Rhoi gwybod i CThEF a oes gennych swydd newydd neu fwy nag un swydd
Sut i ddiweddaru’ch manylion ar-lein os ydych chi wedi dechrau gyda chyflogwr newydd ac ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir.
Rhowch adborth i ni.
Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am yr arweiniad hwn er mwyn helpu i wella GOV.UK.
Pan fyddwch yn dechrau swydd newydd, bydd eich cyflogwr yn rhoi manylion eich incwm i CThEF. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’ch cod treth. Os oes gennych fwy nag un swydd, bydd gennych god treth ar gyfer pob cyflogaeth.
Os na fyddwn yn cael manylion eich incwm mewn pryd, neu os byddwch yn penderfynu peidio â rhannu’r wybodaeth hon â’ch cyflogwr newydd, efallai y byddwch yn cael eich rhoi ar god treth dros dro.
Os byddwch yn cael swydd newydd, dylech chi wneud y canlynol:
- rhoi eich P45 i’ch cyflogwr newydd (yn agor tudalen Saesneg)
- llenwi’r rhestr wirio ar gyfer gyflogeion sy’n cychwyn os nad oes gennych P45 neu os ydych chi’n penderfynu peidio â rhannu’ch holl fanylion incwm â’ch cyflogwr newydd
Gwirio’ch manylion ar-lein
Bydd manylion eich cyflogaeth newydd ar gael i’w gweld cyn pen 6 wythnos i’ch diwrnod cyflog cyntaf.
Gallwch ddefnyddio adran TWE gwasanaethau ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i wirio’r canlynol:
- bod gan CThEF fanylion eich holl gyflogwyr cyfredol
- bod eich incwm amcangyfrifedig ar gyfer y flwyddyn yn cyfateb i’r hyn rydych chi’n meddwl y byddwch yn ei ennill
- mai dim ond un cyflogwr sy’n defnyddio’r cod treth 1257L ar unrhyw un adeg
Defnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF
- Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF.
- Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
- Dewiswch ‘gwirio’r flwyddyn dreth bresennol’ i weld eich Crynodeb Treth Incwm TWE ar gyfer 6 Ebrill i 5 Ebrill.
Defnyddio ap CThEF
- Lawrlwythwch ap CThEF.
- Ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
Diweddaru’ch manylion os ydynt yn anghywir neu ar goll
Os yw’ch manylion yn anghywir neu ar goll, gallwch ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF neu’r ap CThEF i wneud y canlynol:
- diweddaru manylion eich cyflogwr
- ychwanegu cyflogwr sydd ar goll
- rhoi gwybod i ni pryd daeth cyflogaeth i ben
- diweddaru’ch incwm amcangyfrifedig gydag amcangyfrif o’r swm ar gyfer y flwyddyn gyfan neu ddefnyddio symiau diweddar o slip cyflog
Os oes gennych fanylion eraill sydd angen eu diweddaru, gallwch roi gwybod i CThEF am newid i’ch:
- incwm o gyflogaeth
- incwm pensiwn
- buddiannau cwmni fel car cwmni neu yswiriant meddygol
Mae cadw’ch cod treth yn gyfredol yn helpu i sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir o dreth. Mae hyn yn ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn talu gormod neu ddim digon o dreth.
Ar ôl i chi ddiweddaru’ch manylion
Ni fydd pob newid y byddwch yn rhoi gwybod i CThEF amdanynt yn effeithio ar eich cod treth. Byddwn yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn os bydd eich cod treth yn newid. Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos eich cod treth newydd ac unrhyw addasiadau os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth.
Pan fyddwch yn cofrestru i gael diweddariadau di-bapur, byddwch yn cael neges os bydd eich cod treth yn newid. Gallwch fwrw golwg dros y diweddariadau hyn yn:
- yr adran negeseuon o’ch cyfrif ar-lein CThEF
- yr adran gohebiaeth o’ch ap CThEF
Mynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth
Gallwch ddewis cael diweddariadau am unrhyw newidiadau i’ch cod treth drwy e-bost neu fel neges ar-lein yn eich cyfrif CThEF neu’r ap CThEF. Dysgwch sut i fynd yn ddi-bapur i gael diweddariadau am eich cod treth.
Os oes angen help ychwanegol arnoch i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
Gallwch ddysgu sut i:
- gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch os na allwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein
- gofrestru ffrind neu aelod o’r teulu i’ch helpu chi gyda’ch treth
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2025Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Ionawr 2025 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation