Canllawiau

Credyd Cynhwysol: sut mae'n eich helpu i mewn i waith

Os ydych ar incwm isel neu allan o waith, mae Credyd Cynhwysol yn eich cefnogi i ddod o hyd i swydd neu gynyddu'r oriau rydych yn eu gweithio.

This guidance was withdrawn on

This guidance has been withdrawn because it is out of date.

You can find information about how Universal Credit helps you into work on these pages: Back to work schemes,How your wages affect your payments, Universal Credit: further information for families, Universal Credit childcare costs and Universal Credit claimant commitment.

Agor gwaith i fyny

Mae Credyd Cynhwysol wedi’i gynllunio i wneud yn siŵr eich bod yn well eich byd mewn gwaith, trwy ychwanegu at eich cyflog bob mis tra rydych ei angen.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng yn raddol wrth i chi ennill mwy, a bydd yn cynyddu eto os bydd eich swydd yn dod i ben neu os bydd eich enillion yn gostwng.

Universal Credit coins infographic

Mae Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig os bydd eich enillion yn newid, felly bydd cymryd swydd yn werth chweil - hyd yn oed os yw’n swydd dros dro neu am ychydig oriau’r wythnos. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer yr oriau y gallwch weithio, ac os bydd eich swydd yn dod i ben, mae’n hawdd dechrau eich taliadau Credyd Cynhwysol eto.

Cymorth gan eich anogwr gwaith

Mae Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth personol i chi gan anogwr gwaith i’ch helpu i symud i mewn i waith, dod o hyd i swydd well neu adeiladu gyrfa. Gall eich anogwr gwaith roi cyngor i chi am bethau fel:

  • cyfleoedd gwaith a hyfforddiant sy’n addas i chi

  • gwella eich CV a gwneud ceisiadau am swydd yn llwyddiannus

  • cynyddu eich oriau neu ennill mwy

  • cymorth ar gael i dalu tuag at gostau gofal plant

  • ble i gael help gyda rheoli eich arian

Help sydd ar gael i rieni

Yn ogystal â cymorth gofal plant arall sydd ar gael i rieni a gofalwyr, gall rhieni sy’n hawlio Credyd Cynhwysol gael cymorth gyda’u costau gofal plant i’w helpu i symud i mewn i waith a chynyddu eu horiau.

Gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant a dalwyd, hyd at derfyn misol o £1,031.88 ar gyfer un plentyn, a £1,768.94 ar gyfer 2 neu fwy o blant.

Darganfyddwch fwy am beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu i deuluoedd.

Pryd y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol bellach ar gael ym mhobman, os ydych yn gwneud cais newydd am fudd-dal byddwn yn dweud wrthych a ddylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Gweler y rhestr o fudd-daliadau y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli.

Os ydych eisoes yn hawlio budd-daliadau, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nawr. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar yr adeg iawn os oes angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Am gyngor mwy manwl

Mae yna hefyd wybodaeth a chyngor am y buddion mae Credyd Cynhwysol yn eu cynnig i gyflogwyr, yn ogystal â canllawiau ar wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Ebrill 2025 show all updates
  1. On 7 April, the maximum amount you can receive for childcare costs increased to £1,031.88 for one child, and £1,768.94 for 2 or more children.

  2. Content updated to show Universal Credit is now available everywhere.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon