar
  • Gorsaf Wilmslow – taith 5 munud mewn tacsi i’r carchar

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Does dim maes parcio yn y carchar. Mae llefydd parcio yn brin ac nid oes mannau dynodedig ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Mynd i mewn i Styal

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad drwy deimlo, gan gynnwys plant.

Ni chaniateir arian parod yn y carchar. Bydd angen i chi adael unrhyw eitemau gwerthfawr mewn locer cyn mynd i mewn i’r ardal ymwelwyr.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan Bartneriaid Carcharorion (POPS).

Nid oes toiledau ar gael i’w defnyddio yn y neuadd ymweliadau.

Ymweliadau teulu

Does dim ymweliadau teulu ar gael ar hyn o bryd.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Styal

Efallai na fyddwch chi’n gallu siarad â rhywun yn Styal yn ystod ei dyddiau cyntaf. Y rheswm am hyn yw y gall gymryd hyd at 48 awr i gymeradwyo pwy y gallan nhw fod mewn cysylltiad â nhw.

Caniateir un galwad ffôn dan oruchwyliaeth wrth gyrraedd y Ganolfan Noson Gyntaf. Os oes gan garcharor gyfyngiadau ar waith, ni fydd yn gallu gwneud galwad.

Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser.

Os oes angen i chi gysylltu â rhywun yn Styal ar frys, ffoniwch y switsfwrdd a gofyn am gael siarad â’r Llywodraethwr ar Ddyletswydd neu’r Swyddog Atebol.

Galwadau ffôn

Dim ond os ydych chi ar ei restr ffrindiau a theulu y mae carcharor yn cael ei ffonio. Mae’r rhestr hon yn cael ei gwirio gan y tîm diogelwch.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Styal drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion gan y carcharor, yn dibynnu ar y rheolau yn Styal.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Llythyrau

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, gallwch chi ddefnyddio eu dyddiad geni neu gallwch chi ddod o hyd i’w rhif carcharor.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae carcharorion yn cael rhestr o eitemau cymeradwy y gellir eu hanfon atynt fel anrhegion. Cysylltwch â Styal i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.   I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Bywyd yn Styal

Mae Styal wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd a chanolbwyntio ar eu datblygiad personol.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yn Styal hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Mae gan Styal gynllun mentora cyfoedion hefyd. Mae carcharorion sydd wedi’u hyfforddi yn rhoi cyngor i’r menywod eraill ac yn rhoi gwybod iddyn nhw am asiantaethau sy’n gallu eu helpu. Mae rhai hefyd yn trefnu clybiau llyfrau i helpu i wella sgiliau darllen.

Mae mentoriaid yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 mewn mentora.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan mae pobl yn cyrraedd am y tro cyntaf, maen nhw’n aros yn y Ganolfan Noson Gyntaf am hyd at 48 awr cyn symud i’w llety.

Maen nhw’ cael eu cyfweld gan swyddog ac yn cael eu cyflwyno i fyw yn y ddalfa. Bydd y swyddog yn egluro rheolau’r carchar a byddan nhw’n cael cynnig pryd poeth, cawod a galwad ffôn i’w teulu neu bartner.

Ar ôl hynny, byddan nhw’n gweld nyrs a all helpu gydag unrhyw anghenion gofal iechyd.

Byddan nhw’n cael pethau ymolchi ac yn gallu prynu pecyn bwyd neu becyn fepio. Gallan nhw fenthyg arian o’r carchar os nad oes ganddyn nhw arian parod pan fyddant yn cyrraedd.

Bydd carcharorion newydd hefyd yn cwrdd â’r caplan ar ddyletswydd, y nyrs iechyd meddwl a’r gweithiwr cymorth cam-drin domestig yn ystod eu 48 awr gyntaf i helpu gydag unrhyw bryderon a allai fod ganddyn nhw.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Styal yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 480 o garcharorion yn byw yn Styal.

Mae’r llety’n gymysgedd o ddormerau a chelloedd unigol.

Mae gan Styal Uned Mamau a Babanod hefyd ar gyfer carcharorion sydd â babanod hyd at 18 mis. Mae’r uned yn cael ei rhedeg gan yr elusen Gweithredu dros Blant.

Gwasanaethau ffydd

Mae’r tîm caplaniaeth amrywiol yn cynnig gwasanaethau wythnosol, cyrsiau datblygiad personol, cymorth mewn profedigaeth a lle tawel ar gyfer gweddïo personol.

Addysg a gwaith

Mae addysg yn Styal yn cael ei ddarparu gan Novus ac mae’n cynnwys:

  • Saesneg a mathemateg
  • trin gwallt a harddwch
  • sgiliau ymarferol
  • TG a gweinyddu busnes
  • peintio ac addurno
  • garddwriaeth

Gall carcharorion yn yr Uned Mamau a Babanod gymryd rhan mewn rhaglenni sy’n cefnogi datblygiad eu plentyn. Mae meithrinfa hefyd er mwyn i famau allu mynychu dosbarthiadau addysg eraill.

Mae gan y llyfrgell, sy’n cael ei darparu gan Gyngor Sir Swydd Gaer, sawl cyfrifiadur ar gyfer dysgu (heb fynediad i’r rhyngrwyd) yn ogystal ag amrywiaeth o lyfrau, CDs a DVDs.

Mae carcharorion yn cynhyrchu cylchgrawn chwarterol o’r enw ‘Innit’ a dderbyniodd wobr genedlaethol am ansawdd y newyddiaduraeth yn 2006.

Rhyddhau dros dro

Gellir ystyried rhyddhau carcharorion yn Styal ar drwydded dros dro. Mae’n dibynnu ar ble maen nhw yn eu dedfryd ac ar asesiad risg trylwyr.

Gellir ystyried menywod ar gyfer ailsefydlu gofal plant os gallan nhw ddangos mai nhw oedd unig ofalwr eu plentyn cyn iddyn nhw ddod i’r ddalfa ac mai nhw fydd yr unig ofalwr eto ar ôl cael eu rhyddhau. Mae hyn hefyd yn dibynnu ar asesiad risg trylwyr.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth yn Styal

Mae Styal yn gweithio’n galed i helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad.

Darperir gwasanaethau teulu yn Styal gan PACT.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01625 553000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01625 553337 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.
Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall cysylltwch â Styal.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Styal mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Styal

Llywodraethwr: Nicky Hargreaves

Ffôn: 01625 553 000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 7am i 8pm
Penwythnosau a Gwyliau Banc, 7am i 5pm
Ffacs: 01625 553 001
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP/YOI Styal
Wilmslow
Cheshire
SK9 4HR

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 October 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 February 2024 + show all updates
  1. Opening hours updated for visits booking telephone line.

  2. Updated visiting information

  3. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  4. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  5. Updated visiting information: Visits suspended.

  6. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  7. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  8. New visiting times and booking information added.

  9. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  10. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  11. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  12. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  13. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  14. Updated: HMP Styal visiting times and visiting procedure changes during coronavirus.

  15. Updated information to include confirmation of secure video calls being available at this prison.

  16. Updated survey link

  17. Prison visits update.

  18. Added link to Styal action plan

  19. First published.

Sign up for emails or print this page