Newid y ffotograff ar eich trwydded yrru
Mae angen ichi adnewyddu eich trwydded yrru lawn neu dros dro os ydych am ddiweddaru eich ffotograff. Byddwch yn cael trwydded newydd.
I wneud cais ar-lein bydd arnoch angen un o’r canlynol:
- cyfrif gyrwyr a cherbydau
- eich pasbort y DU (neu’r ddogfen a ddefnyddiwyd gennych i fewngofnodi i’ch cyfrif Fisâu a Mewnfudo y DU, os nad ydych yn ddinesydd y DU)
Os nad oes gennych un o’r rhain, bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.
Byddwch yn gallu defnyddio eich ffotograff pasbort neu lanlwytho un newydd.
Mae’n costio £14 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ni allwch wneud cais ar-lein os yw’ch enw neu deitl wedi newid neu os oes gennych drwydded fws neu lori 5-mlynedd.
Adnewyddu ar-lein
Bydd DVLA yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i wirio a oes gennych gyfrif gyrwyr a cherbydau.
Cyn i chi ddechrau
I adnewyddu ar-lein, bydd rhaid ichi:
-
fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae gwasanaeth gwahanol yng Ngogledd Iwerddon)
-
peidio â bod wedi eich gwahardd rhag gyrru
Bydd arnoch angen:
- eich trwydded yrru bresennol (os ydyw gennych)
- eich rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ei wybod)
- cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf
- eich pasbort y DU, os oes gennych un (naill ai’n gyfredol neu wedi dod i ben o fewn y 12 mis diwethaf)
Os nad ydych yn ddinesydd y DU, bydd arnoch angen y ddogfen adnabod rydych yn ei defnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI).
Y gost
Mae trwydded newydd yn costio £14. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol).
Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.
Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun, mae’n rhaid ichi ei hadnewyddu bob 10 mlynedd - byddwch yn derbyn nodyn atgoffa cyn i’ch trwydded bresennol ddod i ben.
Gwneud cais drwy’r post
Gallwch gael ‘pecyn D1W’ o ffurflenni o Swyddfa’r Post sy’n delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun.
Bydd angen cynnwys y pethau canlynol gyda’ch ffurflenni wedi’u llenwi:
- ffotograff math pasbort wedi’i argraffu yn ddiweddar
- y cerdyn-llun a’r gwrthddalen bapur o’ch trwydded bresennol (os ydych wedi colli un neu’r llall, ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen D1W)
- siec neu archeb bost am £17 yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol)
Anfonwch eich cais a’r ffi (os oes angen) i DVLA.
DVLA
Abertawe
SA99 1DH
Os ydych wedi newid eich enw, bydd hefyd angen ichi gynnwys dogfennau adnabod.
Ar ôl ichi wneud cais drwy’r post
Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.
Gallwch barhau i yrru tra rydych yn aros am eich trwydded newydd gyrraedd.