Hanes niwclear y DU
Gwastraff ymbelydrol yn ei gyd-destun
Ein gwaddol niwclear
Mae’r Deyrnas Unedig yn arloeswr ym maes technoleg niwclear, ac yma yr agorwyd yr orsaf pŵer niwclear fasnachol gyntaf yn y byd yn 1956 yn Calder Hall ger Sellafield yn Cumbria. Mae pŵer niwclear wedi creu buddion mawr: mae wedi cyfrannu at amddiffyn, cynhyrchu trydan am dros 60 o flynyddoedd ac mae ein gwlad yn parhau i fod yn fenter niwclear flaenllaw yn fyd-eang.
Heddiw mae’r DU yn wynebu’r her o lanhau gwaddol ei gweithgareddau niwclear cynnar - rhaglen ar raddfa fawr a roddir ar waith gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA). Mae hynny’n cynnwys darparu datrysiadau arloesol ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol sy’n bodloni safonau diogelwch heddiw ac a fydd yn ein gwarchod i’r dyfodol pell.
Pam ein bod yn defnyddio ynni niwclear heddiw
Polisi Llywodraeth y DU yw cael cymysgedd eang o gyflenwadau ynni, felly rydym yn defnyddio niwclear yn ogystal â ffynonellau ynni eraill, megis nwy a solar. Heddiw mae ynni niwclear yn cynhyrchu tua un rhan o bump o drydan y wlad, ac o dan gynlluniau presennol y llywodraeth sy’n cynnwys Hinkley Point C, bydd peth o’n pŵer yn dod o ffynonellau niwclear yn y dyfodol.
Mae yna resymau pwysig pam fod niwclear yn rhan o’r gymysgedd:
-
mae’n ddewis carbon isel sy’n ategu amcanion y DU mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd: mae gorsafoedd pŵer niwclear yn cynhyrchu trydan heb allyrru nwyon tŷ gwydr megis carbon deuocsid a methan.
-
mae gorsafoedd pŵer niwclear yn cynhyrchu trydan 24 awr y dydd, beth bynnag fo’r tywydd
-
nid yw gorsafoedd pŵer niwclear angen cyflenwad dyddiol o danwydd newydd i weithredu, sy’n wahanol i orsafoedd nwy, glo a biomas
O ble arall y daw gwastraff ymbelydrol?
Ar wahân i gynhyrchu pŵer niwclear, daw gwastraff ymbelydrol o:
-
Meddygol - yn benodol defnyddir deunyddiau ymbelydrol i sterileiddio offer a helpu i ddiagnosio a thrin afiechydon meddygol.
-
Diwydiant - er enghraifft, defnyddir pelydrau gama i brofi ansawdd weldio neu drwch cynhyrchion, megis papur.
-
Amddiffyn - mae’n cynnwys gweithredu llongau tanfor pŵer niwclear a dadgomisiynu hen longau tanfor.
-
Ymchwil a datblygu - o dechnoleg ymasiad niwclear i ddatblygu triniaethau radiotherapi i brofi deunyddiau solid newydd ar gyfer mewngapsiwleiddio gwastraff ymbelydrol hylifol.
Mae’r rhestr lawn o’r gwastraff ymbelydrol sy’n bodoli yn ein gwlad yn cael ei diweddaru a’i chyhoeddi ar wefan Rhestr Gwastraff Ymbelydrol y DU.
I ddysgu mwy am ymbelydredd, darllenwch neu lawrlwythwch Beth yw gwastraff ymbelydrol?
Beth sydd angen i ni ei wneud nawr
Mae angen rheoli’r gwastraff ymbelydrol sy’n deillio o gynhyrchu pŵer, meddygaeth a diwydiannau eraill yn ofalus. Ar hyn o bryd mae’r gwastraff presennol yn cael ei storio ar yr wyneb mewn mwy na 30 o safleoedd o gwmpas y DU. Gall y storfeydd yma ar yr wyneb fod yn ddiogel am nifer o ddegawdau, ond mae angen eu gwarchod yn barhaus er mwyn eu cadw’n ddiogel ac mewn cyflwr da, oherwydd mae’r gwastraff yn parhau’n ymbelydrol am gannoedd o filoedd o flynyddoedd.
Mae yna gonsensws rhyngwladol mai gwaredu daearegol yw’r ffordd fwyaf diogel o reoli gwastraff gweithgaredd uwch yn yr hirdymor, ac y bydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn sicrhau nad yw’r cyfrifoldeb o ddiogelu’r gwastraff hwn yn barhaus yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Ffeil wyddoniaeth
I gael mwy o wybodaeth am wastraff ymbelydrol, darllenwch ein ffeil wyddoniaeth, Beth yw gwastraff ymbelydrol?:
Ynglŷn â ni
Mae Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn sefydliad cyhoeddus sy’n gyfrifol am waredu daearegol diogel yn y DU. Mwy o wybodaeth am RWM.
Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma, ’cofrestrwch gyda’n gwasanaeth e-fwletin