Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch incwm o gyflogaeth 

Sut i ddiweddaru’ch manylion ar-lein os yw’r amcangyfrif o’ch incwm ar gyfer y flwyddyn yn mynd i fod yn fwy neu’n llai na’r disgwyl.

Rhowch adborth i ni.

Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am yr arweiniad hwn er mwyn helpu i wella GOV.UK.

Caiff eich treth ei chyfrifo ar sail amcangyfrif o faint y byddwch yn ei ennill bob blwyddyn. Os ydych chi’n ennill mwy neu lai nag arfer, gallwch roi gwybod i ni.

Dylech ddiweddaru’ch incwm amcangyfrifedig os bu newid i gyfanswm eich incwm a’ch bod o’r farn y bydd hyn yn effeithio ar eich band Treth Incwm presennol. Mae hyn yn gallu digwydd os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • dechrau ennill goramser rheolaidd 
  • cael codiad cyflog 
  • cael bonws
  • ar gontract dim oriau a bod eich oriau wedi cynyddu neu wedi gostwng 
  • wedi ymddeol yn rhannol ac yn gweithio llai

Gwirio a diweddaru’ch manylion os ydynt yn anghywir neu ar goll

Gallwch ddefnyddio adran TWE eich cyfrif ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i wirio:

  • eich cyflog amcangyfrifedig ar gyfer y flwyddyn
  • os yw’r holl incwm arall rydych chi’n ei ennill wedi’i gynnwys, fel incwm o rent, creu cynnwys neu swyddi achlysurol fel danfon bwyd

Defnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF

  1. Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF.
  2. Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
  3. Dewiswch ‘gwirio’r flwyddyn dreth bresennol’ i weld eich Crynodeb Treth Incwm TWE ar gyfer 6 Ebrill i 5 Ebrill.
  4. I ddiweddaru’ch incwm trethadwy amcangyfrifedig, dewiswch ‘bwrw golwg dros neu ddiweddaru manylion cyflogaeth’ a ‘diweddaru’ch incwm trethadwy amcangyfrifedig’.
  5. I roi gwybod i ni am incwm sydd ar goll, dewiswch ‘diweddaru neu ddileu’ yn yr adran ‘Incwm heb ei godio’.

Defnyddio ap CThEF

  1. Lawrlwythwch ap CThEF.
  2. Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
  3. I ddiweddaru’r amcangyfrif o’ch incwm, dewiswch ‘diweddaru’r amcangyfrif o’ch incwm’
  4. I roi gwybod i ni am incwm sydd ar goll, dewiswch ‘ychwanegu incwm sydd ar goll’.

Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am incwm ychwanegol.

Os oes gennych fanylion eraill sydd angen eu newid, gallwch roi gwybod i CThEF am y canlynol:

Mae cadw’ch cod treth yn gyfredol yn helpu i sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth. Mae hyn yn ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn talu gormod neu ddim digon o dreth.

Ar ôl i chi ddiweddaru’ch manylion

Ni fydd pob newid yn effeithio ar eich cod treth. Byddwn yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn os bydd eich cod treth yn newid. Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos eich cod treth newydd ac unrhyw addasiadau os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth.

Pan fyddwch yn cofrestru i gael diweddariadau di-bapur, byddwch yn cael neges os bydd eich cod treth yn newid. Gallwch fwrw golwg dros y diweddariadau hyn yn:

Mynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth 

Gallwch ddewis cael diweddariadau am unrhyw newidiadau i’ch cod treth drwy e-bost neu fel neges ar-lein yn eich cyfrif ar-lein CThEF neu’r ap CThEF. Dysgwch sut i fynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth.

Os oes angen help ychwanegol arnoch i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF 

Gallwch ddysgu sut i:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2025

Print this page