Amnewid trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio
Gwneud cais ar-lein
Gallwch amnewid eich:
- trwydded yrru lawn
- trwydded yrru dros dro
Mae trwydded newydd yn costio £20. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta.
Os gwnaethoch gais am eich trwydded yrru dros dro ddiwethaf cyn 1 Mawrth 1973, bydd angen ichi ddilyn y broses i wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf yn lle.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Nid oes angen gwrthddalen bapur eich trwydded arnoch.
Cyn ichi ddechrau
Dylech gysylltu â’r heddlu os yw’ch trwydded yrru wedi cael ei dwyn.
I amnewid eich trwydded bydd rhaid ichi:
- fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae gwasanaeth gwahanol i gael yng Ngogledd Iwerddon)
- peidio â bod wedi’ch gwahardd rhag gyrru am unrhyw reswm
Bydd angen ichi ddarparu cyfeiriadau lle rydych wedi byw yn y 3 mlynedd diwethaf ac, os ydych yn eu gwybod, eich:
- rhif trwydded yrru
- rhif Yswiriant Gwladol
- rhif pasbort
Eich ffotograff
Os yw eich trwydded yrru yn dod i ben o fewn 2 flynedd, bydd DVLA yn rhoi’r dewis ichi ddefnyddio ffotograff newydd ar y drwydded amnewid.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- cadw eich ffotograff presennol
- defnyddio eich ffotograff pasbort
Gallwch ddefnyddio eich ffotograff pasbort dim ond os yw pob un o’r canlynol yn wir:
- mae eich trwydded yrru yn dod i ben o fewn 2 flynedd
- mae gennych basbort y DU dilys - bydd angen ichi ddarparu eich rhif pasbort
- rydych yn rhoi caniatâd i DVLA ddefnyddio eich ffotograff
Bydd DVLA yn rhoi gwybod ichi os oes angen ichi roi ffotograff newydd iddynt a sut i’w anfon iddynt.
Gallwch sicrhau bod y ffotograff ar eich trwydded yn cael ei ddiweddaru drwy ddefnyddio’r gwasanaeth adnewyddu ffotograff trwydded yrru.
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.
Beth i’w wneud os ydych yn dod o hyd i’ch hen drwydded yn ddiweddarach
Mae’n rhaid ichi ddychwelyd eich hen drwydded i DVLA yn esbonio beth sydd wedi digwydd os ydych yn dod o hyd iddi ar ôl gwneud cais am un amnewid neu’n derbyn un amnewid.
Anfonwch eich hen drwydded yrru i:
DVLA
Abertawe
SA99 1AB