Gwirio rhif EORI
Mae angen rhif EORI dilys ar fusnes i symud nwyddau rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a gwledydd eraill. Mae hefyd angen un er mwyn symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio a yw rhif EORI sy’n dechrau gyda GB (a roddir gan y DU) yn ddilys.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch hefyd weld enw a chyfeiriad y busnes y mae’r rhif EORI wedi’i gofrestru iddo, os yw wedi cytuno i rannu’r wybodaeth hon.
Beth mae angen i chi wybod
Mae’r gwasanaeth hwn yn gwirio rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB yn unig.
Os yw’r rhif EORI sydd gennych yn dechrau gydag XI, neu unrhyw lythyrau eraill, gwiriwch rifau EORI nad ydynt yn dechrau â GB ar-lein.