Canllawiau

Symud i Gredyd Cynhwysol os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

Gan y bydd un neu fwy o'ch budd-daliadau yn dod i ben yn fuan, mae angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol.

Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland

Dylech ond darllen y canllaw hwn os ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo

I barhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Os nad ydych yn derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo, ewch i’r canllaw Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi neu eich partner o oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae rheolau ac arweiniad cymhwysedd gwahanol os ydych yn cael llythyr Hysbysiad Trosglwyddo ac rydych:

Budd-daliadau sy’n dod i ben

Mae’r budd-daliadau canlynol yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol:

  • Credydau treth: Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant

  • Budd-dal Tai

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

  • Budd-dal Tai, oni bai eich bod mewn llety â chymorth neu lety dros dro

Bydd budd-daliadau eraill, fel Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), yn aros yr un fath.

Bydd Budd-dal Tai yn dod i ben oni bai eich bod mewn llety â chymorth neu lety dros dro

Os ydych yn byw mewn llety dros dro neu lety â chymorth, bydd eich Budd-dal Tai yn parhau i gael ei dalu gan eich cyngor lleol.

Os penderfynwch beidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai. Fodd bynnag, bydd eich budd-daliadau neu gredydau treth eraill yn dod i ben.

Gan eich bod yn cael Budd-dal Tai, ni allwch gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai ac nad ydych yn siŵr a ydych yn byw mewn llety â chymorth neu lety dros dro, siaradwch â’ch cyngor lleol.

Darganfyddwch fwy am gymhwyster am Fudd-dal Tai.

Pryd fydd angen i chi wneud cais

Er mwyn parhau i gael cymorth ariannol, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr. Mae hyn yn 3 mis o’r dyddiad y cafodd y llythyr ei anfon allan.

Os nad ydych yn  gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser, dylech gysylltu â’r llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl.

Efallai y byddwch yn gallu cael mwy o amser i chi wneud cais os oes gennych reswm da. Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn cyn y terfyn amser ar eich llythyr.

Rheolau cymhwysedd ar gyfer gwneud cais

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau byw hyd yn oed os ydych yn gweithio

Gan fod eich budd-daliadau yn dod i ben a bod angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol mae rhai o’r rheolau cymhwysedd arferol ar gyfer gwneud cais yn wahanol. Gelwir hyn yn ‘ddiogelwch trosiannol’. I gael diogelwch trosiannol rhaid i chi wneud cais erbyn y terfyn amser.

Os ydych yn cael credydau treth

Os ydych yn cael credydau treth, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000.

Ar ôl 12 mis, bydd y rheolau cymhwysedd arferol yn berthnasol. Ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych ddal mwy na £16,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau.

Os ydych yn gwneud cais ar ôl y terfyn amser a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn fyfyriwr

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi neu’ch partner mewn addysg uwch llawn amser (fel prifysgol) am gyfnod eich cwrs. Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol a myfyrwyr

Beth fyddwch chi’n ei gael

Ar Gredyd Cynhwysol, bydd gan y rhan fwyaf o bobl hawl i’r un swm a gawsant o’u budd-daliadau blaenorol, neu fwy.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid cyn i chi wneud eich cais, gallai hyn effeithio ar y swm a gewch.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi, er enghraifft os:

  • mae gennych blant

  • mae gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio

  • rydych angen help i dalu eich rhent

Darganfyddwch fwy am beth fyddwch chi’n ei gael.

Taliadau ychwanegol ‘Diogelwch trosiannol’

Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo ar eich budd-daliadau presennol yn fwy nag y byddwch yn ei gael ar Gredyd Cynhwysol, mae ychwanegiad ar gael. Gelwir hyn yn daliad ‘diogelwch trosiannol’

Dim ond os ydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo ac yn gwneud cais erbyn y terfyn amser ar eich llythyr y gallwch gael y swm ychwanegol hwn.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid ar ôl i chi wneud eich cais, gall unrhyw ddiogelwch trosiannol a gewch ddod i ben.

Cyfrifianellau budd-daliadau

Gallwch ddefnyddio gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol am ddim a dienw i amcangyfrif faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Mae cyfrifianellau budd-daliadau yn rhoi amcangyfrifon, felly efallai na fyddant yn gywir.

Mae cyfrifianellau entitledto a Policy in Practice Better Off yn:

  • cyfrifo diogelwch trosiannol (taliadau atodol) sydd ar gael

  • cymryd i ystyriaeth os ydych o oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • gallu cael eu defnyddio os ydych yn derbyn credydau treth a bod gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o £16,000 neu fwy

Nid yw cyfrifiadau yn cynnwys unrhyw ddidyniadau y gellir eu cymryd o’ch swm Credyd Cynhwysol.

Nid yw DWP yn gyfrifol am wybodaeth a roddir gan y cyfrifianellau

Sut mae eich Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo

Cyfrifir Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn ‘gyfnodau asesu’. Mae hyn yn wahanol i gredydau treth oedd yn cael eu cyfrifo’n flynyddol.

Didyniadau

Gellir cymryd arian o’ch taliadau Credyd Cynhwysol i dalu am bethau fel:

  • dirwyon llys

  • ôl-ddyledion rhent

  • gordaliadau neu ôl-ddyledion o gredydau treth, Treth Cyngor, Budd-dal Tai, ESA a JSA

  • dyledion cyfleustodau, fel trydan, nwy, dŵr

Ni ellir didynnu arian o bethau fel eich lwfans plant, gofal plant a chostau tai.

Darganfyddwch fwy am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Enillion

Os ydych yn gweithio, bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar eich enillion. Mae hyn yn cynnwys incwm o weithio’n llawn amser, rhan amser, yn gyflogedig neu hunangyflogedig.

Mae eich amgylchiadau’n cael eu hasesu bob mis. Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu cyfan - nid o’r dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt.

Mae’r ffordd mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo yn wahanol i gredydau treth.

Darganfyddwch sut mae eich cyflog yn effeithio eich taliadau.

Beth fyddwch yn ei gael os ydych yn byw gyda’ch partner

Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch un chi.

Os ydych yn symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Os ydych wedi bod yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), ni fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol fel nodiadau ffitrwydd, neu gael Asesiad Gallu i Weithio (WCA) os yw’r cyfan o’r canlynol yn berthnasol:

  •  rydych yn symud o ESA i Gredyd Cynhwysol heb doriad

  • rydych eisoes wedi cwblhau WCA

  • roeddech yn y ‘grŵp cymorth’ neu ‘gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ o fewn ESA pan wnaethoch eich cais am Gredyd Cynhwysol

Efallai y bydd angen i chi gael asesiad arall os yw eich WCA i gael ei adolygu neu os bydd eich cyflwr yn newid.

Os oeddech yn darparu tystiolaeth feddygol ar ESA cyn i chi symud, bydd angen i chi barhau i ddarparu tystiolaeth feddygol pan ar Gredyd Cynhwysol nes i chi gael penderfyniad WCA.

Darganfyddwch fwy am gyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol.

Gwneud cais ar ôl eich terfyn amser 

Os byddwch yn dewis peidio â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol nawr, bydd eich budd-daliadau presennol yn dal i ddod i ben. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn nes ymlaen, ond bydd rheolau cymhwysedd Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol, er enghraifft ni fydd gennych hawl i ddiogelwch trosiannol.

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch hefyd wneud cais yn y Gymraeg.

Mae angen i chi greu cyfrif i wneud cais. Mae’n rhaid i chi gwblhau eich cais o fewn 28 diwrnod o greu eich cyfrif neu bydd yn rhaid i chi ddechrau eto.

Pan fyddwch chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd eich budd-daliadau presennol sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol yn dod i ben. Ni allwch fynd yn ôl i’r budd-daliadau hynny, oherwydd eu bod yn dod i ben.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch linell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol.

Os ydych mewn cwpl

Byddwch yn cael eich trin fel cwpl o fewn Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr un cartref ac rydych yn:

  • briod i’ch gilydd

  • partneriaid sifil i’ch gilydd

  • yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod

Cyplau sy’n byw gyda’u gilydd

Os ydych yn byw gyda’ch partner mae’n rhaid i chi wneud cais ar y cyd ar gyfer eich cartref, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun.

Mae’n rhaid i’r ddau ohonoch greu  cyfrifon Credyd Cynhwysol ar-lein. Bydd y person cyntaf i greu eu cyfrif yn derbyn cod cysylltu partner. Bydd angen i chi roi’r cod hwn i’ch partner i’w ddefnyddio pan fyddant yn creu eu cyfrif ar-lein. Mae hyn yn cysylltu’r cyfrifon gyda’u gilydd i wneud eich cyfrif ar y cyd.

Unwaith rydych wedi creu eich cyfrif ar y cyd gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Cyplau sy’n byw ar wahân

Os ydych mewn cwpl sy’n byw ar wahân ac mae’r ddau ohonoch yn cael Hysbysiadau Trosglwyddo, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais sengl ar wahân.

Oherwydd eich bod wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, bydd dal gennych hawl i’r gwahanol reolau cymhwysedd:

  • gallwch wneud cais os ydych yn fyfyriwr llawn amser

  • os ydych yn derbyn credydau treth gallwch wneud cais os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000

Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y taliad  diogelwch trosiannol atodol.

Penodai 

Os oes gennych benodai sy’n gyfrifol am wneud a chynnal eich ceisiadau budd-dal, bydd eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn cael ei anfon yn uniongyrchol iddynt hwy. Bydd angen iddynt wneud y cais Credyd Cynhwysol ar eich rhan.

Beth fyddwch ei angen i wneud cais

I wneud cais ar-lein, byddwch angen:

  • manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd

  • cyfeiriad e-bost

  • mynediad i ffôn

I brofi pwy ydych chi, byddwch angen rhai dogfennau fel eich:

  • trwydded yrru

  • pasbort

  • cerdyn debyd neu gredyd

  • slip cyflog neu P60

I gwblhau eich cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am:

  • eich tai, er enghraifft faint o rent rydych yn ei dalu

  • eich enillion, er enghraifft slipiau cyflog

  • unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gwaith

  • faint rydych yn ei dalu am ofal plant os ydych eisiau help gyda chostau gofal plant

  • eich cynilion ac unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu allan

Efallai y byddwch angen apwyntiad gyda’r tîm Credyd Cynhwysol os:

  • maent angen mwy o wybodaeth

  • ni allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein

Byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan gwaith neu dros y ffôn.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein

Camau i gael Credyd Cynhwysol

  1. Sefydlu cyfrif Credyd Cynhwysol Ar-lein.

  2. Cwblhau a chyflwyno cais ar-lein.

  3. Profi eich hunaniaeth.

  4. Darparu dogfennau a thystiolaeth i gefnogi’ch cais.

  5. Cytuno ar y gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawlydd.

Pan fyddwch yn profi pwy ydych byddwn yn gwybod eich bod wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo a bydd eich gwybodaeth yn cael ei chysylltu’n awtomatig.

Os ydych angen help i wneud cais, gallwch gael cymorth am ddim gan wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:

Dechrau nawr

Sut rydych yn cael eich talu

Caiff Credyd Cynhwysol ei dalu unwaith y mis, fel arfer i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch y llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.

Gall eich taliad gynnwys swm ar gyfer costau tai, y bydd angen i chi ei dalu i’ch landlord fel arfer. Os oedd costau tai yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch landlord, bydd angen i chi drafod y newid trefniadau talu gyda nhw.

Taliadau terfynol ar gyfer budd-daliadau presennol

Mae dyddiad eich taliadau terfynol o’ch budd-daliadau presennol yn dibynnu ar ba un bynnag sydd gyntaf:

  • y terfyn amser ar eich llythyr

  • pa bryd y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os oes unrhyw daliadau pellach yn ddyledus, byddant yn cael eu gwneud yn fuan ar ôl i’ch hawl ddod i ben.

Symud o gredydau treth

Os ydych yn hawlio credydau treth, bydd eich hawl yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os na fyddwch yn gwneud cais erbyn y terfyn amser, bydd eich hawl i Gredyd Treth yn dod i ben ar y diwrnod cyn y terfyn amser.

Symud o fudd-daliadau eraill

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol wedi’i dalu am 2 wythnos arall. Mae’n rhaid i chi ddal i fod yn gymwys am eich budd-dal presennol. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r taliadau ychwanegol hyn ac ni fyddant yn effeithio ar y Credyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Mae hyn ond yn berthnasol os ydych yn cael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

  • Cymhorthdal Incwm

  • Budd-dal Tai

Os na fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y terfyn amser, eich diwrnod olaf o hawl i’ch budd-daliadau presennol fydd 2 wythnos ar ôl y terfyn amser.

Os ydych yn derbyn credydau treth ac unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, bydd eich credydau treth yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais, neu’r diwrnod cyn eich dyddiad terfyn amser (pa bynnag un sydd gyntaf). Bydd eich budd-daliadau eraill yn parhau am 2 wythnos.

Help wrth aros am eich taliad cyntaf

Mae eich cais yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno yn eich cyfrif, ond fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.

Os ydych angen help gyda’ch costau byw wrth i chi aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o fewn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Bydd angen i chi ad-dalu eich taliadau ymlaen llaw mewn rhandaliadau o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Darganfyddwch fwy am sut rydych yn cael eich talu gan gynnwys dyddiadau talu, os ydych yn byw gyda phartner, a threfniadau talu amgen.

