Ffurflen

Adennill TAW, neu wneud hawliad am ryddhad TAW, pan fyddwch yn canslo’ch cofrestriad TAW

Defnyddiwch ffurflen VAT427 i adennill TAW, neu wneud hawliad am ryddhad TAW, ar ôl i chi ganslo’ch cofrestriad TAW.

Dogfennau

Adennill neu wneud hawliad gan ddefnyddio ffurflen argraffu ac anfon

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saenseg)

Manylion

Defnyddiwch ffurflen VAT427 i adennill TAW, neu wneud hawliad am ryddhad TAW, ar ôl i chi ganslo’ch cofrestriad TAW.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud y canlynol:

  • adennill TAW a dalwyd (treth fewnbwn) ar bryniannau pan yr oeddech wedi cofrestru ar gyfer TAW
  • adennill TAW a dalwyd (treth fewnbwn) ar wasanaethau penodol a brynoch ar ôl i chi ganslo’ch cofrestriad TAW
  • cael rhyddhad ar y TAW a dalwyd i CThEF (treth allbwn) ar ddrwgddyledion a nodwyd gennych ar ôl i chi ganslo’ch cofrestriad TAW

Sut i ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon

Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd. Mae’n well i gasglu’r holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 December 2012

Sign up for emails or print this page