Rhowch wybod i CThEF am gyflenwadau tir ac eiddo rydych yn eu gwneud
Rhowch wybod i CThEF am natur benodol y cyflenwadau tir ac eiddo rydych yn eu gwneud gan ddefnyddio ffurflen VAT5L.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Oni bai eich bod yn dewis trethu cyflenwad o dir moel neu eiddo masnachol, ar gyfer datblygu neu weithio ar eich tir neu eiddo eich hun, efallai y gofynnir i chi am wybodaeth ychwanegol.
Efallai y gofynnir i chi am dystiolaeth trydydd parti bod y canlynol yn wir:
- chi sy’n berchen ar y tir neu’r eiddo
- rydych yn bwriadu prynu neu gaffael y tir neu’r eiddo
- mae gennych fuddiant llesiannol yn y tir neu’r eiddo
Er enghraifft, dogfennau y Gofrestrfa Tir neu brydles neu ohebiaeth cyfreithwyr.
Gellir gofyn i chi hefyd am gopi o un o’r canlynol:
- y cais cynllunio perthnasol
- y caniatâd cynllunio
- hysbysiad cymeradwyo blaenorol gan y cyngor o dan hawliau datblygu a ganiateir
Os nad oes gennych hyn, gallwch anfon tystiolaeth trydydd parti sy’n dangos eich gweithgareddau rydych yn bwriadu eu gwneud ar gyfer datblygu tir neu eiddo. Er enghraifft, copïau o ddarluniau pensaer neu gyngor cyn gwneud cais.
Gellir gofyn am gopi o unrhyw ganiatâd cynllunio sydd wedi dod i ben, gyda thystiolaeth i ddangos naill ai:
- bod y datblygiad wedi dechrau o fewn yr amserlen a ganiateir
- eich bod wedi gwneud cais arall am ganiatâd cynllunio (os yw’n berthnasol)
Os na fyddwch yn rhoi’r holl wybodaeth ofynnol i chi, bydd oedi gyda’ch cais.
Gallwch ddewis rhoi tystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol sy’n dangos eich bod yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, cyflenwadau trethadwy o dir neu eiddo, os hoffech i CThEF ei ystyried.
Rhoi gwybod i CThEF
Dylech gael eich holl wybodaeth gyda’ch gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
Ar ôl ei llenwi, gallwch gadw’r ffurflen fel PDF a’i atodi i’ch cais ar-lein i gofrestru ar gyfer TAW.
Fel arall, gallwch argraffu a phostio’r ffurflen i:
BT VAT
HM Revenue and Customs
BX9 1ST
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 May 2023 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
Form VAT5L has been updated so that you can now complete it digitally.
-
First published.