Cyfrif gyrwyr a cherbydau: mewngofnodi neu sefydlu
Defnyddiwch eich cyfrif i wirio eich manylion a gedwir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Gallwch:
-
weld eich cofnod gyrru, er enghraifft cerbydau y gallwch eu gyrru
-
gwirio eich pwyntiau cosb neu waharddiadau
-
ychwanegu a gweld manylion eich cerbydau - gan gynnwys pan fydd yr MOT yn dod i ben
-
gwirio’r cyfraddau treth ar gyfer eich cerbydau
-
sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy e-bost a neges destun - os ydych yn talu treth bob 6 neu 12 mis
-
dewis rhoi’r gorau i gael nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy’r post
-
adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun
-
gweld ffotograff o’ch trwydded yrru (bydd arnoch angen trwydded yrru ffotograff dilys)
-
creu ‘cod gwirio’ trwydded i rannu eich cofnod gyrru gyda rhywun, er enghraifft cwmni llogi car
-
gweld gwybodaeth eich Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gyrwyr (CPC) a thacograff, os oes gennych rhain
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid ichi gael un o’r canlynol:
- trwydded yrru a gyhoeddwyd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- llyfr log cerbyd (V5CW) yn eich enw
Bydd hefyd arnoch angen un o’r canlynol:
- eich pasbort y DU
- y ddogfen adnabod rydych yn ei defnyddio i fewngofnodi i’ch cyfrif Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) os nad ydych yn ddinesydd y DU
Ni allwch sefydlu nodiadau atgoffa treth cerbyd os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.
Mewngofnodi neu greu cyfrif
Bydd DVLA yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i wirio a oes gennych gyfrif gyrwyr a cherbydau.
Cyn i chi ddechrau
I greu cyfrif bydd arnoch angen:
-
cyfeiriad e-bost
-
cyfeiriadau lle rydych wedi byw am y 3 blynedd diwethaf
-
eich pasbort y DU os oes gennych un (naill ai’n gyfredol neu wedi dod i ben o fewn y 12 mis diwethaf), neu’r ddogfen adnabod a ddefnyddiwyd i fewngofnodi i’ch cyfrif UKVI
Efallai y gofynnir ichi am wybodaeth ychwanegol, fel:
-
eich rhif trwydded yrru
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
-
cyfeirnod y llyfr log cerbyd (tystysgrif gofrestru V5CW)
Fel arfer mae’n cymryd tua 5 munud i greu cyfrif. Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch pan fyddwch wedi creu eich cyfrif.
Ffyrdd eraill o wirio manylion gyrru neu gerbyd
Gallwch wneud y canlynol heb greu cyfrif:
Cael nodiadau atgoffa treth cerbyd drwy’r post
Os ydych yn talu am eich treth cerbyd bob 6 neu 12 mis, efallai y cewch nodyn atgoffa hefyd i drethu’ch cerbyd (llythyr V11W) drwy’r post.
Gallwch ddewis peidio â chael nodiadau atgoffa papur pan fyddwch yn sefydlu nodiadau atgoffa digidol yn eich cyfrif.