Eich cyfrifoldebau

Bydd eich cyfrifoldebau’n dibynnu ar eich amgylchiadau.

Pan fyddwch wedi gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi reoli eich cyllid eich hun a chynnal eich cais ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • diweddaru eich cyfrif

  • mynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith, os yw’n briodol

  • rheoli eich rhent eich hun a chostau tai eraill, oni bai bod gennych drefniant talu arall mewn lle

  • rhoi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau

I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’. Darganfyddwch fwy am ymrwymiadau hawlydd.

Newidiadau mewn amgylchiadau mae’n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau:

  • i’ch manylion personol, gan gynnwys newid manylion cyswllt neu gyfrif banc

  • i waith ac arian, gan gynnwys enillion, rhent, swyddi a chynilion

  • i’ch iechyd

  • yn eich cartref, gan gynnwys plant, gofal, partner a statws mewnfudo

Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Cymorth

Llinell gymorth Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol 

Ffôn: 0800 169 0328  

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae rhifau ffôn 0800 yn rhad ac am ddim i’w ffonio o ffonau symudol a llinellau daear.

Os na allwch siarad neu glywed dros y ffôn

Defnyddiwch ein gwasanaeth Relay UK i wneud galwad am ddim, a gefnogir gan destun i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo Credyd Cynhwysol. Deialwch 18001 ac yna 0800 169 0328.

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Defnyddiwch ein gwasanaeth ‘video relay’ i wneud galwad wedi’i ddehongli gan BSL i’r Llinell Gymorth Hysbysiad Trosglwyddo.

Os ydych ar gyfrifiadur, ewch i’r gwasanaeth ‘video relay’

  1. dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’

  2. dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’.

Os ydych ar ffôn symudol neu dabled, defnyddiwch yr ap InterpretersLive!.

O’r ap:

  1. dewiswch ‘Directory’, chwiliwch am ‘Universal Credit’

  2. dewiswch ‘Universal Credit - I have a Migration Notice letter’

  3. dewiswch ‘Call Now’, dewiswch Company to contact: ‘DWP (DA Languages)’

  4. dewiswch Department: ‘Universal Credit - if you have a Migration Notice letter’

  5. dewiswch ‘Connect Now’.

Os ydych angen help, edrychwch ar fideo YouTube.

Help a chymorth ariannol arall

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth allwch chi ei gael

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gwahanol yn yr Alban.

Os ydych mewn anawsterau ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol, a sefydliadau eraill, fel advicelocal.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 October 2024 + show all updates
  1. Added link to the new Migration Notice Helpline video relay service. Added information about appointees in the 'How to claim Universal Credit' section. Added 'If you live in Wales, you can also claim in Welsh.'

  2. If you live in temporary or supported housing, your Housing Benefit will continue to be paid by your local council, even if you decide not to claim Universal Credit.

  3. Added a link to new guidance on how money, savings and investments affect Universal Credit.

  4. Clarified that if you’re in a couple who live apart and you both get Migration Notices, you’ll each need to make separate single claims. You will not be entitled to the transitional protection 'top up'. But you will be entitled to claim Universal Credit even if you're a full-time student and have money, savings and investments of more than £16,000.

  5. Linked to 2 new guides for the following claimants who have received a Migration Notice letter: 1) For those in a couple and only one partner is State Pension age. 2) For those who are State Pension age, or in a couple who are both state Pension age. Added link to Help to Claim Scotland. Confirmed that claimants who are moving to Universal Credit from Employment and Support Allowance (ESA) without a break do not need to provide fit notes if they meet the listed criteria.

  6. The entitledto and Better Off calculators now include transitional protection calculations.

  7. Added information on: - claiming after your deadline - how we know you are a migration notice claimant - final payments if you get both tax credits and other legacy benefits - claimant commitment details

  8. Added translation

  9. If you’re not able to open a bank, building society or credit union account, call the Universal Credit Migration Notice helpline for advice about how to arrange a different way of getting paid. If your payment does not arrive on time, send us a message using your online account or phone the Universal Credit helpline.

  10. Added links to the new transitional protection guidance.

  11. You can now use the 'entitledto' benefits calculator if you receive tax credits and have more than £16,000 in money, savings and investments.

  12. Added translation

  13. This guidance also applies to Scotland from 31 July 2023.

  14. Money can also be taken from your Universal Credit payment to pay for tax credits overpayments.

  15. First published.

Sign up for emails or print this page